Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy, Anheddau Esempt a Diystyru Gostyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2004

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 2921 (Cy.260)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy, Anheddau Esempt a Diystyru Gostyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

9 Tachwedd 2004

Yn dod i rym

1 Ebrill 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 3(5)(a), 4 a 113 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1)a pharagraff 7 o Atodlen 1 iddi, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

(1)

1992 (p.14). Trosglwyddwyd y pwerau hyn, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn Atodlen 1.