Search Legislation

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Systemau pleidleisio ar gyfer etholiadau i brif gynghorau

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Croes Bennawd: Systemau pleidleisio ar gyfer etholiadau i brif gynghorau. Help about Changes to Legislation

Systemau pleidleisio ar gyfer etholiadau i brif gynghorauLL+C

5Dwy system bleidleisioLL+C

(1)Mae dwy system ar gyfer ethol cynghorwyr i brif gyngor pan gynhelir pleidleisiau mewn etholiadau a ymleddir—

(a)system mwyafrif syml, a

(b)system pleidlais sengl drosglwyddadwy.

(2)Gweler y rheolau etholiadau lleol am ddarpariaeth ynglŷn â sut y mae’r naill system a’r llall yn gweithio.

(3)Gweler adrannau 7 i 9 am ddarpariaeth ynglŷn â pha system sy’n gymwys i gyngor a sut y caiff y system sy’n gymwys i gyngor ei newid.

(4)Yn y Rhan hon, ystyr “rheolau etholiadau lleol” yw—

(a)rheolau a wneir o dan adran 36A o Ddeddf 1983 (a fewnosodir gan adran 13(3));

(b)rheolau a wneir o dan adran 36 o Ddeddf 1983 sy’n cael effaith yn rhinwedd adran 13(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 5 mewn grym ar 6.5.2022, gweler a. 175(6)(a)

6Diffiniadau allweddolLL+C

(1)Ystyr “system mwyafrif syml” yw system etholiadol pan fo—

(a)pob pleidleisiwr yn cael bwrw pa faint bynnag o bleidleisiau ag sydd o swyddi i’w llenwi;

(b)yn achos etholiad ar gyfer un swydd, yr ymgeisydd sy’n cael y nifer uchaf o bleidleisiau yn cael ei ethol;

(c)yn achos etholiad i lenwi mwy nag un swydd, yr ymgeiswyr sy’n gyfartal â nifer y swyddi sydd i’w llenwi sy’n cael y nifer uchaf o bleidleisiau yn cael eu hethol.

(2)Ystyr “system pleidlais sengl drosglwyddadwy” yw system etholiadol pan fo—

(a)yn achos etholiad i lenwi mwy nag un swydd—

(i)pleidleiswyr yn mynegi dewis cyntaf o ran un ymgeisydd a chaniateir iddynt fynegi ail ddewis a dewisiadau pellach o ran ymgeiswyr eraill;

(ii)cwota ar gyfer ethol yn cael ei gyfrifo ar sail nifer y pleidleisiau a’r swyddi sydd i’w llenwi;

(iii)y dewisiadau cyntaf yn cael eu cyfrif ac unrhyw ymgeisydd y mae’r pleidleisiau dewisiadau cyntaf ar ei gyfer yn cyfateb i’r cwota neu uwchlaw’r cwota yn cael ei ethol;

(iv)os yw nifer yr ymgeiswyr a etholir o dan is-baragraff (iii) yn annigonol, y gyfran o bleidleisiau ymgeisydd a etholwyd sydd uwchlaw’r cwota yn cael ei hailddosbarthu yn ôl dewisiadau pellach y pleidleiswyr;

(v)yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y cwota bryd hynny yn cael eu hethol a’r ymgeisydd sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau yn cael ei eithrio;

(vi)pleidleisiau’r ymgeisydd a gafodd ei eithrio yn cael eu hailddosbarthu yn ôl dewisiadau pellach y pleidleiswyr;

(vii)os yw nifer yr ymgeiswyr a etholir o dan is-baragraffau (iv) i (vi) yn annigonol, y camau a ddisgrifir yn yr is-baragraffau hynny yn cael eu hailadrodd hyd nes y bo’r holl swyddi wedi eu llenwi;

(b)yn achos etholiad i un swydd—

(i)pleidleiswyr yn mynegi dewis cyntaf o ran un ymgeisydd a chaniateir iddynt fynegi ail ddewis a dewisiadau pellach o ran ymgeiswyr eraill;

