ATODLEN 3Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol

RHAN 2Diwygiadau a diddymiadau sy’n ymwneud â Rhan 4

I1I216Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 (O.S. 2018/441)

1

Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 3(2)(b) yn lle “Cynghorau Iechyd Cymuned a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt” rhodder “Corff Llais y Dinesydd sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo”.

3

Yn Atodlen 6—

a

hepgorer y cofnod ar gyfer Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru;

b

hepgorer y cofnod ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned;

c

yn y lle priodol mewnosoder—

  • Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (“the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales”)