xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Masnach Ryng-Gymunedol

Cymhwyso Rhan 2

4.  Mae'r Rhan hon yn gymwys i'r fasnach rhwng Aelod-wladwriaethau mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid sy'n ddarostyngedig i offeryn yn Rhan I o Atodlen 3, ac eithrio cynhyrchion dyframaethu ar gyfer eu bwyta gan bobl sy'n cael eu rheoli gan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/67/EEC (ynghylch yr amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu rhoi ar y farchnad anifeiliaid a chynhyrchion dyframaethu)(1).

Allforion

5.—(1Rhaid i berson beidio ag allforio na thraddodi i'w allforio i Aelod-wladwriaeth arall unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid sy'n cael ei reoli o dan un neu fwy o'r offerynnau yn Rhan I o Atodlen 3 oni bai—

(a)ei fod yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol yr offerynnau hynny (gan gynnwys unrhyw ddewis sydd wedi'i wneud gan Aelod-wladwriaeth y gyrchfan), ac unrhyw ofynion ychwanegol a bennir yn y Rhan honno;

(b)pan fo'n ofynnol o dan offeryn o'r fath, bod un o'r canlynol yn mynd gydag ef —

(i)tystsgrif iechyd allforio sydd wedi'i llofnodi gan arolygydd milfeddygol (neu, pan fo hynny wedi'i bennu mewn offeryn, wedi'i llofnodi gan filfeddyg a enwyd gan yr allforiwr); neu

(ii)unrhyw ddogfen arall sy'n ofynnol o dan yr offeryn;

(c)pan fo'n ofynnol o dan offeryn o'r fath, bod unrhyw hysbysiad o glefyd ar y daliad y mae'r anifail wedi'i draddodi ohono wedi'i roi o fewn yr amser ac yn y modd a bennwyd (os o gwbl) yn yr offeryn; ac

(ch)os cafwyd yr anifail drwy ganolfan gynnull neu os yw'n teithio drwy ganolfan o'r fath, bod y ganolfan honno wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 12 at ddibenion masnach ryng-Gymunedol ac yn cydymffurfio â darpariaethau Erthygl 11 o Gyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC(2).

(2Os oes gan arolygydd le rhesymol i gredu bod person yn bwriadu allforio anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid yn groes i'r rheoliad hwn, caiff yr arolygydd wahardd yr allforio hwnnw drwy hysbysiad a gyflwynir i'r traddodwr, ei gynrychiolydd neu'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd ei fod â gofal dros yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion anifeiliaid, a chaiff ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo gymryd yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion anifeiliaid i unrhyw fan a bennir yn yr hysbysiad a chymryd unrhyw gamau pellach a bennir yn yr hysbysiad mewn perthynas â hwy.

(3Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2), caiff arolygydd atafaelu unrhyw anifail neu gynnyrch anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu bod y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo yn cydymffurfio â gofynion yr hysbysiad.

(4Rhaid i berson beidio ag allforio i Aelod-wladwriaeth arall unrhyw anifail y mae darpariaethau Erthyglau 6, 7, 9 neu 10 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC (sy'n gosod gofynion o ran iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach mewn, a mewnforion i'r Gymuned o, anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion iechyd anifeiliaid a bennir mewn rheolau penodol gan y Gymuned y cyfeirir atynt yn Atodiad A(1) i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC)(3) yn gymwys oni bai yr anifail yn tarddu —

(a)o ddaliad sydd wedi'i gofrestru gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a bod perchennog y daliad hwnnw neu'r person sydd â gofal dros y daliad hwnnw wedi rhoi ymrwymiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Erthygl 4 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC; neu

(b)o gorff neu sefydliad sydd wedi'i gymeradwyo neu ganolfan sydd wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 9(1) ac sy'n cydymffurfio â gofynion Atodiad C i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC.

