Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: RHAN 5

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 25/01/2018

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 26/04/2016. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) part yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, RHAN 5. Help about Changes to Legislation

RHAN 5LL+CCOSBAU

PENNOD 1LL+CTROSOLWG

117Trosolwg o’r RhanLL+C

(1)Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth am gosbau sy’n ymwneud â threthi datganoledig, gan gynnwys—

(a)cosbau sy’n ymwneud â methiannau i ddychwelyd ffurflenni treth neu i dalu trethi datganoledig,

(b)cosbau sy’n ymwneud ag anghywirdebau,

(c)cosbau sy’n ymwneud â chadw cofnodion a threfniadau talu’n ôl, a

(d)cosbau sy’n ymwneud ag ymchwiliadau.

(2)Mae’n cynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)yr amgylchiadau pan gyfyd rhwymedigaeth i’r cosbau hynny,

(b)symiau’r cosbau hynny,

(c)yr amgylchiadau pan ganiateir gohirio rhwymedigaeth i’r cosbau hynny neu ostwng symiau’r cosbau hynny,

(d)asesu’r cosbau hynny, ac

(e)talu’r cosbau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 117 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(b)

PENNOD 2LL+CCOSBAU AM FETHU Â DYCHWELYD FFURFLENNI NEU DALU TRETH [F1NEU SYMIAU SY’N DALADWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHREDYDAU TRETH]

Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen drethLL+C

118Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynnyLL+C

[F2(1)] Mae person [F3y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth] yn agored i gosb o £100 os yw’r person yn methu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny.

[F4(2)Ond gweler adran 118A am eithriad i’r rheol uchod.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 118 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I3A. 118 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

[F5118ACosbau am fethiannau lluosog i ddychwelyd ffurflenni treth mewn cysylltiad â threth gwarediadau tirlenwiLL+C

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd o dan adran 39 o DTGT, mae cyfnod cosbi—

(a)yn dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, a

(b)yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).

(2)Os yw’n ofynnol i’r person ddychwelyd ffurflen dreth arall o dan adran 39 o DTGT (“ffurflen dreth B”) cyn diwedd y cyfnod cosbi ond bod y person yn methu â gwneud hynny ar ddyddiad ffeilio ffurflen dreth B neu cyn hynny—

(a)nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a

(b)caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl dyddiad ffeilio ffurflen dreth B.

(3)Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at nifer y ffurflenni treth—

(a)yr oedd yn ofynnol i’r person eu dychwelyd o dan adran 39 o DTGT yn ystod y cyfnod cosbi, ond

(b)y mae’r person wedi methu â’u dychwelyd ar ddyddiadau ffeilio’r ffurflenni treth hynny neu cyn hynny.

(4)Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £200 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(5)Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £300 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(6)Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £400 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(7)Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)⁠(b).]

119Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth o fewn 6 mis wedi’r dyddiad ffeilioLL+C

(1)Mae person [F6y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth] yn agored i gosb os yw methiant y person i ddychwelyd ffurflen dreth yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio.

(2)Y gosb yw’r mwyaf o’r canlynol—

(a)5% o swm y dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, a

(b)£300.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 119 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I5A. 119 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

120Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth o fewn 12 mis wedi’r dyddiad ffeilioLL+C

(1)Mae person [F7y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth] yn agored i gosb os yw methiant y person i ddychwelyd ffurflen dreth yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio.

(2)Pan fo’r person, drwy fethu â dychwelyd y ffurflen dreth, yn atal yn fwriadol wybodaeth a fyddai’n galluogi neu’n cynorthwyo ACC i asesu rhwymedigaeth y person i dreth ddatganoledig, y gosb [F8yw—

(a) £300, neu

(b) swm uwch, heb fod yn fwy na 95% o’r swm o dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd.]

(3)Mewn unrhyw achos nad yw’n dod o fewn is-adran (2), y gosb yw’r mwyaf o’r canlynol⁠—

(a)5% o swm y dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, a

(b)£300.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 120 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I7A. 120 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

121Gostwng cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth: datgeluLL+C

(1)Caiff ACC ostwng cosb o dan adran 118, [F9118A,] 119 neu 120 os yw’r person yn datgelu gwybodaeth sydd wedi ei hatal o ganlyniad i fethiant i ddychwelyd ffurflen dreth (“gwybodaeth berthnasol”).

(2)Mae person yn datgelu gwybodaeth berthnasol drwy—

(a)dweud wrth ACC amdani,

(b)rhoi cymorth rhesymol i ACC feintioli unrhyw dreth ddatganoledig nas talwyd oherwydd i’r wybodaeth gael ei hatal, ac

(c)caniatáu i ACC weld cofnodion at ddiben gwirio faint o dreth ddatganoledig nas talwyd fel hyn.

(3)Wrth ostwng cosb o dan yr adran hon, caiff ACC ystyried—

(a)pa un a oedd y datgeliad wedi ei gymell neu’n ddigymell, a

(b)ansawdd y datgeliad.

(4)Mae datgelu gwybodaeth berthnasol—

(a)yn “ddigymell” os gwneir hynny ar adeg pan nad oes gan y person sy’n datgelu unrhyw reswm i gredu bod ACC wedi darganfod yr wybodaeth berthnasol neu ei fod ar fin ei darganfod, a

(b)fel arall, “wedi ei gymell”.

(5)Mae “ansawdd”, mewn perthynas â datgelu, yn cynnwys amseriad, natur a graddau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 121 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I9A. 121 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Cosb am fethu â thalu trethLL+C

[F10122[F10Cosb am fethu â thalu treth mewn pryd]LL+C

(1)Mae person yn agored i gosb os yw’r person wedi methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny mewn cysylltiad â’r swm hwnnw.

[F11(2)Y gosb—

(a)mewn cysylltiad â swm o dreth trafodiadau tir, yw 5% o swm y dreth nas talwyd;

(b)mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, yw 1% o swm y dreth nas talwyd.]

