ATODLEN 1Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru

RHAN 4Swyddogaethau Ategol etc.

11Pwyllgorau

1

Caiff Corff Llais y Dinesydd sefydlu pwyllgorau ac is-bwyllgorau.

2

Caiff pwyllgor neu is-bwyllgor gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o’r Corff neu fod â phersonau o’r fath yn unig.

3

Caiff y Corff dalu treuliau a lwfansau i unrhyw berson—

a

sy’n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn, a

b

nad yw’n aelod o’r Corff, nac yn aelod o’i staff.