(5Rhaid i berson beidio ag allforio i Aelod-wladwriaeth arall unrhyw wyau deor, cywion diwrnod-oed na dofednod y mae Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 90/539/EEC (ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach ryng-Gymunedol mewn dofednod ac wyau deor, a'u mewnforio o drydydd gwledydd)(4) yn gymwys oni bai eu bod yn tarddu o sefydliad —

(a)sy'n aelod o'r cynllun monitro, a elwir y Cynllun Iechyd Dofednod, sy'n cael ei weithredu gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn (mae sefydliad o'r fath i'w ystyried yn sefydliad a gymeradwywyd at ddibenion Erthygl 6(1)(a) o Gyfarwyddeb 90/539/EEC); a

(b)sy'n cydymffurfio â gofynion Atodiad II i Gyfarwyddeb 90/539/EEC.

Mewnforion

6.—(1Rhaid i berson beidio â mewnforio o Aelod-wladwriaeth arall (naill ai er mwyn dod â hwy i mewn i'r DU neu at ddibenion tramwy i Aelod-wladwriaeth arall) unrhyw anifail neu gynnyrch anifail sy'n ddarostyngedig i offeryn yn Rhan I o Atodlen 3 oni bai bod yr anifail hwnnw neu'r cynnyrch anifail hwnnw yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol yr offeryn hwnnw (yn ddarostyngedig i unrhyw ran-ddirymiadau a bennir yn y Rhan honno) ac ag unrhyw ofynion ychwanegol a bennir yn y Rhan honno.

(2Pan fo anifail sy'n ddarostyngedig i offeryn yn Rhan I o Atodlen 3 yn cael ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall (naill ai er mwyn dod ag ef i mewn i'r DU neu wrth dramwy i Aelod-wladwriaeth arall), rhaid i'r mewnforiwr, a'r person sydd â gofal dros yr anifail, os ydynt yn bersonau gwahanol, gydymffurfio â phob un o ddarpariaethau perthnasol yr offeryn hwnnw nes iddo gyrraedd ei gyrchfan neu ymadael â Chymru, yn ôl y digwydd.

(3Pan fo gwartheg, moch, defaid neu eifr yn cael eu mewnforio o Aelod-wladwriaeth arall i'w cigydda yng Nghymru a'u bod yn cael eu cymryd i ganolfan gynnull, rhaid i'r mewnforiwr sicrhau eu bod yn cael eu symud o'r ganolfan gynnull yn uniongyrchol i ladd-dy ac yn cael eu cigydda yno, a hynny yn achos defaid a geifr o fewn 5 niwrnod iddynt gyrraedd y ganolfan gynnull, ac yn achos gwartheg a moch o fewn 3 diwrnod iddynt gyrraedd y ganolfan gynnull.

(4Pan na fydd anifail y mae paragraff (3) yn berthnasol iddo yn cael ei gigydda o fewn y cyfnod penodedig, caiff arolygydd, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifail, ei gwneud yn ofynnol i'r anifail gael ei gigydda yn y modd a bennir yn yr hysbysiad.

(5Pan fo anifail yn cael ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall i'w gigydda, a hwnnw'n anifail nad yw wedi'i gymryd i ganolfan gynnull, rhaid ei gymryd yn uniongyrchol a heb oedi gormodol i ladd-dy, ac os nad yw'n cael ei gymryd yn uniongyrchol a heb oedi gormodol i ladd-dy, caiff arolygydd, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifail, ei gwneud yn ofynnol i'r anifail gael ei gymryd i unrhyw ladd-dy a bennir yn yr hysbysiad.

(6Os os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir naill ai o dan baragraff (4) neu (5) caiff arolygydd atafaelu'r anifail a threfnu bod y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo yn cydymffurfio â gofynion yr hysbysiad.

Cludo anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid

7.—(1Rhaid i berson beidio â chludo unrhyw anifail na chynnyrch anifail at ddibenion masnach ryng-Gymunedol oni bai bod y dogfennau sy'n ofynnol o dan Erthygl 3(1)(d) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC yn mynd gyda'r anifail neu'r cynnyrch anifail hwnnw.

