Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Mannau mewnforio
17.—(1) Rhaid i berson beidio â mewnforio unrhyw anifail ac eithrio wrth safle archwilio ar y ffin a bennir yn Atodlen 2 ar gyfer y rhywogaeth anifail honno, ac eithrio y caniateir mewnforio hefyd anifeiliaid a bennir yn Atodlen 1 i Orchymyn y Gynddaredd (Mewnforio Cwn, Cathod a Mamaliaid Eraill) 1974() hefyd mewn mannau a ganiateir o dan y Gorchymyn hwnnw.
(2) Os yw anifeiliaid yn cael eu mewnforio yn unman heblaw lle a ganiateir o dan baragraff (1), caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros y llwyth gadw'r anifeiliaid yn gaeth a'u hynysu yn unol â'r hysbysiad a bydd darpariaethau canlynol y rheoliad hwn yn effeithiol.
(3) Yn dilyn archwiliad o'r anifeiliaid gan arolygydd milfeddygol, caiff yr arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad pellach i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros y llwyth a hwnnw'n hysbysiad sydd naill ai'n rhyddhau'r anifeiliaid o'r cyfyngiad neu'n ei gwneud yn ofynnol i'r anifeiliaid gael eu cigydda, neu gael eu cigydda a'u difa, neu eu hailallforio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd.
(4) Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) neu (3) caiff arolygydd atafaelu'r anifail a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.
Yn ôl i’r brig