(ii)mwyafrif absoliwt o bleidleisiau er mwyn ethol ymgeisydd yn cael ei gyfrifo ar sail nifer y pleidleisiau;

(iii)y dewisiadau cyntaf yn cael eu cyfrif ac, os yw’r pleidleisiau dewisiadau cyntaf ar gyfer ymgeisydd yn cyfateb i’r mwyafrif absoliwt o’r pleidleisiau neu uwchlaw’r mwyafrif absoliwt hwnnw, yr ymgeisydd hwnnw yn cael ei ethol;

(iv)os na chaiff unrhyw ymgeisydd ei ethol o dan is-baragraff (iii), yr ymgeisydd sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau yn cael ei eithrio, pleidleisiau’r ymgeisydd a gafodd ei eithrio yn cael eu hailddosbarthu yn ôl dewisiadau pellach y pleidleiswyr ac ymgeisydd sy’n cyrraedd y mwyafrif absoliwt bryd hynny yn cael ei ethol;

(v)os na chaiff unrhyw ymgeisydd ei ethol o dan is-baragraff (iv), y camau a ddisgrifir yn is-baragraff (iv) yn cael eu hailadrodd hyd nes y bo ymgeisydd yn cael ei ethol.

(3)Caiff y systemau a ddisgrifir yn is-adrannau (1) a (2) gynnwys darpariaeth arall ar gyfer sefyllfaoedd—

(a)pan na fo dilyn y camau a ddisgrifir yn arwain at ethol ymgeisydd, neu

(b)pan na fyddai’n briodol dilyn y camau a ddisgrifir.

(4)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 6 mewn grym ar 6.5.2022, gweler a. 175(6)(a)

7Y system bleidleisio sy’n gymwysLL+C

(1)Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer y system bleidleisio sy’n gymwys wrth ethol cynghorwyr i brif gyngor pan gynhelir pleidlais mewn etholiad a ymleddir.

(2)Mae’r system mwyafrif syml y darperir ar ei chyfer gan reolau etholiadau lleol yn gymwys, oni bai a hyd nes y bo’r cyngor yn newid y system bleidleisio am y tro cyntaf.

(3)Ond yn achos prif gyngor a gyfansoddir gan reoliadau o dan Ran 7 (uno ac ailstrwythuro), mae’r system bleidleisio y darperir ar ei chyfer yn y rheoliadau yn gymwys, oni bai a hyd nes y bo’r cyngor yn newid y system bleidleisio am y tro cyntaf ar ôl yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor.

(4)Ar ôl i brif gyngor newid y system bleidleisio am y tro cyntaf (gan gynnwys y tro cyntaf ar ôl i brif gyngor gael ei sefydlu), mae’r system y mae’r cyngor wedi penderfynu newid iddi yn fwyaf diweddar yn gymwys (yn ddarostyngedig i is-adran (6)).

(5)Os yw prif gyngor yn newid ei system bleidleisio, mae’r newid yn cael effaith yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr sy’n digwydd ar ôl i’r cyngor basio’r penderfyniad sy’n ofynnol gan adran 9 ac yn parhau i gael effaith oni bai a hyd nes y bo’r system yn cael ei newid eto.

(6)Ond mewn pleidlais mewn etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag a gynhelir cyn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr ar ôl i’r prif gyngor basio’r penderfyniad sy’n ofynnol gan adran 9, mae’r system bleidleisio a oedd yn gymwys yn yr etholiad cyffredin diwethaf yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 7 mewn grym ar 6.5.2022, gweler a. 175(6)(a)

8Pŵer i newid y system bleidleisioLL+C

(1)Caiff prif gyngor newid y system bleidleisio sy’n gymwys i ethol cynghorwyr i’r cyngor, yn ddarostyngedig i ofynion yr adran hon ac adran 9.

