Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 4

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 19/10/2009

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 28/07/2001. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001, Adran 4. Help about Changes to Legislation

YmchwiliadauLL+C

4.—(1Wrth gynnal ymchwiliad o dan Reoliad 3(1)(a) uchod caiff y swyddog monitro ddilyn unrhyw weithdrefnau y mae'n barnu eu bod yn briodol yn amgylchiadau'r achos ac yn benodol fe gaiff:

(a)holi unrhyw berson ynghylch unrhyw beth y mae'n credu ei fod yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r ymchwiliad,

(b)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth, esboniad neu ddogfennau iddo y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol,

(c)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw aelod neu aelod cyfetholedig neu swyddog awdurdod perthnasol ymddangos ger ei fron at ddibenion paragraff (a) a (b) uchod.

(2Wrth gynnal yr ymchwiliad, gall y swyddog monitro gael ei gynorthwyo gan unrhyw berson.

(3Caiff y swyddog monitro sicrhau cyngor arbenigol neu gyngor arall hefyd pan fydd eu hangen oddi wrth unrhyw berson sy'n arbennig o gymwys ym marn y swyddog i'w gynorthwyo wrth gynnal yr ymchwiliad.

(4Pan fydd person wedi dod gerbron y swyddog monitro neu wedi rhoi gwybodaeth neu gymorth at ddibenion yr ymchwiliad yn unol â pharagraffau (1) neu (2) uchod, caiff y swyddog monitro, yn ddarostyngedig i awdurdodiad y Pwyllgor Safonau, dalu i'r person hwnnw:

(a)unrhyw symiau ar gyfer treuliau a dynnwyd yn briodol ganddo, a

(b)unrhyw lwfansau i'w ddigolledu am ei golled amser,

a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5Pan fydd person wedi rhoi cyngor yn unol â pharagraff (3) uchod, caiff y swyddog monitro dalu unrhyw ffioedd neu lwfansau a dynnwyd i'r person hwnnw yn ddarostyngedig i'r uchafsymiau a nodir yng nghynllun lwfansau'r awdurdod perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 4 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Yn ôl i’r brig

Options/Help