[F12(2A)Ond gweler adran 122ZA am eithriad i’r rheol yn is-adran (1).]

(3)Yn yr adran hon ac yn [F13adrannau 122ZA a 122A], y dyddiad cosbi mewn cysylltiad â swm o dreth ddatganoledig a bennir yng ngholofn 3 o Dabl A1 yw’r dyddiad a bennir yng ngholofn 4.

TABL A1
EitemY dreth ddatganoledigSwm y drethY dyddiad cosbi
1Treth trafodiadau tirSwm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i ffurflen dreth a ddychwelir gan y prynwr mewn trafodiad tir (oni bai bod y swm o fewn eitem 8 neu 9).Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth.
2Treth gwarediadau tirlenwiSwm [F14sy’n daladwy o ganlyniad i] ffurflen dreth.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth.
3Unrhyw dreth ddatganoledigSwm sy’n daladwy o ganlyniad i ddyfarniad ACC a wneir yn lle ffurflen dreth.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd y ffurflen dreth.
4Unrhyw dreth ddatganoledigSwm sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir yn lle ffurflen dreth (oni bai bod y swm o fewn eitem 7).Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd y ffurflen dreth.
5Unrhyw dreth ddatganoledigSwm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir pan fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol).
6Unrhyw dreth ddatganoledigSwm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad neu gywiriad i ffurflen dreth.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol).
7Unrhyw dreth ddatganoledigSwm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir at ddibenion gwneud addasiad i wrthweithio mantais drethiannol (gweler Rhan 3A) mewn achos pan na fo ffurflen dreth y mae gan ACC reswm i gredu ei bod yn ofynnol ei dychwelyd wedi ei dychwelyd mewn gwirionedd.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol).
8Treth trafodiadau tirPan wneir cais gohirio o dan adran 58 o DTTT, swm gohiriedig y mae’n ofynnol ei dalu yn rhinwedd adran 61(1) o’r Ddeddf honno.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm gohiriedig.
9Treth trafodiadau tirPan wneir cais gohirio o dan adran 58 o DTTT, swm a wrthodir o fewn ystyr adran 61(2)(a) o’r Ddeddf honno.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm a wrthodir.
10Treth gwarediadau tirlenwiSwm a godir gan hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan adran 48 neu 49 o DTGT.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm.
11Unrhyw dreth ddatganoledigSwm gohiriedig o fewn ystyr adran 181G(2).Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y mae’r cyfnod gohirio yn dod i ben (gweler adran 181G ynglŷn â chyfrifo cyfnodau gohirio).

(4)Yn yr adran hon, mae i “swm gohiriedig” yr un ystyr ag yn adran 58(6)(a) DTTT.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru addasu Tabl A1 drwy reoliadau.]

[F15122ZACosb am fethiannau lluosog i dalu treth gwarediadau tirlenwi mewn prydLL+C

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 122 mewn cysylltiad â methiant i dalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny, mae cyfnod cosbi—

(a)yn dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad cosbi, a

(b)yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).

(2)Os yw’r person, cyn diwedd y cyfnod cosbi, yn methu â thalu swm arall o dreth gwarediadau tirlenwi (“swm B”) ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny—

(a)nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 122(1) mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a

(b)caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl y dyddiad cosbi ar gyfer swm B.

(3)Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at—

(a)swm B, a

(b)sawl tro yn ystod y cyfnod cosbi y mae person wedi methu â thalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny.

(4)Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 2% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(5)Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 3% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(6)Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 4% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(7)Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)⁠(b).]

[F10122ACosbau pellach am barhau i fethu â thalu treth ddatganoledigLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person yn agored i gosb o dan adran 122 [F16neu 122ZA] mewn cysylltiad â methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw, neu cyn hynny.

(2)Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i gosb bellach.

(3)Y gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.

(4)Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i ail gosb bellach.

(5)Yr ail gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.]

F17123Gohirio cosb am fethu â thalu treth pan fo cytundeb cyfredol i ohirio taliadLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[Cosb am fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd trethLL+C

123A.Cosb am fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth mewn prydLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson dalu swm o ganlyniad i asesiad ACC a wneir o dan adran 55A.

(2)Mae person yn agored i gosb os yw’n yn methu â thalu’r swm ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny.

(3)Y dyddiad cosbi yw’r dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd yn ofynnol talu’r swm.

(4)Y gosb yw 5% o’r swm sy’n daladwy o ganlyniad i’r asesiad ACC.]

Cosbau o dan Bennod 2: cyffredinolLL+C

F18124Cydarwaith cosbauLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

125Gostyngiad arbennig i’r gosb o dan Bennod 2LL+C

(1)Caiff ACC ostwng cosb o dan y Bennod hon os yw’n credu ei bod yn iawn gwneud hynny oherwydd amgylchiadau arbennig.

(2)Yn is-adran (1), nid yw “amgylchiadau arbennig” yn cynnwys—

(a)y gallu i dalu, na

(b)y ffaith fod y posibilrwydd o golli refeniw gan un person yn cael ei wrthbwyso gan ordaliad posibl gan berson arall.

[F19(2A)Ond gall “amgylchiadau arbennig” gynnwys y ffaith fod ACC wedi cytuno y caiff person dalu swm o dreth ddatganoledig mewn rhandaliadau dros gyfnod cytunedig.]

(3)Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ostwng cosb yn cynnwys cyfeiriad at—

(a)dileu cosb yn llwyr,

(b)gohirio cosb, ac

(c)cytuno ar gyfaddawd mewn perthynas ag achos yn ymwneud â chosb.

(4)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at gosb yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw log mewn perthynas â chosb.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 125 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I13A. 125 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

126Esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth neu dalu treth [F20neu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth] LL+C

(1)Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adrannau 118 i 120 mewn perthynas â’r methiant.

(2)Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol dros fethu â thalu treth ddatganoledig, nid yw’r person yn agored i gosb o dan [F21adrannau 122 i 122A] mewn perthynas â’r methiant.