(2)Os y system mwyafrif syml y darperir ar ei chyfer gan reolau etholiadau lleol yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i gyngor am y tro, caiff y cyngor ei newid i’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy y darperir ar ei chyfer gan y rheolau hynny.

(3)Os y system pleidlais sengl drosglwyddadwy y darperir ar ei chyfer gan reolau etholiadau lleol yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i gyngor am y tro, caiff y cyngor ei newid i’r system mwyafrif syml y darperir ar ei chyfer gan y rheolau hynny.

(4)Nid yw’r pŵer i newid y system bleidleisio o dan yr adran hon—

(a)i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth y cyngor o dan drefniadau gweithrediaeth (o fewn ystyr adran 10 o Ddeddf 2000);

(b)yn swyddogaeth y mae adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys iddi.

(5)Cyn i brif gyngor arfer ei bŵer i newid ei system bleidleisio rhaid iddo ymgynghori ag—

(a)y personau sydd â hawl i bleidleisio fel etholwyr mewn etholiad llywodraeth leol yn ei ardal;

(b)pob cyngor cymuned yn ei ardal;

(c)unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 8 mewn grym ar 6.5.2022, gweler a. 175(6)(a)

9Penderfyniadau i arfer y pŵer i newid y system bleidleisioLL+C

(1)Rhaid i bŵer prif gyngor o dan adran 8(1) gael ei arfer drwy benderfyniad y cyngor yn unol â’r adran hon.

(2)Nid yw penderfyniad i arfer y pŵer wedi ei basio oni fo nifer y cynghorwyr sy’n pleidleisio o’i blaid mewn cyfarfod o’r cyngor yn ddau draean o leiaf o gyfanswm y seddau cynghorwyr ar y cyngor.

(3)Nid yw penderfyniad i arfer y pŵer yn cael unrhyw effaith oni fo—

(a)y penderfyniad yn cael ei ystyried mewn cyfarfod a gynullwyd yn arbennig at y diben hwnnw,

(b)hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod yn cael ei roi i’r holl gynghorwyr, ac

(c)y cyfarfod yn digwydd ar ôl diwedd cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad.

(4)Nid yw penderfyniad i arfer y pŵer yn cael unrhyw effaith oni fo’n cael ei basio cyn 15 Tachwedd yn y flwyddyn sydd dair blynedd cyn y flwyddyn y bwriedir i’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer y cyngor gael ei gynnal.

(5)Ar ôl i brif gyngor arfer y pŵer, nid yw penderfyniad pellach i arfer y pŵer yn cael unrhyw effaith oni fo dau etholiad cyffredin ar gyfer y cyngor wedi eu cynnal o dan y system bleidleisio y’i newidiwyd iddi.

(6)Nid yw penderfyniad i arfer y pŵer sy’n cael ei basio yn ystod y cyfnod rhwng dau etholiad cyffredin olynol i’r cyngor yn cael unrhyw effaith os yw’r cyngor wedi pleidleisio yn flaenorol ar benderfyniad i arfer y pŵer yn ystod y cyfnod hwnnw mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn unol ag is-adran (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 9 mewn grym ar 6.5.2022, gweler a. 175(6)(a)

10Dyletswydd i hysbysu pan fydd penderfyniad yn cael ei basioLL+C

(1)Os yw prif gyngor yn arfer ei bŵer i newid y system bleidleisio o dan adran 8, rhaid i’r cyngor hysbysu Gweinidogion Cymru [F1a Chomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru] am y newid.

(2)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)cael ei wneud o fewn cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod y cafodd y penderfyniad o dan adran 9 ei basio,

(b)cadarnhau bod y cyngor wedi pasio penderfyniad yn unol ag adran 9,

(c)pennu’r system bleidleisio sydd i fod yn gymwys, a

(d)pennu ar ba ddyddiad y cafodd y penderfyniad ei basio.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 10 mewn grym ar 6.5.2022, gweler a. 175(6)(a)

11Adolygiad cychwynnol gan [F2Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru] LL+C

(1)Ar ôl cael hysbysiad gan brif gyngor o dan adran 10, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo [F3Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru] (“y Comisiwn”) i gynnal adolygiad cychwynnol o ardal y cyngor.

