RHAN 4CORFF LLAIS Y DINESYDD AR GYFER IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

Dyletswyddau a osodir ar gyrff cyhoeddus penodol mewn cysylltiad â Chorff Llais y Dinesydd

17Dyletswydd i hybu ymwybyddiaeth o weithgareddau Corff Llais y Dinesydd

1

Rhaid i berson a grybwyllir yn is-adran (2) wneud trefniadau i ddwyn gweithgareddau Corff Llais y Dinesydd i sylw pobl sy’n cael, neu a all gael, gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan neu ar ran y person.

2

Y personau yw—

a

awdurdod lleol;

b

corff GIG.