Chwilio Deddfwriaeth

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2017.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, RHAN 8. Help about Changes to Legislation

RHAN 8LL+CCYFFREDINOL

87DehongliLL+C

Yn y Ddeddf hon—

  • mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” gan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad a gynhwysir yn unrhyw un o’r canlynol (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir)—

    (a)

    Deddf Seneddol;

    (b)

    Mesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    (c)

    is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr Deddf Dehongli 1978 (p. 30) (gan gynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 87 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(1)

88Dod i rymLL+C

(1)Mae’r Rhan hon yn dod i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 1 (rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol);

(b)Rhan 2 (newid yn yr hinsawdd);

(c)Rhan 5 (pysgodfeydd ar gyfer pysgod cregyn);

(d)adran 82 (diddymu gofynion i gyhoeddi);

(e)adran 84 (apelau yn erbyn ardollau draenio arbennig);

(f)adran 85 (pŵer mynediad);

(g)adran 86 (is-ddeddfau).

(3)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol—

(a)Rhan 3 (codi taliadau am fagiau siopa);

(b)Rhan 4 (casglu a gwaredu gwastraff);

(c)Rhan 6 (trwyddedu morol);

(d)adran 81 (pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol);

(e)adran 83 (prisio tir anamaethyddol).

(4)Caiff gorchymyn o dan is-adran (3)—

(a)pennu dyddiau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud y ddarpariaeth drosiannol neu’r ddarpariaeth arbed honno mewn cysylltiad â dod i rym ddarpariaeth o fewn y Ddeddf hon y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 88 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(1)

89Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 89 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(1)

Yn ôl i’r brig

Options/Help