(2)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)y Comisiwn, a

(b)unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) i gynnal adolygiad cychwynnol bennu nad yw un neu ragor o’r materion o fath a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) yn faterion i’w hystyried yn yr adolygiad cychwynnol; a’r materion hynny yw—

(a)y materion a nodir ym mharagraff (b) o’r diffiniad o “trefniadau etholiadol” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 1 (trefniadau etholiadol cynghorau cymuned);

(b)y materion a nodir yn y diffiniad o “newidiadau canlyniadol perthnasol” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 1.

(4)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (1) bennu’r system bleidleisio y mae’r trefniadau etholiadol i’w hadolygu mewn perthynas â hi.

(5)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adolygiadau cychwynnol a gynhelir yn rhinwedd yr adran hon.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 11 mewn grym ar 6.5.2022, gweler a. 175(6)(a)

12Cyfyngiad ar nifer y cynghorwyr os yw’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy yn gymwysLL+C

Pan fo’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy yn gymwys i etholiad ar gyfer cynghorwyr i brif gyngor, ni chaiff nifer y cynghorwyr ar gyfer pob ward etholiadol fod yn llai na thri, nac yn fwy na chwech.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 12 mewn grym ar 6.5.2022, gweler a. 175(6)(a)

13Rheolau ynglŷn â chynnal etholiadau lleol yng NghymruLL+C

(1)Mae Deddf 1983 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 36(1) (etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr) hepgorer “and Wales”.

(3)Ar ôl adran 36 mewnosoder—

36ARules for local elections in Wales

(1)Elections of councillors for local government areas in Wales must be conducted in accordance with rules made by the Welsh Ministers.

(2)In relation to the election of councillors to a county council or a county borough council, rules under subsection (1) must—

(a)require polls to be conducted if elections are contested,

(b)establish the requirements for becoming a candidate for election,

(c)require votes at polls to be given by ballot, and

(d)provide for polls to be conducted under the voting systems authorised by sections 5 to 9 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021, which are a simple majority system and a single transferable vote system.

(3)In relation to the election of community councillors for a community council, rules under subsection (1) must—

(a)require polls to be conducted if elections are contested,

(b)establish the requirements for becoming a candidate for election,

(c)require votes at polls to be given by ballot, and

(d)provide for polls to be conducted under a simple majority system.

(4)Rules under subsection (1) may make any other provision for the conduct of elections of councillors for local government areas in Wales.

(5)Rules made by the Welsh Ministers may, for the purposes of, in consequence of, or for giving full effect to rules made under subsection (1), make supplementary, incidental, consequential, transitional, transitory or saving provision.

(6)Rules under subsection (5) may amend, modify, repeal or revoke any enactment (including an enactment contained in this Act).

(7)Before making rules under this section, the Welsh Ministers must consult such persons as they consider appropriate.

(8)The requirement to consult imposed by subsection (7) may be satisfied by consultation undertaken before the coming into force of this section.

(9)The power to make rules under this section—

(a)is exercisable by statutory instrument;

(b)includes power to make different provision for different purposes.

(10)A statutory instrument containing rules under this section must not be made unless a draft of the instrument has been laid before and approved by resolution of Senedd Cymru.

F4(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(5)Hyd nes y bydd adrannau 5 i 9 o’r Ddeddf hon yn dod i rym, mae adran 36A(2)(d) o Ddeddf 1983 yn cael effaith fel pe bai’n gwneud y ddarpariaeth a ganlyn—

(d)provide for polls to be conducted under a simple majority system.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 13 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(d)

Back to top

Options/Help

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?