ATODLEN 1Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru
RHAN 2Aelodau
2Aelodaeth
1
Aelodau Corff Llais y Dinesydd yw—
a
person a benodir gan Weinidogion Cymru yn aelod-gadeirydd iddo,
b
person a benodir gan Weinidogion Cymru yn ddirprwy i’r aelod-gadeirydd,
c
o leiaf 6 ond dim mwy nag 8 person arall a benodir gan Weinidogion Cymru,
d
ei brif weithredwr (gweler paragraff 9), ac
e
pan fo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan y Corff, berson a benodir yn aelod cyswllt iddo (gweler paragraff 6).
2
Yn yr Atodlen hon, cyfeirir ar y cyd at yr aelodau a benodir gan Weinidogion Cymru fel “aelodau anweithredol”; ac mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at arfer swyddogaeth gan yr aelodau anweithredol yn gyfeiriad at yr aelodau anweithredol yn arfer y swyddogaeth fel pwyllgor o’r Corff.