Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

Rhagolygol

146Darpariaeth bellach ynghylch adennill costau gwaith diogeluLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r costau y caiff awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru eu hadennill o dan adran 145 yn dwyn llog, ar y gyfradd a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, o’r adeg y daw’r hysbysiad o dan is-adran (1) o’r adran honno yn weithredol hyd nes y caiff yr holl symiau sy’n ddyledus o dan yr adran honno eu hadennill.

(2)Mae’r costau ac unrhyw log yn adenilladwy gan yr awdurdod lleol neu (yn ôl y digwydd) Weinidogion Cymru fel dyled.

(3)Mae’r costau ac unrhyw log, o’r adeg pan ddaw’r hysbysiad o dan adran 145(1) yn weithredol hyd nes iddynt gael eu hadennill, yn bridiant ar y tir y mae’r adeilad rhestredig o dan sylw arno.

(4)Mae’r pridiant yn cymryd effaith, ar yr adeg y daw’r hysbysiad yn weithredol, fel pridiant cyfreithiol sy’n bridiant tir lleol.

(5)At ddiben gorfodi’r pridiant, mae gan yr awdurdod lleol neu (yn ôl y digwydd) Weinidogion Cymru yr un pwerau a rhwymedïau o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (p. 20) ac fel arall fel pe bai neu pe baent yn forgeisai drwy weithred sydd â phwerau i werthu’r tir, gwneud lesoedd, derbyn ildio lesoedd a phenodi derbynnydd.

(6)Mae’r pŵer i benodi derbynnydd yn arferadwy ar unrhyw adeg ar ôl diwedd 1 mis yn dechrau â’r diwrnod y mae’r pridiant yn cymryd effaith.

(7)At ddibenion yr adran hon mae hysbysiad o dan adran 145(1) yn dod yn weithredol—

(a)pan na fo unrhyw gŵyn wedi ei gwneud i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn adran 145(3), ar ddiwedd y cyfnod hwnnw;

(b)pan fo cwyn wedi ei gwneud ond na wneir apêl i’r llys sirol o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn adran 145(6), ar ddiwedd y cyfnod hwnnw;

(c)pan fo apêl wedi ei gwneud a bod y penderfyniad ar yr apêl yn cadarnhau penderfyniad Gweinidogion Cymru o dan adran 145(4) (gydag amrywiad neu heb amrywiad), ar adeg y penderfyniad;

(d)pan fo apêl wedi ei gwneud ond ei bod yn cael ei thynnu’n ôl, ar adeg y tynnu’n ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 146 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)