Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Amseru'r refferendwm
16.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) a rheoliad 21, rhaid i refferendwm o ganlyniad i ddeiseb ddilys gael ei gynnal heb fod yn hwyrach—
(a)na diwedd y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda dyddiad y ddeiseb; neu
(b)na diwedd y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda'r dyddiad y mae rheoliadau o dan adran 45 (mewn perthynas â'r refferendwm) yn dod i rym, p'un bynnag yw'r olaf.
(2) Rhaid peidio â chynnal refferendwm cyn diwedd y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda'r dyddiad yr anfonir cynigion a datganiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â rheoliad 17(9).
(3) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal refferendwm drwy arfer y pwer a roddir gan reoliad 25.
(4) Ni all refferendwm o dan y Rhan hon gael ei gynnal—
(a)ar ddydd Sadwrn na dydd Sul,
(b)ar Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Dydd Iau Cablyd, Dydd Gwener y Groglith nac ar ddiwrnod sy'n wyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971() yng Nghymru, nac
(c)ar unrhyw ddiwrnod a bennir yn ddiwrnod diolchgarwch neu alar cyhoeddus.
Yn ôl i’r brig