[F22(2A)Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys fod esgus rhesymol dros fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 123A mewn perthynas â’r methiant.]

(3)At ddibenion is-adrannau (1) [F23, (2) a (2A)]

(a)nid yw prinder arian yn esgus rhesymol oni bai y gellir priodoli hynny i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y person;

(b)pan fo person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r methiant;

(c)os oedd gan berson esgus rhesymol am y methiant ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os caiff y methiant ei gywiro heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.

127Asesu cosbau o dan Bennod 2LL+C

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon, rhaid i ACC—

(a)asesu’r gosb,

(b)dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd, ac

(c)datgan yn yr hysbysiad y cyfnod [F24, y trafodiad neu’r swm] yr aseswyd y gosb mewn perthynas ag ef.

(2)Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan y Bennod hon ac asesiad ar gyfer treth ddatganoledig.

(3)Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adrannau 119 neu 120 os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai wedi dychwelyd ffurflen dreth.

(4)Os yw—

(a)asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adrannau 119 neu 120 yn seiliedig ar swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai wedi dychwelyd ffurflen dreth, a

(b)ACC yn darganfod bod y rhwymedigaeth honno yn ormodol,

caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.

(5)Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adran 122 [F25, 122ZA] [F26neu 122A] os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o swm y dreth ddatganoledig a oedd yn daladwy.

(6)Os yw asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adran 122 [F27, 122ZA] [F28neu 122A] yn seiliedig ar swm o dreth sy’n daladwy y mae ACC yn darganfod ei fod yn ormodol, caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.

[F29(6A)Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r credyd treth o dan sylw.

(6B)Os yw asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A yn seiliedig ar swm y darganfyddir ei fod yn ormodol, caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.]

(7)O ran diwygiad a wneir o dan is-adran (4) [F30, (6) neu (6B)]

(a)nid yw’n effeithio ar ba bryd y mae’n rhaid talu’r gosb, a

(b)caniateir ei wneud ar ôl y diwrnod olaf y gellid bod wedi gwneud yr asesiad o dan sylw o dan adran 128.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 127 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I17A. 127 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

128Terfyn amser ar gyfer asesu cosbau o dan Bennod 2LL+C

(1)Rhaid asesu cosb o dan y Bennod hon F31... ar neu cyn y diweddaraf o ddyddiad A a (pan fo’n gymwys) dyddiad B.

(2)Dyddiad A yw diwrnod olaf y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau—

(a)yn achos methiant i ddychwelyd ffurflen dreth, â’r dyddiad ffeilio, F32...

(b)yn achos methiant i dalu treth ddatganoledig, â’r dyddiad cosbi [F33, neu

(c)yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, â’r dyddiad cosbi.]

(3)Dyddiad B yw diwrnod olaf y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—

(a)yn achos methiant i ddychwelyd ffurflen dreth—

(i)â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, neu

(ii)os nad oes asesiad o’r fath, â’r dyddiad y caiff y rhwymedigaeth honno ei chanfod neu’r dyddiad y canfyddir mai dim yw’r rhwymedigaeth;

(b)yn achos methiant i dalu treth ddatganoledig—

(i)â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o swm y dreth ddatganoledig yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef, neu

(ii)os nad oes asesiad o’r fath, â’r dyddiad y canfyddir y swm hwnnw o dreth ddatganoledig.

[F34(c)yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o’r swm yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef.]

(4)Yn is-adran (2)(b), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran [F35122(3)].

[F36(4A)Yn is-adran (2)(c), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran 123A(3).]

(5)Yn is-adran (3) F37..., ystyr “cyfnod apelio” [F38yw]

(a)os na wneir apêl, y cyfnod y gellid gwneud apêl, a

(b)os gwneir apêl, y cyfnod sy’n dod i ben pan gaiff ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 128 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I19A. 128 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

PENNOD 3LL+CCOSBAU AM ANGHYWIRDEBAU

Cosbau am anghywirdebau mewn dogfennauLL+C

129Cosb am anghywirdeb mewn dogfen a roddir i ACCLL+C

(1)Mae person yn agored i gosb pan fo—

(a)y person yn rhoi dogfen i ACC, a

(b)amodau 1 a 2 wedi eu bodloni.

(2)Amod 1 yw bod y ddogfen yn cynnwys anghywirdeb sy’n gyfystyr â’r canlynol, neu’n arwain at y canlynol—

(a)tanddatganiad o rwymedigaeth i dreth ddatganoledig,

(b)datganiad ffug neu ormodol o golled sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, F39...

(c)hawliad ffug neu ormodol am ad-daliad o dreth ddatganoledig [F40, neu

(d)hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.]

(3)Amod 2 yw bod yr anghywirdeb yn fwriadol neu’n ddiofal ar ran y person.

(4)Mae anghywirdeb yn ddiofal ar ran person os gellir ei briodoli i fethiant y person i gymryd gofal rhesymol.

(5)Mae anghywirdeb nad oedd yn fwriadol nac yn ddiofal ar ran person pan roddwyd y ddogfen i’w drin fel un diofal—

(a)os darganfu’r person yr anghywirdeb yn ddiweddarach, a

(b)os na chymerodd y person gamau rhesymol i roi gwybod i ACC.

(6)Pan fo dogfen yn cynnwys mwy nag un anghywirdeb y bodlonir amodau 1 a 2 mewn cysylltiad â hwy, mae’r person yn agored i gosb am bob anghywirdeb o’r fath.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 129 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I21A. 129 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

130Swm y gosb am anghywirdeb mewn dogfen a roddir i ACCLL+C

(1)Y gosb am anghywirdeb bwriadol yw [F41swm heb fod yn fwy na] 100% o’r refeniw posibl a gollir.

(2)Y gosb am anghywirdeb diofal yw [F42swm heb fod yn fwy na] 30% o’r refeniw posibl a gollir.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 130 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I23A. 130 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

131Gohirio cosb am anghywirdeb diofalLL+C

(1)Caiff ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb am anghywirdeb diofal o dan adran 129 drwy ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb.

(2)Rhaid i’r hysbysiad bennu—

(a)pa ran o’r gosb sydd i’w gohirio,

(b)cyfnod gohirio nad yw’n hwy na 2 flynedd, ac

(c)amodau gohirio y mae’n rhaid i’r person gydymffurfio â hwy.

(3)Ni chaiff ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb oni fyddai cydymffurfio ag amod gohirio yn helpu’r person i osgoi dod yn agored i gosbau pellach o dan adran 129 am anghywirdeb diofal.

(4)Caiff amod gohirio bennu—

(a)cam sydd i’w gymryd, a

(b)cyfnod ar gyfer cymryd y cam hwnnw.

(5)Pan ddaw’r cyfnod gohirio i ben—

(a)os yw’r person yn bodloni ACC y cydymffurfiwyd â’r amodau gohirio, caiff y gosb neu’r rhan a ohiriwyd ei chanslo, a

(b)fel arall, daw’r gosb neu’r rhan a ohiriwyd yn daladwy.

(6)Os yw’r person, yn ystod cyfnod gohirio cosb gyfan neu ran o gosb sy’n daladwy o dan adran 129, yn dod yn agored i gosb arall o dan yr adran honno, daw’r gosb neu’r rhan a ohiriwyd yn daladwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 131 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I25A. 131 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

132Cosb am anghywirdeb bwriadol mewn dogfen a roddir i ACC gan berson arallLL+C

(1)Mae person (y cyfeirir ato yn yr adran hon fel “person A”) yn agored i gosb pan fo—

(a)person arall yn rhoi dogfen i ACC,

(b)y ddogfen yn cynnwys anghywirdeb perthnasol, ac

(c)yr anghywirdeb i’w briodoli—

(i)i berson A yn darparu gwybodaeth ffug i’r person arall yn fwriadol (boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol), neu

(ii)i berson A yn atal gwybodaeth yn fwriadol rhag y person arall,

gyda’r bwriad bod y ddogfen yn cynnwys yr anghywirdeb.

(2)Mae “anghywirdeb perthnasol” yn anghywirdeb sy’n gyfystyr ag, neu’n arwain at—

(a)tanddatganiad o rwymedigaeth i dreth ddatganoledig,

(b)datganiad ffug neu ormodol o golled sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, F43...

(c)hawliad ffug neu ormodol am ad-daliad o dreth ddatganoledig [F44, neu

(d)hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.]

(3)Mae person A yn agored i gosb o dan yr adran hon mewn cysylltiad ag anghywirdeb pa un a yw’r person arall yn agored i gosb ai peidio o dan adran 129 mewn perthynas â’r un anghywirdeb.

(4)Y gosb sy’n daladwy o dan yr adran hon yw [F45 100% o’r refeniw posibl a gollir.]

Cosb am fethu â hysbysu ynghylch tanasesiad etc.LL+C

133Cosb am fethu â hysbysu ynghylch tanasesiad neu danddyfarniadLL+C

(1)Mae person yn agored i gosb pan fo—

(a)asesiad ACC yn tanddatgan rhwymedigaeth y person i dreth ddatganoledig, a

(b)y person wedi methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am yr asesiad, ei fod yn danasesiad.

[F46(1A)Mae person hefyd yn agored i gosb pan fo—

(a)asesiad ACC o dan adran 55A yn tanddatgan y swm y mae’n ofynnol i’r person ei dalu i ACC, a

(b)y person wedi methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am yr asesiad, ei fod yn danasesiad.]

(2)Wrth benderfynu pa gamau (os o gwbl) a oedd yn rhesymol, rhaid i ACC ystyried pa un a wyddai’r person am y tanasesiad, neu a ddylai fod wedi gwybod amdano.

(3)Y gosb sy’n daladwy o dan yr adran hon yw [F47swm heb fod yn fwy na] 30% o’r refeniw posibl a gollir.

(4)Yn yr adran hon—

(a)mae “asesiad ACC” yn cynnwys dyfarniad a wnaed gan ACC o dan adran 52, a

(b)yn unol â hynny, mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at danasesiad yn cynnwys cyfeiriadau at danddyfarniad.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 133 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I29A. 133 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Refeniw posibl a gollirLL+C

134Ystyr “refeniw posibl a gollir”LL+C

Yn y Bennod hon, mae i “refeniw posibl a gollir” yr ystyr a roddir gan adrannau 135 i 138.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 134 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I31A. 134 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

135Refeniw posibl a gollir: y rheol arferolLL+C

(1)Y “refeniw posibl a gollir” mewn cysylltiad ag—

(a)anghywirdeb mewn dogfen (gan gynnwys anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu atal gwybodaeth), neu

(b)methiant i hysbysu ynghylch tanasesiad,

yw’r swm ychwanegol sy’n daladwy mewn cysylltiad â threth ddatganoledig [F48neu gredyd treth] o ganlyniad i gywiro’r anghywirdeb neu’r tanasesiad.

(2)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at y swm ychwanegol sy’n daladwy yn cynnwys cyfeiriad at—

(a)swm sy’n daladwy i ACC wedi iddo gael ei dalu drwy gamgymeriad ar ffurf ad-daliad o dreth ddatganoledig, F49...

(b)swm a fyddai wedi bod i’w ad-dalu gan ACC pe na byddai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro, [F50ac

(c)swm y byddai wedi bod yn ofynnol i ACC ei osod yn erbyn atebolrwydd person i dreth, neu ei dalu i berson, pe na bai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I32A. 135 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I33A. 135 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

136Refeniw posibl a gollir: camgymeriadau lluosogLL+C

(1)Pan fo person yn agored i gosb o dan adran 129 mewn cysylltiad â mwy nag un anghywirdeb, a bod y cyfrifiad o’r refeniw posibl a gollir o dan adran 135 mewn cysylltiad â phob anghywirdeb yn dibynnu ar y drefn y cânt eu cywiro, dylid cymryd bod anghywirdebau diofal yn cael eu cywiro cyn anghywirdebau bwriadol.