(2Rhaid i berson beidio â danfon unrhyw anifail na chynnyrch anifail a fewnforiwyd o Aelod-wladwriaeth arall i gyfeiriad heblaw'r cyfeiriad a bennir yn y dogfennau traddodi gofynnol oni bai bod hysbysiad a gyflwynwyd iddo gan arolygydd yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny; ac, os bydd anifail neu gynnyrch anifail yn cael ei ddanfon i gyfeiriad heblaw'r cyfeiriad a bennir yn y dogfennau traddodi gofynnol ac yn groes i hysbysiad a gyflwynwyd gan arolygydd, caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros yr anifail neu'r cynnyrch anifail yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw ei gludo, ar draul y person hwnnw, i'r cyfeiriad a bennir yn y dogfennau traddodi gofynnol.

(3Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) caiff arolygydd atafaelu unrhyw anifail neu gynnyrch anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.

(4Yn achos cludo gwartheg, moch, defaid neu eifr, mae darpariaethau Rhan II o Atodlen 3 yn effeithiol, a gall unrhyw fethiant i gydymffurfio â'r darpariaethau hynny arwain at ddiwygio, atal neu ddirymu awdurdodiad i gludo'r anifeiliaid hynny a roddwyd o dan erthygl 12 o Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) 1997(5) yn unol ag Atodlen 9 i'r Gorchymyn hwnnw.

Masnachwyr

8.—(1Rhaid i fasnachwyr gwartheg, moch, defaid neu eifr, sy'n ymgymryd â masnach ryng-Gymunedol, gydymffurfio â Rhan III o Atodlen 3.

(2Rhaid i fasnachwyr anifeiliaid eraill sy'n ymgymryd â masnach ryng-Gymunedol, os bydd hysbysiad a gyflwynir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny, gofrestru fel y cyfryw gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddynt roi'r ymrwymiadau ynglyn â chydymffurfio â'r Rheoliadau hyn a bennir yn yr hysbysiad.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gadw cofrestr o fasnachwyr sydd wedi'u cofrestru o dan baragraff (2).

(4Rhaid i unrhyw berson sydd wedi cofrestru o dan baragraff (2) gadw cofnod —

(a)o bob cyflenwad anifeiliaid; a

(b)pan fo llwyth wedi'i rannu neu wedi'i farchnata ar ôl hynny, o gyrchfan ddilynol yr anifeiliaid,

a rhaid iddo gadw'r cofnodion hynny am 12 mis o'r dyddiad y cyrhaeddodd y llwyth.

Cymeradwyo canolfannau a thimau at ddibenion Cyfarwyddeb 92/65/EEC a labordai at ddibenion Cyfarwyddeb 90/539/EEC

9.—(1At ddibenion Erthyglau 5 a 13 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo unrhyw gorff, sefydliad neu ganolfan sydd wedi gwneud cais am gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 13 o'r Gyfarwyddeb honno ac sy'n cydymffurfio â gofynion Atodiad C i'r Gyfarwyddeb honno.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal, tynnu'n ôl neu adfer y gymeradwyaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) yn unol â phwynt 6 o Atodiad C i'r Gyfarwyddeb honno.

(3At ddibenion Erthygl 11 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo unrhyw ganolfan casglu semen neu dîm casglu embryonau sydd wedi gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 11 o'r Gyfarwyddeb honno ac sy'n bodloni'r amodau sy'n gymwys iddi neu iddo o ran cymeradwyo a chyflawni ei dyletswyddau neu ei ddyletswyddau fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 11 o'r Gyfarwyddeb honno ac Atodiad D iddi.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo labordai yn unol ag Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn at ddibenion cyflawni'r profion ar gyfer heintiadau Mycoplasma sy'n ofynnol o dan Bennod III o Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/539/EEC.

(5Rhaid i'r profion ar gyfer heintiadau Salmonela sy'n ofynnol o dan Bennod III o Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/539/EEC gael eu cyflawni gan labordai a awdurdodwyd yn unol ag erthygl 2(1) o Orchymyn Heidiau Bridio a Deorfeydd Dofednod 1993(6).

Arolygu a gwirio yn y gyrchfan

10.—(1Mae pŵer gan arolygydd milfeddygol i arolygu, yn eu cyrchfan, bob anifail a chynnyrch anifeiliaid sydd wedi'u mewnforio o Aelod-wladwriaeth arall, er mwyn sicrhau cydymffurfedd â'r gofynion (gan gynnwys y gofynion ynglyn â dogfennau) yn narpariaethau perthnasol yr offerynnau yn Rhan I o Atodlen 3 ac unrhyw ofynion ychwanegol a bennir yn Rhan I o Atodlen 3.

