Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2005

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dyletswyddau ar draddodeion

11.—(1Rhaid i berson beidio â derbyn llwyth o anifeiliaid nac o gynhyrchion anifeiliaid (ac eithrio ceffylau cofrestredig y mae dogfen adnabod yn mynd gyda hwy a honno'n ddogfen y darperir ar ei chyfer gan Gyfarwyddeb y Cyngor 90/427/EEC ar yr amodau sootechnegol ac achyddol sy'n llywodraethu masnach ryng-Gymunedol mewn equidae)(1)) oni bai bod y mewnforiwr neu'r traddodai wedi hysbysu arolygydd awdurdodedig yn ysgrifenedig, o leiaf 24 awr ymlaen llaw, o natur y llwyth, o'r dyddiad y disgwylir iddo gyrraedd ac o'r gyrchfan.

(2Rhaid i draddodai ddal ei afael ar bob tystysgrif a anfonir yn unol â'r Rheoliadau hyn am 12 mis o'r dyddiad y mae'r llwyth yn cyrraedd.

(3Yr arolygydd awdurdodedig y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) yw'r arolygydd a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i gael gwybodaeth am y dyddiad y disgwylir i anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid, a fewnforiwyd ar gyfer yr ardal y mae'r gyrchfan wedi'i lleoli ynddi, gyrraedd.

(1)

OJ Rhif L224, 1.8.90, t. 55, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 15 o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.

Yn ôl i’r brig

Options/Help