Adran 8 – Diwygiadau sy’n ymwneud â thrwyddedu syrcasau
25.Er bod y Ddeddf hon yn gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol, caiff syrcasau barhau i gadw anifeiliaid gwyllt. Er mwyn cadw anifeiliaid gwyllt, mae’r diwygiadau a wneir gan yr adran hon yn golygu y gall fod yn ofynnol i’r syrcasau fod â thrwydded sw neu drwydded anifeiliaid gwyllt peryglus.
26.O dan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 (“Deddf 1976”), mae angen trwydded i gadw “anifail gwyllt peryglus” (fel y diffinnir “dangerous wild animal” yn adran 7 o’r Ddeddf honno), yn ddarostyngedig i rai esemptiadau (a nodir yn adran 5 o’r Ddeddf honno). Mae Deddf Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau 2019 yn diwygio adran 5 o Ddeddf 1976 fel nad yw syrcasau yn Lloegr nac yn yr Alban wedi eu hesemptio mwyach rhag y gofyniad hwnnw.
27.Mae adran 8(1) yn diwygio adran 5 o Ddeddf 1976 ymhellach fel nad yw syrcasau yng Nghymru ychwaith wedi eu hesemptio mwyach rhag y gofyniad hwnnw. Mae hyn yn golygu y bydd angen trwydded o dan Ddeddf 1976 ar unrhyw syrcas yng Nghymru (boed yn deithiol neu’n sefydlog) sy’n cadw anifail gwyllt peryglus, oni bai bod y syrcas yn dod o dan ddarpariaethau Deddf Trwyddedu Sŵau 1981 (gweler adran 5(1) o Ddeddf 1976).
28.O dan Ddeddf Trwyddedu Sŵau 1981 (“Deddf 1981”), mae angen trwydded i weithredu sw (“zoo”). Mae adran 8(2) yn diwygio adran 1(2) o Ddeddf 1981 fel bod syrcasau yng Nghymru yn dod o fewn y diffiniad o sw. Mae hyn yn golygu y gallai fod yn ofynnol i syrcas yng Nghymru gael trwydded sw os yw Deddf 1981 yn gymwys iddi (ceir rhai sŵau nad yw Deddf 1981 yn gymwys iddynt. Gweler, er enghraifft, adran 14 o Ddeddf 1981 (hepgoriad i sŵau penodol)). Os nad yw Deddf 1981 yn gymwys, yna gall Deddf 1976 fod yn gymwys ac efallai y bydd angen trwydded anifeiliaid gwyllt peryglus ar y syrcas.