(2Mae gan arolygydd bŵer i arolygu yn unrhyw fan ac ar unrhyw bryd bob anifail a chynnyrch anifeiliaid sydd wedi'u mewnforio o Aelod-wladwriaeth arall, yn ogystal â phob dogfen sy'n mynd gyda hwy, os oes gan yr arolygydd wybodaeth sy'n peri iddo amau bod unrhyw un o ofynion yr offerynnau yn Rhan I o Atodlen 3 neu unrhyw ofynion ychwanegol a bennir yn Rhan I o Atodlen 3 wedi'u torri.

Dyletswyddau ar draddodeion

11.—(1Rhaid i berson beidio â derbyn llwyth o anifeiliaid nac o gynhyrchion anifeiliaid (ac eithrio ceffylau cofrestredig y mae dogfen adnabod yn mynd gyda hwy a honno'n ddogfen y darperir ar ei chyfer gan Gyfarwyddeb y Cyngor 90/427/EEC ar yr amodau sootechnegol ac achyddol sy'n llywodraethu masnach ryng-Gymunedol mewn equidae)(7)) oni bai bod y mewnforiwr neu'r traddodai wedi hysbysu arolygydd awdurdodedig yn ysgrifenedig, o leiaf 24 awr ymlaen llaw, o natur y llwyth, o'r dyddiad y disgwylir iddo gyrraedd ac o'r gyrchfan.

(2Rhaid i draddodai ddal ei afael ar bob tystysgrif a anfonir yn unol â'r Rheoliadau hyn am 12 mis o'r dyddiad y mae'r llwyth yn cyrraedd.

(3Yr arolygydd awdurdodedig y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) yw'r arolygydd a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i gael gwybodaeth am y dyddiad y disgwylir i anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid, a fewnforiwyd ar gyfer yr ardal y mae'r gyrchfan wedi'i lleoli ynddi, gyrraedd.

Canolfannau cynnull a lladd-dai

12.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n gweithredu canolfan gynnull wneud hynny'n unol â'r rheoliad hwn.

(2Mae'r ganolfan gynnull i gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol a chael Rhif ganddo, a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â'i chymeradwyo oni chaiff ei fodloni -—

(a)yn achos canolfan gynnull sy'n cael ei defnyddio ar gyfer gwartheg neu foch, bod y ganolfan yn cydymffurfio â gofynion paragraffau (a) i (d) o Erthygl 11(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC;

(b)yn achos canolfan gynnull sy'n cael ei defnyddio ar gyfer defaid neu eifr, bod y ganolfan yn cydymffurfio â gofynion paragraffau (a) i (d) o Erthygl 8a(1) o Gyfarwyddeb 91/68/EEC; ac

(c)bod gweithredydd y ganolfan gynnull wedi cytuno i gydymffurfio â'r gofynion ar gyfer gweithredu'r ganolfan y mae arolygydd wedi'u pennu mewn cytundeb gweithredol yn ofynion y mae'r arolygydd yn credu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod modd gweithredu'r ganolfan yn unol ag ail baragraff indent Erthygl 3(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC.

(3Yr unig anifeiliaid y caiff gweithredydd canolfan gynnull eu derbyn i'r fangre honno yw anifeiliaid sydd â manylion ar gyfer eu hadnabod ac sy'n dod o fuchesau, cenfeintiau, geifreoedd, greoedd, heidiau neu ddiadellau sy'n gymwys ar gyfer masnach o fewn y Gymuned.

