ATODLEN 3Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol

RHAN 2Diwygiadau a diddymiadau sy’n ymwneud â Rhan 4

5Deddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 (p. 67)

Yn Atodlen 1 i Ddeddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 (cyrff y mae’r Ddeddf yn gymwys iddynt), ym mharagraff 1, ar ôl is-baragraff (bj) mewnosoder—

bja

the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales;

6Deddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20)

Yn adran 134 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (gohebiaeth cleifion)—

a

ar ôl is-adran (3)(ca) mewnosoder—

cb

the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales;

b

yn is-adran (3)(e), hepgorer “, a Community Health Council”.

7Deddf Cynghorau Iechyd Cymuned (Mynediad at Wybodaeth) 1988 (p. 24)

Mae Deddf Cynghorau Iechyd Cymuned (Mynediad at Wybodaeth) 1988 wedi ei diddymu.

8Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 36)

Yn Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (awdurdodau cyhoeddus)—

a

yn Rhan 3 (y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru a Lloegr), hepgorer paragraff 41;

b

yn Rhan 6 (cyrff a swyddi cyhoeddus eraill: cyffredinol), ar ôl y cofnod ar gyfer Comisiynydd Plant Cymru mewnosoder—

  • The Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales.

9Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)

Yn adran 148 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (ystyr “cofnodion cyhoeddus Cymru”), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

aa

the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales,

10Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15)

Yn Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (awdurdodau cyhoeddus), yn Rhan 2 (awdurdodau Cymreig perthnasol)—

a

o dan y pennawd “National Health Service”—

i

hepgorer y geiriau “A Community Health Council in Wales.”;

ii

hepgorer y geiriau “The Board of Community Health Councils in Wales or Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru.”;

b

o dan y pennawd “other public authorities”, ar ôl y cofnod ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru mewnosoder—

  • The Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales or Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru.

11Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1)

Yn Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (cyrff cyhoeddus etc.: safonau), yn y tabl —

a

hepgorer y cofnod ar gyfer Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru;

b

hepgorer y cofnod ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned;

c

o dan y pennawd “Cyffredinol”, ar ôl y cofnod ar gyfer Comisiynydd y Gronfa Gymdeithasol mewnosoder—

Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (“The Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion

12Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)

Yn adran 32 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (partneriaid eraill byrddau gwasanaethau cyhoeddus)—

a

hepgorer is-adran (1)(c);

b

ar ôl is-adran (1)(b) mewnosoder—

ba

Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru;

13Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (p. 6)

Yn Atodlen 6 i Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (awdurdodau penodedig), yn Rhan 1 (Cyffredinol: Cymru a Lloegr), o dan y pennawd “Health and social care”, hepgorer y geiriau “A Community Health Council in Wales.”

14Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2)

Yn adran 177 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (ystyr awdurdod perthnasol yn Rhan 9 o’r Ddeddf)—

a

hepgorer is-adran (1)(g), a

b

hepgorer is-adran (2)(c).

15Deddf yr Economi Ddigidol 2017 (p. 30)

Yn Atodlen 4 i Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 (personau penodedig at ddibenion datgelu gwybodaeth i wella cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus), yn Rhan 2 (cyrff Cymreig)—

a

ym mharagraff 35, yn lle “A Community Health Council in Wales.” rhodder “The Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales.”;

b

hepgorer paragraff 38.

16Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 (O.S. 2018/441)

1

Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 3(2)(b) yn lle “Cynghorau Iechyd Cymuned a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt” rhodder “Corff Llais y Dinesydd sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo”.

3

Yn Atodlen 6—

a

hepgorer y cofnod ar gyfer Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru;

b

hepgorer y cofnod ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned;

c

yn y lle priodol mewnosoder—

  • Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (“the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales”)

17Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3)

1

Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn adran 16 (pŵer i ymchwilio i wasanaethau eraill sy’n gysylltiedig ag iechyd), yn y diffiniad o “awdurdod rhestredig perthnasol” yn is-adran (4)—

a

hepgorer paragraff (a);

b

hepgorer paragraff (e);

c

ar ôl paragraff (i) mewnosoder—

ia

Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru;

3

Yn Atodlen 3 (awdurdodau rhestredig), o dan y pennawd “Iechyd a gofal cymdeithasol”—

a

hepgorer y geiriau “Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru.”;

b

hepgorer y geiriau “Cyngor Iechyd Cymuned.”;

c

ar ôl y cofnod olaf mewnosoder—

  • Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru.