Chwilio Deddfwriaeth

Mesur Addysg (Cymru) 2011

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 3YSGOLION SEFYDLEDIG

26Gwahardd sefydlu ysgolion sefydledig newydd

(1)Mae Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 28—

(a)yn is-adran (1)(a), hepgorer “or foundation school”;

(b)yn is-adran (2)(a), hepgorer “foundation or”;

(c)ar ôl is-adran (2), mewnosoder—

(2A)A local authority or promoters may not publish proposals for the establishment of a new foundation school in Wales.

(3)Ym mharagraff 13(1) o Atodlen 6, yn lle “such” rhodder “voluntary controlled”.

(4)Yn adran 113A(4)(a) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, hepgorer “foundation,”.

27Gwahardd newid categori i ysgol sefydledig

(1)Mae Atodlen 8 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (newidiadau categori ysgol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff 1—

(a)hepgorer is-baragraff (1);

(b)hepgorer paragraff (b) o is-baragraff (2);

(c)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(2A)A foundation school may in accordance with this Schedule become a school within any of the following categories in pursuance of proposals published by the governing body—

(a)a community school;

(b)a voluntary aided school;

(c)a voluntary controlled school.

(3)Ym mharagraff 3—

(a)yn is-baragraff (2), hepgorer “If the proposals are published during the period mentioned in section 35(2),”;

(b)hepgorer is-baragraff (3).

28Arbedion: cynigion i sefydlu ysgolion sefydledig newydd

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys i gynnig gan awdurdod lleol neu unrhyw berson arall i sefydlu ysgol sefydledig newydd pan fo'r cynnig—

(a)wedi ei gyhoeddi o dan adran 28 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 cyn bod adran 26 wedi dod i rym, a

(b)heb gael ei weithredu'n unol ag Atodlen 6 i'r Ddeddf honno cyn bod adran 26 wedi dod i rym.

(2)Nid oes dim yn adran 26 yn effeithio ar weithrediad darpariaethau Rhannau 2 a 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 mewn perthynas â'r cynnig.

(3)Mae paragraff 13(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn cael effaith fel pe na bai'r diwygiad yn adran 26(3) wedi ei ddeddfu.

29Arbedion: cynigion i newid categori i ysgol sefydledig

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys i gynnig gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir i newid categori ysgol a gynhelir i ysgol sefydledig pan fo'r cynnig—

(a)wedi ei gyhoeddi o dan baragraff 2 o Atodlen 8 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 cyn bod adran 27 wedi dod i rym, a

(b)heb gael ei weithredu yn unol â rheoliadau a wnaed o dan baragraff 5 o Atodlen 8 i'r Ddeddf honno cyn bod adran 27 wedi dod i rym.

(2)Mae Atodlen 8 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn cael effaith fel pe na bai'r diwygiadau yn adran 27 wedi eu deddfu.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “ysgol a gynhelir” yw—

(a)ysgol gymunedol,

(b)ysgol wirfoddol a gynorthwyir, neu

(c)ysgol wirfoddol a reolir.

30Pwerau atodol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg drwy orchymyn, wneud—

(a)darpariaeth atodol, cysylltiedig neu ganlyniadol, neu

(b)darpariaeth drosiannol, darpariaeth dros dro neu ddarpariaeth arbed.

(2)Dim ond os yw Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion adrannau 26 i 29, o ganlyniad i'r adrannau hynny, neu er mwyn rhoi effaith lawn iddynt, y cânt wneud y cyfryw ddarpariaeth.

(3)Caiff gorchymyn, ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth sy'n diwygio neu'n dirymu unrhyw is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr Deddf Dehongli 1978) sydd wedi ei gwneud cyn pasio'r Mesur hwn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help