Dehongli
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn –
mae “cwch pysgota” (“fishing boat”) yn cynnwys cwch derbyn a chwch trydedd wlad, y naill a'r llall o fewn ystyr Rheoliad 2847/93;
mae “cynhyrchion pysgodfeydd” (“fisheries products”) yn cynnwys pysgod;
ystyr “mesur Cymunedol penodedig” (“specified Community measure”) yw darpariaeth a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen wedi'i darllen ym mhob achos ynghyd ag unrhyw eiriau amodi sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth honno yn y golofn honno;
ystyr “y môr cyfagos at Gymru” (“the sea adjacent to Wales”) yw y môr cyfagos at Gymru allan cyn belled â ffin y môr tiriogaethol â'r môr ac fe'i dehonglir yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 3 iddo();
ystyr “pwyllgor pysgodfeydd lleol” (“local fisheries committee”) yw pwyllgor pysgodfeydd lleol a gyfansoddwyd gan orchymyn wedi'i wneud, neu sydd ag effaith fel petai wedi'i wneud, o dan adran 1 o Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966();
mae “pysgod” (“fish”) yn cynnwys cramenogion, molysgiaid a rhannau o bysgod;
ystyr “Rheoliad 2847/93” (“Regulation 2847/93”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 a sefydlodd gyfundrefn reoli sy'n gymwys i'r polisi pysgodfeydd cyffredin();
ystyr “Rheoliad 894/97” (“Regulation 894/97”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 894/97 a bennodd fesurau technegol penodol ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodfeydd());
ystyr “Rheoliad 850/98” (“Regulation 850/98”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 ar gyfer cadw adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol i amddiffyn organeddau morol ifanc() fel y'i cywirwyd gan y Cywiriad i Atodiad XII o Reoliad 850/98()) a'i ddiwygio gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 308/1999(), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1459/99() a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2723/1999());
ystyr “Rheoliad 2742/99” (“Regulation 2742/99”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2742/99() a bennodd y cyfleoedd pysgota a'r amodau cysylltiedig ar gyfer stociau pysgod penodol a grwpiau o stociau pysgod ar gyfer 2000 sy'n gymwysadwy yn nyfroedd y Gymuned ac, yn achos cychod y Gymuned, mewn dyfroedd lle mae'n ofynnol cyfyngu ar yr haldiad a'r Rheoliad diwygio sef Rheoliad (EC) Rhif 66/98, fel y'i cywirwyd gan Gywiriad();
ystyr “tramgwydd perthnasol” (“relevant offence”) yw tramgwydd o dan:
(a)
erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn; neu
(b)
unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig a wneir er mwyn gweithredu mesur Cymunedol penodedig, sef darpariaeth y gellir dwyn achos mewn perthynas â hi mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981().
(2) Yn y Gorchymyn hwn, mae unrhyw gyfeiriad at ddogfen, coflyfr neu ddatganiad yn cynnwys, yn ogystal â dogfen, coflyfr neu ddatganiad mewn ysgrifen –
(i)unrhyw fap, plan, graff neu ddarlun;
(ii)unrhyw ffotograff;
(iii)unrhyw ddata, sut bynnag y'i hatgynhyrchir, a gyfathrebir drwy gyfrwng system loeren ar gyfer monitro cychod a sefydlwyd o dan Erthygl 3.1 o Reoliad 2847/93;
(iv)unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio seiniau neu ddata arall (nad ydynt yn ddelweddau gweledol) fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (gyda chymorth unrhyw gyfarpar arall neu hebddo);a
(v)unrhyw ffilm (gan gynnwys microffilm), negatif, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arnynt fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (fel y dywedwyd uchod).
(3) At ddibenion y Gorchymyn hwn, bernir bod ardal pwyllgor pysgodfeydd lleol yn ymestyn ledled ardal unrhyw gyngor yng Nghymru sy'n atebol i dalu costau'r pwyllgor, neu i gyfrannu at eu talu, ac eithrio na fydd unrhyw un o'r pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn i unrhyw swyddog pysgodfeydd i bwyllgor pysgodfeydd lleol yn arferadwy mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n codi o fewn terfynau unrhyw farchnad sydd o dan reolaeth unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn –
(a)at “yr Atodlen” yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn; a
(b)at un o offerynnau'r Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y mae mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.
(5) Rhaid peidio â darllen colofn 2 o'r Atodlen (sy'n rhoi awgrym mewn perthynas â phob mesur Cymunedol penodedig o bwnc y ddarpariaeth) fel pe bai'n cyfyngu ar gwmpas unrhyw fesur Cymunedol penodedig a chaiff ei hanwybyddu mewn perthynas ag unrhyw gwestiwn ynghylch dehongli'r Gorchymyn hwn.