(2)Wrth gyfrifo refeniw posibl a gollir pan fo person yn agored i gosb o dan adran 129 mewn cysylltiad ag un neu ragor o danddatganiadau mewn un neu ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â chyfnod treth [F51, trafodiad neu hawliad am gredyd treth], rhaid rhoi ystyriaeth i unrhyw orddatganiadau mewn unrhyw ddogfen a roddwyd gan y person sy’n ymwneud â’r un cyfnod treth [F52, trafodiad neu hawliad am gredyd treth].

(3)Yn is-adran (2)—

(a)ystyr “tanddatganiad” yw anghywirdeb sy’n bodloni amod 1 yn adran 129, a

(b)ystyr “gorddatganiad” yw anghywirdeb nad yw’n bodloni’r amod hwnnw.

(4)At ddibenion is-adran (2), mae gorddatganiadau i’w gosod yn erbyn tanddatganiadau yn y drefn a ganlyn—

(a)tanddatganiadau nad yw’r person yn agored i gosb mewn cysylltiad â hwy,

(b)tanddatganiadau diofal, ac

(c)tanddatganiadau bwriadol.

(5)Wrth gyfrifo, at ddibenion cosb o dan adran 129, refeniw posibl a gollir mewn cysylltiad â dogfen a roddwyd gan berson neu ar ran person, ni ddylid ystyried y ffaith fod refeniw posibl a gollir gan berson i’w wrthbwyso, neu y caniateir ei wrthbwyso, gan ordaliad posibl gan berson arall (ac eithrio i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol bod rhwymedigaeth person i dreth ddatganoledig yn cael ei haddasu drwy gyfeirio at rwymedigaeth person arall i dreth ddatganoledig).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I34A. 136 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I35A. 136 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

137Refeniw posibl a gollir: colledionLL+C

(1)Pan fo anghywirdeb yn arwain at gofnodi colled yn anghywir at ddibenion treth ddatganoledig a bod y golled wedi ei defnyddio’n llwyr i ostwng y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r dreth honno, cyfrifir y refeniw posibl a gollir yn unol ag adran 135.

(2)Pan fo anghywirdeb yn arwain at gofnodi colled yn anghywir at ddibenion treth ddatganoledig ac nad yw’r golled wedi ei defnyddio’n llwyr i ostwng y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r dreth honno, y refeniw posibl a gollir yw—

(a)y refeniw posibl a gollir wedi ei gyfrifo yn unol ag adran 135 mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r golled a ddefnyddiwyd i ostwng y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r dreth honno, ynghyd â

(b)10% o unrhyw ran nas defnyddiwyd.

(3)Mae is-adrannau (1) a (2) yn gymwys i’r canlynol fel ei gilydd—

(a)achos pan na fyddai unrhyw golled wedi ei chofnodi oni bai am yr anghywirdeb, a

(b)achos pan fyddai swm gwahanol o golled wedi ei gofnodi (ond yn yr achos hwnnw nid yw is-adrannau (1) a (2) ond yn gymwys i’r gwahaniaeth rhwng y swm a gofnodwyd a’r gwir swm).

(4)Mae’r refeniw posibl a gollir mewn cysylltiad â cholled yn ddim pan na fo unrhyw obaith rhesymol, oherwydd natur y golled neu amgylchiadau’r person y mae’r dreth ddatganoledig i’w chodi arno, y defnyddir y golled i gefnogi hawliad i ostwng rhwymedigaeth unrhyw berson i’r dreth honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I36A. 137 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I37A. 137 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

138Refeniw posibl a gollir: treth oediedigLL+C

(1)Pan fo anghywirdeb wedi arwain at ddatgan swm o dreth ddatganoledig yn hwyrach nag y dylid (“y dreth oediedig”), y refeniw posibl a gollir yw—

(a)5% o’r dreth oediedig am bob blwyddyn o’r oedi;

(b)canran o’r dreth oediedig, ar gyfer pob cyfnod oedi o lai na blwyddyn, sy’n cyfateb i 5% y flwyddyn.

(2)Nid yw’r adran hon yn gymwys i achos y mae adran 137 yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 138 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I39A. 138 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Cosbau o dan Bennod 3: cyffredinolLL+C

139Gostwng cosb o dan Bennod 3 am ddatgeluLL+C

(1)Caiff ACC ostwng cosb sy’n daladwy o dan y Bennod hon pan fo person yn gwneud datgeliad cymwys.

(2)Ystyr “datgeliad cymwys” yw datgelu—

(a)anghywirdeb sy’n berthnasol i rwymedigaeth person i dreth ddatganoledig,

(b)bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu, neu wybodaeth wedi ei hatal, sy’n berthnasol i rwymedigaeth person i dreth ddatganoledig, F53...

(c)methiant i ddatgelu tanasesiad mewn cysylltiad â threth ddatganoledig,

[F54(d)anghywirdeb sy’n berthnasol i hawlogaeth person i gredyd treth neu atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth,

(e)bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu, neu wybodaeth wedi ei hatal, sy’n berthnasol i hawlogaeth person i gredyd treth neu atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth, neu

(f)methiant i ddatgelu tanasesiad mewn cysylltiad ag atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth.]

(3)Mae person yn gwneud datgeliad cymwys drwy—

(a)dweud wrth ACC amdano,

(b)rhoi cymorth rhesymol i ACC wrth feintioli—

(i)yr anghywirdeb,

(ii)yr anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu gelu gwybodaeth, neu

(iii)y tanasesiad, ac

(c)caniatáu i ACC weld cofnodion at ddiben sicrhau bod—

(i)yr anghywirdeb,

(ii)yr anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu atal gwybodaeth, neu

(iii)y tanasesiad,

yn cael ei gywiro’n llawn.

