ATODLEN 3LL+CMân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol

RHAN 2LL+CDiwygiadau a diddymiadau sy’n ymwneud â Rhan 4

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 (O.S. 2018/441)LL+C

16(1)Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn rheoliad 3(2)(b) yn lle “Cynghorau Iechyd Cymuned a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt” rhodder “Corff Llais y Dinesydd sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo”.

(3)Yn Atodlen 6—

(a)hepgorer y cofnod ar gyfer Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru;

(b)hepgorer y cofnod ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned;

(c)yn y lle priodol mewnosoder—

  • Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (“the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales”).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I2Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)