Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Casglu dirwyon
5.—(1) Pan osodir dirwy gan lys ynadon ar feistr, perchennog, siartrwr, neu aelod criw cwch pysgota a gollfernir am dramgwydd perthnasol neu dramgwydd o dan erthygl 11 o'r Gorchymyn hwn, fe gaiff y llys –
(a)cyhoeddi gwarant atafaelu yn erbyn y cwch a oedd yn gysylltiedig â chyflawni'r tramgwydd, ei offer a'i haldiad ac unrhyw eiddo sydd gan y person a gollfarnwyd er mwyn casglu swm y ddirwy; a
(b)gorchymyn cadw'r cwch a'i offer a'i haldiad am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis o ddyddiad y gollfarn neu hyd nes y telir y ddirwy neu y cesglir swm y ddirwy yn unol ag unrhyw warant o'r fath, p'un bynnag fydd yn digwydd gyntaf.
(2) Bydd adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980() (gohirio cyhoeddi gwarantau atafaelu, a diffygion ynddynt) yn gymwys i warant atafaelu a gyhoeddir o dan yr erthygl hon fel y maent yn gymwys i warant atafaelu a gyhoeddir o dan Ran III o'r Ddeddf honno.
(3) Pan fydd gorchymyn trosglwyddo dirwy o dan erthygl 95 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Gogledd Iwerddon) 1981() neu adran 222 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995() mewn perthynas â dirwy ynglŷn â thramgwydd perthnasol yn pennu rhanbarth llys ynadon yng Nghymru, bydd yr erthygl hon yn gymwys fel pe bai'r ddirwy wedi'i gosod gan lys o fewn y rhanbarth llys ynadon hwnnw.
Yn ôl i’r brig