Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe
Instrument
without
Schedules
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Enwi, cychwyn a dehongli
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992().
Diwygio Rheoliadau 1992
2. Ynglyn â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2002, diwygir Atodlenni 1, 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn: —
(a)ym mharagraff 3(1)(b) o Atodlen 1, yn lle “75 per cent” rhoddir “90 per cent”;
(b)ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2, yn lle “1.004” rhoddir “0.995”; ac
(c)yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998().
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Rhagfyr 2001
Yn ôl i’r brig