Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020
2020 dccc 3
Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddiddymu amddiffyniad cosb resymol yn y gyfraith gyffredin mewn perthynas â rhoi cosb gorfforol i blentyn sy’n digwydd yng Nghymru; ac at ddibenion cysylltiedig.
Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:
I11Diddymu amddiffyniad cosb resymol yn y gyfraith gyffredin
1
Mae amddiffyniad cosb resymol yn y gyfraith gyffredin wedi ei ddiddymu mewn perthynas â rhoi cosb gorfforol i blentyn sy’n digwydd yng Nghymru.
2
Yn unol â hynny, ni chaniateir cyfiawnhau rhoi cosb gorfforol i blentyn sy’n digwydd yng Nghymru mewn unrhyw achos sifil neu droseddol ar y sail ei bod yn gyfystyr â chosb resymol.
3
Ni chaniateir ychwaith gyfiawnhau rhoi cosb gorfforol i blentyn sy’n digwydd yng Nghymru mewn unrhyw achos sifil neu droseddol ar y sail ei bod yn gyfystyr ag ymddygiad derbyniol at ddibenion unrhyw reol arall yn y gyfraith gyffredin.
4
At ddibenion yr adran hon, ystyr “cosb gorfforol” yw unrhyw guro (yn yr ystyr sydd i “battery” yn y gyfraith gyffredin) a wneir fel cosb.
5
Yn adran 58 o Ddeddf Plant 2004 (p. 31) (cosb resymol)—
a
yn is-adran (1), ar ôl “battery of a child” mewnosoder “taking place in England”,
b
yn is-adran (3), ar ôl “Battery of a child” mewnosoder “taking place in England”, ac
c
mae’r pennawd yn newid i “Reasonable punishment: England”.
I22Hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd bod adran 1 yn dod i rym
Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau cyn i adran 1 ddod i rym er mwyn hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r newidiadau i’r gyfraith sydd i’w gwneud gan yr adran honno.
I33Gofynion adrodd
1
Rhaid i Weinidogion Cymru lunio dau adroddiad ar effaith y newidiadau i’r gyfraith a wneir gan adran 1.
2
Rhaid llunio’r adroddiad cyntaf cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r cyfnod o 3 blynedd, sy’n dechrau pan ddaw adran 1 i rym, ddod i ben.
3
Rhaid llunio’r ail adroddiad cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r cyfnod o 5 mlynedd, sy’n dechrau pan ddaw adran 1 i rym, ddod i ben.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl llunio adroddiad o dan yr adran hon—
a
gosod yr adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a
b
cyhoeddi’r adroddiad.
I44Pŵer i wneud darpariaeth drosiannol etc. drwy reoliadau
1
Caiff rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod ag adran 1 i rym.
2
Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (1) yn arferadwy drwy offeryn statudol.
I55Dod i rym
1
Daw’r adran hon ac adran 2, adran 3, adran 4 ac adran 6 i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
2
Daw adran 1 i rym pan ddaw’r cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol i ben.
I66Enw byr
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.