(4)Wrth ostwng cosb o dan yr adran hon, caiff ACC ystyried—

(a)pa un a oedd y datgeliad wedi ei gymell neu’n ddigymell, a

(b)ansawdd y datgeliad.

(5)Mae datgelu gwybodaeth berthnasol—

(a)yn “ddigymell” os caiff ei wneud ar adeg pan nad oes gan y person sy’n datgelu unrhyw reswm i gredu bod ACC wedi darganfod neu ar fin darganfod yr anghywirdeb, bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu neu bod gwybodaeth wedi ei hatal, neu’r tanasesiad, a

(b)fel arall, “wedi ei gymell”.

(6)Mae “ansawdd”, mewn perthynas â datgelu, yn cynnwys amseriad, natur a graddau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 139 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I41A. 139 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

140Gostyngiad arbennig i gosb o dan Bennod 3LL+C

(1)Caiff ACC ostwng cosb o dan y Bennod hon os yw’n credu ei bod yn iawn gwneud hynny oherwydd amgylchiadau arbennig.

(2)Yn is-adran (1), nid yw “amgylchiadau arbennig” yn cynnwys—

(a)gallu i dalu, na

(b)y ffaith fod refeniw posibl a gollir gan un person yn cael ei wrthbwyso gan ordaliad posibl gan berson arall.

(3)Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ostwng cosb yn cynnwys cyfeiriad at—

(a)dileu cosb yn llwyr,

(b)gohirio cosb, ac

(c)cytuno ar gyfaddawd mewn perthynas ag achos yn ymwneud â chosb.

(4)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at gosb yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw log mewn perthynas â chosb.

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 140 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I43A. 140 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

141Asesu cosbau o dan Bennod 3LL+C

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon, rhaid i ACC—

(a)asesu’r gosb,

(b)dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd, ac

(c)datgan yn yr hysbysiad ar gyfer pa gyfnod [F55, trafodiad neu hawliad am gredyd treth] yr aseswyd y gosb.

(2)Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan y Bennod hon ac asesiad o dreth ddatganoledig.

(3)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 129 neu 132 cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—

(a)â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer y penderfyniad sy’n cywiro’r anghywirdeb, neu

(b)os nad oes asesiad o’r dreth o dan sylw o ganlyniad i’r penderfyniad hwnnw, â’r diwrnod y caiff yr anghywirdeb ei gywiro.

(4)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 133 cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—

(a)â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad treth a oedd yn cywiro’r tanddatganiad, neu

(b)os nad oes asesiad sy’n cywiro’r tanddatganiad, â’r diwrnod y caiff y tanddatganiad ei gywiro.

(5)Yn is-adrannau (3) a (4), ystyr “cyfnod apelio” [F56yw]

(a)os na wneir apêl, y cyfnod y gellid gwneud apêl, a

(b)os gwneir apêl, y cyfnod sy’n dod i ben pan gaiff ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.

(6)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan y Bennod hon os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danddatganiad o’r refeniw posibl a gollir.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 141 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I45A. 141 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

DehongliLL+C

142Dehongli Pennod 3LL+C

Yn y Bennod hon—

(a)mae cyfeiriad at roi dogfen i ACC yn cynnwys—

(i)cyfeiriad at gyfleu gwybodaeth i ACC ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd (boed drwy’r post, ffacs, e-bost, ffôn neu fel arall), a

(ii)cyfeiriad at wneud datganiad mewn dogfen;

(b)mae cyfeiriad at ddychwelyd ffurflen dreth neu at wneud unrhyw beth mewn perthynas â ffurflen dreth yn cynnwys cyfeiriad at ddiwygio ffurflen dreth neu at wneud unrhyw beth mewn perthynas â ffurflen dreth ddiwygiedig;

(c)mae cyfeiriad at golled yn cynnwys cyfeiriad at dâl, traul, diffyg ac unrhyw swm arall a all fod ar gael ar gyfer didyniad neu [F57ryddhad], neu y gellir dibynnu arno er mwyn hawlio didyniad neu [F57ryddhad];

(d)mae cyfeiriad at weithred yn cynnwys cyfeiriad at anweithred.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 142 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I47A. 142 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

PENNOD 4LL+CCOSBAU SY’N YMWNEUD Â CHADW COFNODION A THREFNIADAU TALU’N ÔL

Cosb am fethu â chadw cofnodion mewn cysylltiad â ffurflenni neu hawliadau treth a’u storio’n ddiogelLL+C

143Cosb am fethu â chadw cofnodion a’u storio’n ddiogelLL+C

(1)Mae person sy’n methu â chydymffurfio ag adran 38 [F58, 38A] neu 69 yn agored i gosb heb fod yn fwy na £3,000.

(2)Ond nid oes unrhyw gosb i’w thalu os yw ACC yn fodlon bod unrhyw ffeithiau y mae’n rhesymol ofynnol ganddo iddynt gael eu profi, ac y byddai’r cofnodion wedi eu profi, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I48A. 143 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I49A. 143 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

144Esgus rhesymol am fethu â chadw cofnodion a’u storio’n ddiogelLL+C

(1)Os yw person sy’n methu â chydymffurfio ag adran 38 [F59, 38A] neu 69 yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol am y methiant, nid oes unrhyw rwymedigaeth i gosb o dan adran 143 mewn perthynas â’r methiant.

(2)At ddibenion is-adran (1)—

(a)nid yw prinder arian yn esgus rhesymol oni bai y gellir priodoli hynny i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y person;

(b)pan fo’r person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r methiant;

(c)os oedd gan y person esgus rhesymol am y methiant ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os caiff y methiant ei gywiro heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I50A. 144 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I51A. 144 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

145Asesu cosbau o dan adran 143LL+C

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 143, rhaid i ACC—

(a)asesu’r gosb, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd.

