RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 6CAFFAEL, GWARCHEIDIAETH A MYNEDIAD Y CYHOEDD
Cytundebau â meddianwyr henebion neu dir sy’n cydffinio etc.
51Cytundebau ynghylch rheoli henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig a thir yn eu cyffiniau
1
Caiff Gweinidogion Cymru wneud cytundeb o dan yr adran hon—
a
ag unrhyw feddiannydd ar heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig, neu
b
ag unrhyw feddiannydd ar dir sy’n cydffinio â heneb o’r fath neu sydd yn ei chyffiniau.
2
Caiff awdurdod lleol wneud cytundeb o dan yr adran hon—
a
ag unrhyw feddiannydd ar heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal, neu
b
ag unrhyw feddiannydd ar dir sy’n cydffinio â heneb o’r fath neu sydd yn ei chyffiniau.
3
Cyfeirir at gytundeb o dan yr adran hon yn y Rhan hon fel “cytundeb rheoli”.
4
Caiff unrhyw berson a chanddo fuddiant mewn heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig neu mewn unrhyw dir sy’n cydffinio â heneb o’r fath neu sydd yn ei chyffiniau fod yn barti i gytundeb rheoli (yn ogystal â’r meddiannydd).
5
Caiff cytundeb rheoli—
a
gwneud darpariaeth ynghylch cynnal a chadw a diogelu’r heneb a’i hamwynderau (gan gynnwys, pan fo cytundeb wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, ddarpariaeth sy’n rhoi cydsyniad heneb gofrestredig o dan adran 13(1) ar gyfer gwaith cynnal a chadw neu ddiogelu penodedig);
b
gwneud darpariaeth ynghylch cyflawni gwaith penodedig, neu wneud unrhyw beth penodedig, mewn perthynas â’r heneb neu’r tir;
c
darparu ar gyfer mynediad y cyhoedd i’r heneb neu’r tir a darparu cyfleusterau cysylltiedig, gwybodaeth gysylltiedig neu wasanaethau cysylltiedig i’r cyhoedd;
d
cyfyngu ar fynediad i’r heneb neu’r tir neu’r defnydd o’r heneb neu’r tir;
e
gwahardd gwneud unrhyw beth penodedig mewn perthynas â’r heneb neu’r tir;
f
darparu i Weinidogion Cymru neu’r awdurdod lleol (yn ôl y digwydd) wneud taliadau o symiau penodedig ac ar delerau penodedig—
i
am gost unrhyw waith y darperir ar ei gyfer o dan y cytundeb, neu tuag at y gost honno, neu
ii
yn gydnabyddiaeth am unrhyw gyfyngiad, unrhyw waharddiad neu unrhyw rwymedigaeth a dderbynnir gan unrhyw barti arall i’r cytundeb.
6
Caiff cytundeb rheoli hefyd gynnwys darpariaethau deilliadol a chanlyniadol.
7
Pan fo cytundeb rheoli a wneir gan Weinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i’r cytundeb bennu’r amodau hynny.
8
Mae is-adran (9) yn gymwys pan fo cytundeb rheoli yn darparu’n benodol fod y cytundeb yn ei gyfanrwydd neu unrhyw gyfyngiad, unrhyw waharddiad neu unrhyw rwymedigaeth sy’n codi odano i rwymo olynwyr unrhyw barti i’r cytundeb.
9
Mae pob person y mae ei deitl i‘r heneb neu’r tir o dan sylw yn deillio o’r parti hwnnw, drwyddo neu odano wedi ei rwymo gan y cytundeb, neu gan y cyfyngiad hwnnw, y gwaharddiad hwnnw neu’r rhwymedigaeth honno, oni bai mai yn rhinwedd unrhyw warediad a wnaed gan y parti hwnnw, cyn dyddiad y cytundeb, y mae teitl y person yn deillio.
10
Nid yw adran 84 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (p. 20) (pŵer yr Uwch Dribiwnlys i ryddhau neu addasu cyfamodau cyfyngol) yn gymwys i gytundeb rheoli.
11
Yn yr adran hon ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu neu ei ddisgrifio mewn cytundeb rheoli.