(4Pan fo anifeiliaid yn cael eu traddodi i ganolfan gynnull, rhaid i weithredydd y ganolfan gynnull —

(a)sicrhau na chaiff unrhyw anifail ei dderbyn onid yw'n cydymffurfio ag Erthygl 3(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC; a

(b)cofnodi ar gofrestr —

(i)enw'r perchennog, tarddiad yr anifeiliaid, dyddiadau cyrraedd ac ymadael yr anifeiliaid, eu nifer a'u cyrchfan arfaethedig;

(ii)Rhif cofrestru'r cludydd a Rhif trwydded y cerbyd sy'n dod â'r anifeiliaid i'r ganolfan neu'n eu casglu ohoni;

(iii)yn achos gwartheg, dull adnabod yr anifeiliaid neu rif cofrestru'r daliad y maent yn dod ohono'n wreiddiol yn ogystal â'r wybodaeth ym mharagraffau (i) a (ii);

(iv)yn achos moch, Rhif cofrestru'r daliad y maent yn dod ohono'n wreiddiol neu'r genfaint y maent yn dod ohoni'n wreiddiol yn ogystal â'r wybodaeth ym mharagraffau (i) a (ii); a

(v)yn achos defaid neu eifr, dull adnabod yr anifeiliaid, neu rif cofrestru'r daliad y mae'r anifeiliaid yn dod ohono'n wreiddiol, ac, os yw'n briodol, Rhif cymeradwyaeth neu rif cofrestru unrhyw canolfan gynnull y mae'r anifeiliaid wedi mynd drwyddi cyn mynd i mewn i'r ganolfan yn ogystal â'r wybodaeth ym mharagraffau (i) a (ii),

a rhaid iddo gadw'r gofrestr yn ddiogel am dair blynedd o leiaf.

(5Pan fo anifeiliaid yn cael eu traddodi i ladd-dy o dan oruchwyliaeth milfeddyg swyddogol a benodwyd o dan ddarpariaethau rheoliad 8 o Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995(8) neu reoliad 8 o Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningen (Hylendid ac Arolygu) 1995(9), rhaid i'r milfeddyg swyddogol sicrhau na chaiff unrhyw anifail ei gigydda onid yw'n cydymffurfio ag Erthygl 3(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC.

(6Os yw'r milfeddyg swyddogol, wrth gyflawni arolygiadau o dan y paragraff blaenorol, yn cadarnhau bod ardystiad anghywir wedi dod gydag anifeiliaid a fewnforiwyd o Aelod-wladwriaeth arall neu nad oes modd rhwydd o'u hadnabod, rhaid iddo hysbysu ar unwaith arolygydd milfeddygol a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i gael hysbysiadau o'r fath, a rhaid i'r arolygydd hwnnw archwilio'r anifeiliaid a naill ai —

(a)ardystio eu bod yn ffit i'w cigydda ac i'w defnyddio at eu diben arfaethedig; neu

(b)drwy hysbysiad a gyflwynir i'r milfeddyg swyddogol ei gwneud yn ofynnol i'r anifeiliaid gael eu cigydda a'u difa neu gael eu hailallforio, a hynny ar draul y mewnforiwr yn y naill achos a'r llall.

(7Pan nad yw paragraffau (4) a (5) yn gymwys, rhaid i unrhyw berson sy'n marchnata unrhyw anifail sydd wedi'i draddodi iddo o Aelod-wladwriaeth arall, neu sy'n rhannu llwythi o anifeiliaid o'r fath i'w dosbarthu neu i'w marchnata —

(a)gwirio, cyn bod unrhyw anifail yn cael ei farchnata neu fod unrhyw lwyth yn cael ei rannu, fod pob un o'r anifeiliaid yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol offeryn yn Rhan I o Atodlen 3, o ran marciau adnabod a'r dogfennau traddodi gofynnol;

(b)hysbysu ar unwaith arolygydd milfeddygol a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i gael hysbysiad o'r fath o unrhyw afreoleidd-dra neu anghysondeb; ac

(c)os yw Erthygl 3(1)(d) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC wedi'i thorri(10), ynysu'r anifeiliaid o dan sylw nes bod arolygydd milfeddygol a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i wneud hynny wedi rhoi awdurdodiad ysgrifenedig i'w rhyddhau.

Llwythi anghyfreithlon

13.—(1Os yw arolygydd milfeddygol yn gwybod neu'n amau bod asiantau sy'n gyfrifol am glefyd y cyfeirir ato yn Atodlen 6 yn bresennol, neu fod milhaint, unrhyw haint arall neu unrhyw achos sy'n debyg o fod yn berygl difrifol i anifeiliaid neu bobl yn bresennol, mewn anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid a fewnforiwyd o Aelod-wladwriaeth arall, neu fod yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion anifeiliaid hynny wedi dod o ranbarth sydd wedi'i halogi â chlefyd episootig, caiff gyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (2) i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion hynny.

