Tramgwyddo a chosbi
17.—(1) Os oes unrhyw berson, er mwyn sicrhau cymorth ariannol iddo'i hun neu i unrhyw berson arall—
(a)wrth roi unrhyw wybodaeth gan honni ei bod yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan reoliad 4(1) neu (3) neu 13(5)(a) yn fwriadol neu'n ddi-hid yn gwneud datganiad sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol; neu
(b)gan honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad a osodir o dan reoliad 13(5)(a) neu (c) yn fwriadol neu'n ddi-hid yn cyflwyno dogfen sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol,
bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Os oes unrhyw berson—
(a)yn methu â chydymffurfio â'r gofyniad a osodir o dan reoliad 9 neu gan reoliad 10 uchod;
(b)yn methu â chydymffurfio â chais a wneir o dan reoliad 12 uchod; neu
(c)yn fwriadol yn gwrthod rhoi unrhyw wybodaeth, llenwi unrhyw ffurflen, neu gyflwyno unrhyw ddogfen pan ofynnir iddo neu iddi wneud hynny gan swyddog awdurdodedig (neu berson sy'n mynd gydag ef neu hi ac yn gweithredu o dan gyfarwyddiadau'r swyddog hwnnw) sy'n gweithredu i arfer pwer a roddir gan reoliad 13 uchod, neu sydd fel arall yn ei rwystro'n fwriadol,
bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(3) Caiff achos ynglyn â thramgwydd o dan baragraff (1) neu (2) uchod gael ei ddwyn, yn ddarostyngedig i baragraff (4) isod, o fewn y cyfnod o chwe mis o'r dyddiad y caiff yr erlynydd wybod am dystiolaeth sy'n ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau'r achos.
(4) Ni chaiff achos o'r fath gael ei ddwyn yn rhinwedd y rheoliad hwn fwy na phum mlynedd ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)bydd tystysgrif a lofnodir gan neu ar ran yr erlynydd ac yn datgan y dyddiad y cafodd wybod am dystiolaeth a oedd yn ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau'r achos yn dystiolaeth ddigamsyniol a digonol o'r ffaith honno; a
(b)bernir bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac sy'n ymhonni ei bod wedi'i llofnodi felly wedi'i llofnodi felly oni phrofir i'r gwrthwyneb.
(6) Pan brofir bod tramgwydd o dan y rheoliad hwn sydd wedi'i gyflawni gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu unrhyw berson a oedd yn ymhonni gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.
(7) Os yw materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, bydd paragraff (6) uchod yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n un o gyfarwyddwyr y corff corfforaethol.