Penderfynu ar apelau drwy wrandawiad neu ymchwiliad lleol
17.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i apêl sydd i'w phenderfynu drwy wrandawiad neu ymchwiliad lleol.
(2) O fewn 42 ddiwrnod o ddyddiad cyflwyno hysbysiad i'r apelydd bod yr apêl i'w phenderfynu drwy wrandawiad neu ymchwiliad lleol, rhaid i'r apelydd gyflwyno datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol a fydd yn cynnwys manylion llawn am achos yr apelydd a chopïau o unrhyw ddogfennau y mae'n dymuno cyfeirio atynt yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copïau o'r datganiad a'r dogfennau at y partïon sydd â diddordeb.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi o leiaf 42 ddiwrnod o rybudd i'r apelydd a'r partïon sydd â diddordeb am y dyddiad, yr amser a'r lleoliad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol ac o enw'r person a benodwyd i gynnal y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol (ac, fel y bo'n gymwys, i benderfynu ar yr apêl) a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi, o leiaf 21 diwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer yr apêl neu'r gwrandawiad lleol, unrhyw rybudd i'r cyhoedd y gwêl yn dda.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r amser neu'r lleoliad ar gyfer cynnal y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol a rhaid iddo roi unrhyw rybudd y gwêl yn dda am unrhyw amrywiad o'r fath.
(5) Rhaid i unrhyw rai o'r partïon â diddordeb sy'n dymuno cael eu clywed yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol, o fewn 28 diwrnod o gyflwyno datganiad yr apelydd iddynt yn unol â pharagraff (2) uchod, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod yn dymuno ymddangos ac fe gaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud hi'n ofynnol i unrhyw berson sydd wedi ei hysbysu felly gyflwyno datganiad iddo yn cynnwys manylion eu hachos ynghyd â chopïau o unrhyw ddogfennau y maent yn dymuno cyfeirio atynt yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol (heblaw am y rhai y mae'r apelydd wedi mynegi ei fod yn dymuno cyfeirio atynt) o fewn 28 diwrnod o'i gwneud yn ofynnol iddo gyflwyno'r datganiad a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copïau o'r datganiadau hynny at yr apelydd ac at y partïon eraill sydd â diddordeb.
(6) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad i'r apelydd neu unrhyw berson arall sydd wedi darparu datganiad yn unol â pharagraff (5) uchod ddarparu iddo unrhyw wybodaeth bellach a bennir ganddo am y materion a gynhwyswyd yn y datganiad a rhaid iddo anfon copi o'r wybodaeth honno at y partïon â diddordeb neu at yr apelydd a'r partïon eraill sydd â diddordeb yn ôl fel y digwydd.
(7) Cyn i wrandawiad neu ymchwiliad lleol gael ei gynnal rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr holl ddogfennau a gyflwynwyd gan yr apelydd a'r partïon sydd â didordeb mewn perthynas â'r gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol ar gael i'w harchwilio gan unrhyw berson sy'n gwneud cais am hynny.
(8) Y personau y mae hawl ganddynt i gael eu clywed mewn gwrandawiad yw—
(a)yr apelydd;
(b)y partïon sydd â diddordeb; ac
(c)unrhyw berson arall y mae'r person a benodwyd i gynnal y gwrandawiad yn caniatáu iddo gael ei glywed.
(9) Rhaid i berson y mae ganddo hawl i ymddangos mewn ymchwiliad ac sy'n bwriadu rhoi tystiolaeth yn yr ymchwiliad trwy ddarllen proflen dystiolaeth anfon copi o'r broflen dystiolaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â chrynodeb ysgrifenedig o leiaf 21 diwrnod cyn y dyddiad a bennir ar gyfer yr ymchwiliad lleol a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copïau o'r broflen a'r crynodeb at y partïon â diddordeb neu at yr apelydd a'r partïon eraill sydd a diddordeb yn ôl fel y digwydd.
(10) Wedi i'r gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol ddod i ben, rhaid i'r person a benodwyd i gynnal y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol, oni bai eu bod wedi cael eu penodi i benderfynu ar yr apêl, gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r adroddiad hwnnw gynnwys eu casgliadau a'u hargymhellion neu eu rhesymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion.
(11) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn anghytuno â'r person sy'n gwneud yr adroddiad yn unol â pharagraff (10) uchod ynghylch unrhyw fater o ffaith a grybwyllwyd mewn casgliad y daeth y person hwnnw iddo, neu sy'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn berthnasol i'r casgliad hwnnw, neu os yw'n cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu fater o ffaith newydd ac oherwydd hynny y mae'n barod i anghytuno ag argymhelliad a wnaed yn yr adroddiad, rhaid iddo beidio â dod i benderfyniad heb yn gyntaf roi cyfle i unrhyw berson a ymddangosodd yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol gael cyfle i wneud sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn unrhyw amser rhesymol a bennir ganddo.
(12) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r person a benodwyd i benderfynu ar yr apêl, yn ôl fel y digwydd, hysbysu'r penderfyniad a'r rhesymau drosto, ac anfon copi o unrhyw adroddiad a wneir yn unol â pharagraff (10) uchod, at yr apelydd, at y partïon sydd â diddordeb ac at unrhyw berson arall a ymddangosodd yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol ac a ofynnodd am gael ei hysbysu am y penderfyniad.