(2Rhaid i'r hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw —

(a)cadw'n gaeth ar unwaith y cynnyrch anifail a fewnforiwyd, yr anifail a fewnforiwyd neu unrhyw anifail sydd wedi bod mewn cysylltiad a'r anifail hwnnw a fewnforiwyd (ac, yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw'n gaeth, p'un a ydynt yn anifeiliaid a fewnforiwyd neu'n rhai sydd wedi bod mewn cysylltiad ag anifeiliaid a fewnforiwyd, eu cadw ar wahân i anifeiliaid eraill), yn unrhyw le a bennir yn yr hysbysiad, a chymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â hwy a bennir yn yr hysbysiad er mwyn atal y clefyd rhag cael ei gyflwyno neu ei ledaenu; neu

(b)yn ddi-oed, eu cigydda, neu eu cigydda a'u difa, neu, yn achos cynhyrchion, eu dinistrio, yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr hysbysiad.

(3Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (4) os yw arolygydd yn gwybod neu'n amau nad yw anifail neu gynnyrch anifeiliaid yn cydymffurfio â darpariaethau Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC, caiff roi i'r traddodwr neu i'w gynrychiolydd, neu i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion hynny, os bydd ystyriaethau iechyd a lles anifeiliaid yn caniatáu i'r arolygydd wneud hynny, y dewisiadau canlynol ar ffurf hysbysiad —

(a)os y rheswm dros fethu â chydymffurfio yw'r ffaith bod gweddillion, y mae eu lefelau'n uwch na'r hyn a ganiateir o dan reoliad 9 o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 1997 (11), yn bresennol mewn anifeiliaid, cadw'r anifeiliaid o dan oruchwyliaeth tan y bydd lefelau'r gweddillion yn gostwng i'r lefelau a ganiateir gan y ddeddfwriaeth ac, os na fydd lefelau'r gweddillion yn gostwng i'r lefelau a ganiateir, ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd pa gamau bynnag a bennir yn y ddeddfwriaeth honno; neu

(b)cigydda'r anifeiliaid neu ddinistrio'r cynhyrchion yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr hysbysiad; neu

(c)dychwelyd yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion i'r Aelod-wladwriaeth yr anfonwyd hwy ohoni, gydag awdurdodiad awdurdod cymwys yr Aelod-wladwriaeth yr anfonwyd hwy ohoni a chan hysbysu ymlaen llaw unrhyw Aelod-wladwriaeth y byddant yn mynd drwyddi.

(4Os afreoleidd-dra ynglyn â'r dogfennau traddodi gofynnol yw'r unig reswm y mae'r llwyth yn methu â chydymffurfio, rhaid i'r arolygydd beidio â chyflwyno hysbysiad o dan baragraff (3) oni bai —

(a)ei fod wedi rhoi i'r traddodwr, i'w gynrychiolydd, neu i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion hynny, hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddangos y dogfennau traddodi gofynnol o fewn 7 niwrnod a chadw'n gaeth yr anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr hysbysiad; a

(b)bod y dogfennau traddodi gofynnol heb gael eu dangos o fewn yr amser hwnnw.

(5Os na chydymffurfir ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y rheoliad hwn, caiff arolygydd atafaelu unrhyw anifail neu gynnyrch anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.

(1)

OJ Rhif L46, 19.2.91, t. 1, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 8(1) o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.

(2)

OJ Rhif L109, 25.4.97, t. 1, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 1 o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.

(3)

OJ Rhif L268, 14.9.92, t.54, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 10 o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.

(4)

OJ Rhif L303, 30.10.90, t. 6, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 6 o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.

(5)

O.S. 1997/1480, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(7)

OJ Rhif L224, 1.8.90, t. 55, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 15 o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.

(8)

O.S. 1995/539, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(9)

O.S. 1995/540, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(10)

OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 29, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir yn Atodlen 1 ac fel y'i darllenir gyda hwy.

(11)

O.S. 1997/1729, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/3590