Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Cyhoeddusrwydd ar gyfer refferendwm a fynnir drwy gyfarwyddyd
22.—(1) Rhaid i'r awdurdod y rhoddir cyfarwyddyd o dan reoliad 18 iddo, heb fod yn hwyrach nag un mis ar ôl dyddiad y cyfarwyddyd, gyhoeddi mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad—
(a)sy'n nodi termau'r cyfarwyddyd; a
(b)sy'n cynnwys datganiad—
(i)bod cyfarwyddyd yn y termau a nodir yn yr hysbysiad wedi'i roi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynnu cynnal refferendwm;
(ii)o'r math o weithrediaeth sydd i'w gynnwys yn y cynigion sy'n destun y refferendwm; a
(iii)y bydd refferendwm yn cael ei gynnal.
(2) Caiff awdurdod gynnwys yn yr hysbysiad sydd i'w gyhoeddi yn unol â pharagraff (1) unrhyw wybodaeth ffeithiol arall ynghylch y cyfarwyddyd, neu ei darparu fel arall ar gyfer unrhyw berson (boed yn unol ag unrhyw ddyletswydd i wneud hynny neu beidio) cyn belled ag y caiff ei chyflwyno'n deg.
(3) Wrth ddyfarnu at ddibenion paragraff (2) a yw unrhyw wybodaeth wedi'i chyflwyno'n deg, rhaid roi sylw i unrhyw ganllawiau sydd wedi'u cyhoeddi am y tro gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38.
Yn ôl i’r brig