(2)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 143 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y person wedi methu â chydymffurfio ag adran 38 [F60, 38A] neu 69.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I52A. 145 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I53A. 145 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

PENNOD 5LL+CCOSBAU SY’N YMWNEUD AG YMCHWILIADAU

Yn ddilys o 25/01/2018

Cosbau am fethu â chydymffurfio neu am rwystroLL+C

146Cosb am fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth neu am rwystroLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i berson—

(a)sy’n methu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth,

(b)sy’n rhwystro ACC yn fwriadol yn ystod ymchwiliad, neu wrth iddo arfer pŵer, a gymeradwywyd gan y tribiwnlys o dan adran 108,

(c)sy’n rhwystro ACC yn fwriadol wrth iddo arfer ei bŵer o dan adran 113(3), neu

(d)sy’n methu â chydymffurfio o fewn cyfnod rhesymol â gofyniad o dan adran 113(5).

(2)Mae’r person yn agored i gosb o £300.

(3)Mae’r cyfeiriad at berson sy’n methu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth yn cynnwys person sy’n celu, yn difa, neu fel arall yn cael gwared â dogfen (neu sy’n trefnu i’w chelu, i’w difa neu i gael gwared arni) yn groes i adran 114 neu 115.

Gwybodaeth Cychwyn

I54A. 146 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

147Cosb ddiofyn ddyddiol am fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth neu am rwystroLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r methiant neu’r rhwystr a grybwyllir yn adran 146(1) yn parhau ar ôl y diwrnod y dyroddir hysbysiad am gosb o dan adran 153(1)(b) mewn cysylltiad â’r methiant neu’r rhwystr.

(2)Ond nid yw’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r methiant yn gysylltiedig â hysbysiad cyswllt dyledwr, neu

(b)os yw penderfyniad sy’n ymwneud â’r gosb o dan adran 146 mewn cysylltiad â’r methiant neu’r rhwystr yn destun—

(i)adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu

(ii)apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl hyd yma.

(3)Mae’r person yn agored i gosb bellach neu gosbau pellach heb fod yn fwy na £60 am bob diwrnod y mae’r methiant neu’r rhwystr yn parhau.

Gwybodaeth Cychwyn

I55A. 147 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

148Effaith ymestyn y terfyn amser ar gyfer cydymffurfioLL+C

Ni chyfyd rhwymedigaeth i gosb o dan adran 146 neu 147 mewn cysylltiad â methiant person i wneud unrhyw beth yr oedd ofynnol ei wneud o fewn cyfnod cyfyngedig os gwnaeth y person hynny o fewn unrhyw gyfnod pellach (os o gwbl) a ganiatawyd gan ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I56A. 148 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

149Esgus rhesymol am fethu â chydymffurfio neu am rwystroLL+C

(1)Nid oes rhwymedigaeth i gosb o dan adran 146 neu 147 os yw’r person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol am y methiant neu am rwystro ACC.

(2)At ddibenion yr adran hon—

(a)nid yw prinder arian yn esgus rhesymol oni bai y gellir priodoli hynny i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y person;

(b)pan fo’r person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r methiant neu’r rhwystr;

(c)os oedd gan y person esgus rhesymol am y methiant neu’r rhwystr ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os caiff y methiant ei gywiro, neu os daw’r rhwystr i ben, heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I57A. 149 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

Cosbau pellach am barhau i fethu â chydymffurfio neu am barhau i rwystroLL+C

Yn ddilys o 25/01/2018

150Cosb ddiofyn ddyddiol uwch am fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaethLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os caiff cosb o dan adran 147 ei hasesu o dan adran 153 mewn cysylltiad â methiant person i gydymffurfio â hysbysiad trydydd parti anhysbys,

(b)os yw’r methiant yn parhau am fwy na 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddwyd hysbysiad am y gosb, ac

(c)os dywedwyd wrth y person y gellir gwneud cais o dan yr adran hon i osod cosb ddyddiol uwch.

(2)Caiff ACC wneud cais i’r tribiwnlys osod cosb ddyddiol uwch ar y person.

(3)Ond ni chaiff ACC wneud cais o’r fath os yw penderfyniad mewn perthynas â chosb o dan adran 146 neu 147 mewn cysylltiad â’r methiant yn destun—

(a)adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu

(b)apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl hyd yma.

(4)Os yw’r tribiwnlys yn penderfynu y dylid gosod cosb ddyddiol uwch, yna ar gyfer pob diwrnod cymwys y mae’r methiant yn parhau—

(a)nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 147 am y methiant, a

(b)mae’r person yn agored yn hytrach i gosb o dan yr adran hon o swm a bennir gan y tribiwnlys.

(5)Ni chaiff y tribiwnlys bennu swm sy’n uwch na £1,000 ar gyfer pob diwrnod cymwys.

(6)Wrth bennu’r swm rhaid i’r tribiwnlys roi sylw i—

(a)cost debygol cydymffurfio â’r hysbysiad i’r person,

(b)unrhyw fuddiannau i’r person o beidio â chydymffurfio â’r hysbysiad, ac

(c)unrhyw fuddiannau i unrhyw un arall sy’n deillio o’r ffaith nad yw’r person wedi cydymffurfio.

(7)Os daw person yn agored i gosb o dan yr adran hon, rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad sy’n nodi’r ffaith honno i’r person.

(8)Rhaid i’r hysbysiad ddatgan y diwrnod cyntaf y bydd y gosb uwch yn gymwys.

(9)Mae’r diwrnod hwnnw ac unrhyw ddiwrnod dilynol y mae’r methiant yn parhau yn “ddiwrnod cymwys” at ddibenion yr adran hon ac adran 153(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I58A. 150 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

151Cosb gysylltiedig â threth am fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth neu am rwystroLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)person yn dod yn agored i gosb o dan adran 146,

(b)y methiant neu’r rhwystr yn parhau ar ôl y diwrnod y dyroddir hysbysiad am gosb o dan adran 153(1)(b) mewn cysylltiad â’r gosb,

(c)ACC â rheswm i gredu bod swm y dreth ddatganoledig y mae’r person wedi ei dalu, neu y mae’n debygol o’i dalu, yn sylweddol is na’r hyn y byddai wedi bod fel arall o ganlyniad i’r methiant neu’r rhwystr,

(d)cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol, ACC yn gwneud cais i’r Uwch Dribiwnlys i gosb ychwanegol gael ei gosod ar y person (gweler is-adran (6)) ac yn rhoi hysbysiad am y cais i’r person, ac

(e)yr Uwch Dribiwnlys yn penderfynu ei bod yn briodol gosod cosb ychwanegol.

