Search Legislation

Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

RHAN 2AILENWI CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU ETC.

2Ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd Cymru neu Welsh Parliament

Yn adran 1(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (“Deddf 2006”), yn lle “the National Assembly for Wales” hyd at y diwedd rhodder “Senedd Cymru or the Welsh Parliament (referred to in this Act as “the Senedd”)”.

3Ailenwi Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Ddeddfau Senedd Cymru

Yn adran 107(1) o Ddeddf 2006, yn lle “the National Assembly for Wales” hyd at y diwedd rhodder “Senedd Cymru or Deddfau Senedd Cymru (referred to in this Act as “Acts of the Senedd”)”.

4Galw aelodau yn Aelodau o’r Senedd

Yn adran 1 o Ddeddf 2006, ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Members of the Senedd are to be known by that name or as Aelodau o’r Senedd.

5Ailenwi Clerc y Cynulliad yn Glerc y Senedd

Yn adran 26(2) o Ddeddf 2006, yn lle “Assembly” rhodder “Senedd, Clerc y Senedd”.

6Ailenwi Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Gomisiwn y Senedd

Yn adran 27(1) o Ddeddf 2006, yn lle “National Assembly for Wales Commission or Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Senedd Commission or Comisiwn y Senedd”.

7Ailenwi Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Gomisiynydd Safonau y Senedd

Yn adran 1(1) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (mccc 4), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “y Senedd”.

8Ailenwi Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd

Yn adran 1(1) o Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 (mccc 4), yn lle “Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “bwrdd i’w alw’n Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd”.

9Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Mae Atodlen 1 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r Rhan hon.

Back to top

Options/Help