90Gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredigLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Rhaid i gais am gydsyniad adeilad rhestredig gael ei wneud i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig yn ei ardal, oni bai ei fod yn cael ei wneud i Weinidogion Cymru yn unol—
(a)â rheoliadau a wneir o dan adran 105 (ceisiadau gan awdurdodau cynllunio neu’r Goron),
(b)ag adran 106 (ceisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y Goron),
(c)ag adran 305 neu 306 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (ceisiadau gan awdurdodau tai lleol am gydsyniad i ddymchwel adeiladau mewn cysylltiad â chaffael tir ar gyfer ei glirio), neu
(d)ag unrhyw ddeddfiad arall.
(2)Rhaid i gais am gydsyniad adeilad rhestredig gynnwys—
(a)digon o wybodaeth i adnabod yr adeilad rhestredig y mae’n ymwneud ag ef, gan gynnwys plan,
(b)unrhyw blaniau eraill ac unrhyw luniadau eraill sy’n angenrheidiol i ddisgrifio’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef, ac
(c)unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd).
(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)ffurf a chynnwys cais (a gaiff gynnwys darpariaeth ar gyfer defnyddio ffurflen sydd i’w chyhoeddi neu i’w darparu gan Weinidogion Cymru neu berson arall);
(b)sut y mae rhaid gwneud cais.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gwneud cais o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau gynnwys gyda’r cais ddatganiad ynghylch—
(a)sut y bydd y gwaith yn effeithio ar gymeriad yr adeilad rhestredig fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a
(b)y naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau ohonynt (fel y’i pennir yn y rheoliadau)—
(i)yr egwyddorion dylunio sydd wedi eu cymhwyso i’r gwaith;
(ii)sut yr ymdriniwyd â materion sy’n ymwneud â mynediad i’r adeilad.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)ffurf a chynnwys datganiad sy’n ofynnol o dan is-adran (4);
(b)dogfennau neu ddeunyddiau eraill y mae rhaid eu cynnwys gyda chais.
(6)Ni chaiff awdurdod cynllunio ystyried cais a wneir iddo am gydsyniad adeilad rhestredig os yw’r cais yn methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan yr adran hon neu odani.