(2)Mae’r person yn agored i gosb o swm a bennir gan yr Uwch Dribiwnlys.

(3)Wrth bennu’r swm, rhaid i’r Uwch Dribiwnlys roi sylw i swm y dreth ddatganoledig nad yw’r person wedi ei dalu, neu nad yw’n debygol o’i dalu.

(4)Mae unrhyw gosb o dan yr adran hon yn ychwanegol at y gosb neu’r cosbau o dan adran 146 neu 147.

(5)Yn is-adran (1)(d), ystyr y “dyddiad perthnasol” yw—

(a)mewn achos sy’n ymwneud â hysbysiad gwybodaeth y caiff person apelio yn ei erbyn, y diweddaraf o’r canlynol—

(i)y diwrnod y daeth y person yn agored i’r gosb o dan adran 146,

(ii)os na wneir apêl yn erbyn yr hysbysiad gwybodaeth, diwedd y cyfnod y gellid bod wedi gwneud apêl o’r fath, a

(iii)os gwneir apêl o’r fath, y diwrnod y caiff yr apêl ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl, a

(b)mewn unrhyw achos arall, y diwrnod y daeth y person yn agored i’r gosb o dan adran 146.

(6)Ni chaiff ACC wneud cais o’r math a grybwyllir yn is-adran (1)(d) os yw penderfyniad sy’n ymwneud â chosb o dan adran 146, 147 neu 150 mewn cysylltiad â’r methiant neu’r rhwystr yn destun—

(a)adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu

(b)apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl hyd yma.

Yn ddilys o 25/01/2018

Cosb am wybodaeth neu ddogfennau anghywirLL+C

152Cosb am wybodaeth neu ddogfennau anghywirLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw person yn darparu gwybodaeth anghywir, neu’n cyflwyno dogfen sy’n cynnwys anghywirdeb, wrth gydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth heblaw hysbysiad cyswllt dyledwr, a

(b)os bodlonir amod 1, 2 neu 3.

(2)Amod 1 yw bod yr anghywirdeb—

(a)yn fwriadol, neu

(b)yn deillio o fethiant ar ran y person i gymryd gofal rhesymol.

(3)Amod 2 yw bod y person yn gwybod am yr anghywirdeb ar yr adeg y darperir yr wybodaeth neu y cyflwynir y ddogfen ond nad yw’n hysbysu ACC ar y pryd.

(4)Amod 3 yw bod y person—

(a)yn darganfod yr anghywirdeb yn ddiweddarach, a

(b)yn methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC.

(5)Mae’r person yn agored i gosb heb fod yn fwy na £3,000.

(6)Pan fo’r wybodaeth neu’r ddogfen yn cynnwys mwy nag un anghywirdeb y bodlonir amod 1, 2 neu 3 mewn cysylltiad â hwy, mae cosb yn daladwy am bob anghywirdeb o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I60A. 152 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

Yn ddilys o 25/01/2018

Cosbau o dan Bennod 5: cyffredinolLL+C

153Asesu cosbau o dan Bennod 5LL+C

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon, rhaid i ACC—

(a)asesu’r gosb, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd.

(2)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 146 neu 147 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth y person yn agored i’r gosb.

(3)Ond mewn achos sy’n ymwneud â hysbysiad gwybodaeth y caiff person apelio yn ei erbyn, rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 146 neu 147 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diweddaraf o’r canlynol—

(a)y diwrnod y daeth y person yn agored i’r gosb,

(b)os na wneir apêl yn erbyn yr hysbysiad, diwedd y cyfnod y gellid bod wedi gwneud apêl o’r fath, ac

(c)os gwneir apêl o’r fath, y diwrnod y caiff yr apêl ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.

(4)Rhaid gwneud asesiad o gosbau o dan adran 150—

(a)ar ddiwedd y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod cymwys cyntaf, a

(b)ar ddiwedd pob cyfnod dilynol o 7 niwrnod sy’n cynnwys diwrnod cymwys.

(5)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 151 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y penderfynodd yr Uwch Dribiwnlys ei bod yn briodol gosod y gosb.

(6)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 152—

(a)o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth yr anghywirdeb i sylw ACC yn gyntaf, a

(b)o fewn y cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth y person yn agored i’r gosb.

Gwybodaeth Cychwyn

I61A. 153 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

PENNOD 6LL+CTALU COSBAU

154Talu cosbauLL+C

Rhaid talu cosb o dan y Rhan hon cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddwyd hysbysiad am y gosb (ond gweler adran 182).

PENNOD 7LL+CATODOL

Yn ddilys o 25/01/2018

155Gwahardd cosbi ddwywaithLL+C

Nid yw person yn agored i gosb o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag unrhyw beth os yw’r person wedi ei gollfarnu o drosedd mewn perthynas â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I63A. 155 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194

156Pŵer i wneud rheoliadau ynghylch cosbauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth (neu ddarpariaeth bellach) ynghylch—

(a)symiau cosbau o dan y Rhan hon;

(b)y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau o dan y Rhan hon.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon addasu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon).

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan y Ddeddf hon fod yn gymwys—

(a)i fethiant sy’n dechrau cyn y diwrnod y daw’r rheoliadau i rym, neu

(b)i anghywirdeb mewn unrhyw wybodaeth neu ddogfen a ddarparwyd i ACC cyn y diwrnod hwnnw.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?