Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001, Adran 7A. Help about Changes to Legislation

[F1Adroddiadau neu Argymhellion a atgyfeirir at Bwyllgor Safonau arallLL+C

7A.(1) Pan fo swyddog monitro o dan reoliad 6 (adroddiadau) neu Bwyllgor Safonau o dan reoliad 7 (swyddogaethau’r Pwyllgor Safonau) yn gwneud trefniadau o dan reoliad 3(3) neu 7(2), rhaid i’r swyddog monitro neu’r Pwyllgor Safonau sy’n gwneud y trefniadau hynny roi’r hysbysiad a ddisgrifir ym mharagraff (2) i:

(a)y person neu’r personau sy’n destun ymchwiliad;

[F2(aa)pan fo testun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—

(i)cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;

(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;]

(b)y person neu’r personau sy’n gwneud yr honiad o gamymddygiad sy’n arwain at yr ymchwiliad; ac

(c)Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

(2) Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gynnwys y canlynol:

(a)datganiad bod y mater wedi ei atgyfeirio i Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall iddo ddyfarnu arno;

(b)enw’r awdurdod perthnasol arall; ac

(c)y rheswm pam y mae’r mater wedi ei atgyfeirio i Bwyllgor Safonau yr awdurdod perthnasol arall.]

Yn ôl i’r brig

Options/Help