Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Gwybodaeth

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 29/11/2017

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 18/10/2017.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, Croes Bennawd: Gwybodaeth. Help about Changes to Legislation

GwybodaethLL+C

16Defnydd ACC a’i ddirprwyon o wybodaethLL+C

(1)O ran gwybodaeth sy’n dod i law—

(a)ACC, neu

(b)person y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo,

mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC, caniateir ei defnyddio yn unol ag is-adran (2) yn unig.

(2)Caniateir defnyddio’r wybodaeth—

(a)gan ACC, neu

(b)gan unrhyw berson y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo,

mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau ACC.

(3)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau rhyngwladol y Deyrnas Unedig sy’n cyfyngu ar y defnydd o wybodaeth neu’n gwahardd ei defnyddio.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 16 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

17Cyfrinachedd gwybodaeth warchodedig am drethdalwrLL+C

(1)Ni chaiff unigolyn sy’n swyddog perthnasol, neu sydd wedi bod yn swyddog perthnasol, ddatgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr oni bai bod adran 18 yn caniatáu ei datgelu.

(2)Yn yr adran hon ac yn adran 19, ystyr “swyddog perthnasol” yw unigolyn—

(a)sy’n aelod o ACC, yn aelod o bwyllgor o ACC, neu’n aelod o is-bwyllgor o bwyllgor o’r fath,

(b)sy’n berson y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo, yn aelod o gorff y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo, yn aelod o bwyllgor o gorff o’r fath neu’n aelod o is-bwyllgor o bwyllgor o’r fath, neu’n dal swydd mewn corff o’r fath,

(c)sy’n aelod o staff ACC,

(d)sy’n aelod o staff person y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo a gyflogir mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny,

(e)sy’n berson sy’n darparu gwasanaethau i ACC, neu

(f)sy’n berson sy’n darparu gwasanaethau i berson y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny.

(3)Yn is-adran (1) ac adran 18, ystyr “gwybodaeth warchodedig am drethdalwr” yw gwybodaeth yn ymwneud â pherson (y “person a effeithir”)—

(a)a ddaeth i law ACC neu a ddaeth i law person y dirprwywyd unrhyw un neu ragor o swyddogaethau ACC iddo mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny, a

(b)y gellir adnabod y person a effeithir ohoni (boed oherwydd bod yr wybodaeth yn nodi pwy yw’r person a effeithir neu oherwydd y gellir casglu pwy ydyw ohoni).

(4)Ond nid yw gwybodaeth yn “wybodaeth warchodedig am drethdalwr” os yw’n wybodaeth am drefniadau gweinyddol mewnol ACC neu berson y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo (pa un a yw’r wybodaeth yn ymwneud ag aelodau o staff ACC neu staff person o’r fath neu â phersonau eraill).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I4A. 17 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

18Datgelu a ganiateirLL+C

(1)Mae’r adran hon yn caniatáu datgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr—

(a)os gwneir hynny gyda chydsyniad pob person y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef,

(b)os gwneir hynny er mwyn cael gwasanaethau mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC,

(c)os gwneir hynny at ddibenion ymchwiliad troseddol neu achos troseddol neu at ddibenion atal troseddu neu ganfod trosedd,

(d)os gwneir hynny i gorff sydd â chyfrifoldeb am reoleiddio proffesiwn mewn cysylltiad â chamymddwyn ar ran aelod o’r proffesiwn sy’n ymwneud ag un o swyddogaethau ACC,

(e)os gwneir hynny at ddibenion achos sifil,

(f)os gwneir hynny yn unol â gorchymyn llys neu dribiwnlys,

(g)os gwneir hynny yn unol â deddfiad sy’n gwneud ei datgelu yn ofynnol neu’n caniatáu hynny, neu

(h)os gwneir hynny i ACC neu i berson y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo ar gyfer ei defnyddio yn unol ag adran 16.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (1) drwy reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I6A. 18 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

19Datganiad ynghylch cyfrinacheddLL+C

(1)Rhaid i bob unigolyn sy’n swyddog perthnasol wneud datganiad sy’n cydnabod y rhwymedigaeth o ran cyfrinachedd o dan adran 17.

(2)Rhaid gwneud datganiad—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl penodi’r unigolyn, a

(b)mewn unrhyw ffurf a modd a bennir gan ACC.

(3)At ddibenion is-adran (2)(a)—

(a)nid yw adnewyddu penodiad cyfnod sefydlog i’w drin fel penodiad,

(b)mae unigolyn sydd o fewn adran 17(2)(e) i’w drin fel pe bai wedi ei benodi pan fo’r unigolyn yn darparu’r gwasanaethau a grybwyllir yno gyntaf, ac

(c)os penodwyd unigolyn sydd o fewn adran 17(2)(b), (d) neu (f) (neu os trinnir yr unigolyn fel pe bai wedi ei benodi) cyn dirprwyo’r swyddogaethau o dan sylw, mae’r unigolyn i’w drin fel pe bai’n ofynnol iddo wneud y datganiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dirprwyo’r swyddogaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I8A. 19 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

20Y drosedd o ddatgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr ar gamLL+C

(1)Mae unigolyn sy’n datgelu gwybodaeth yn groes i adran 17(1) yn cyflawni trosedd.

(2)Mae’n amddiffyniad i unigolyn a gyhuddir o drosedd o dan is-adran (1) brofi bod yr unigolyn yn credu’n rhesymol—

(a)bod adran 18 yn caniatáu datgelu’r wybodaeth, neu

(b)bod yr wybodaeth eisoes wedi ei darparu yn gyfreithlon i’r cyhoedd.

(3)Mae unigolyn sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i garchar am gyfnod nad yw’n hwy na 12 mis neu i ddirwy (neu’r ddau);

(b)ar gollfarn ar dditiad, i garchar am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd neu i ddirwy (neu’r ddau).

(4)Nid yw’r adran hon yn effeithio ar y gallu i fynd ar drywydd unrhyw rwymedi na chymryd unrhyw gamau mewn perthynas â thorri adran 17(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I10A. 20 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

Yn ôl i’r brig

Options/Help

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?