Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2005

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Gwartheg a moch

1.  Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar fasnach ryng-Gymunedol mewn gwartheg a moch fel y'i disodlwyd gan yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 97/12/EC (OJ Rhif L109, 25.4.97, t. 1), ac fel y'i diwygiwyd wedi hynny gan y canlynol —

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 98/46/EC (OJ Rhif L198, 15.7.98, t. 22);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 98/99/EC (OJ Rhif L358, 31.12.98, t. 107);

  • Penderfyniad y Comisiwn 98/621/EC (OJ Rhif L296, 5.11.98, t. 15);

  • Cyfarwyddeb 2000/15/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L105, 3.5.2000, t. 34);

  • Cyfarwyddeb 2000/20/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L163, 4.7.2000, t. 35);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/298/EC (OJ Rhif L102, 12.4.2001, t. 63);

  • Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 535/2002 (OJ Rhif L80, 23.3.2002, t. 22);

  • Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1226/2002 (OJ. L179, 9.7.2002, t. 13);

  • Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 21/2004 (OJ Rhif L5, 9.1.2004, t. 8);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/226/EC (OJ Rhif L68, 6.3.2004, t. 36);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3(2), 4(1), 5(1), 5(2), 5(5), 6(1), 6(2), 6(3), 7 (yn achos mewnforion), a 12(3).

(a)Rhaid i'r dystysgrif iechyd swyddogol sy'n mynd gyda phob gwarthegyn sy'n cael ei fewnforio i Gymru o Sbaen gynnwys y datganiad: “Live cattle in accordance with Commission Decision 90/208/EEC on contagious bovine pleuro-pneumonia”.

(b)Rhaid i'r dystysgrif iechyd swyddogol sy'n mynd gyda phob gwarthegyn sy'n cael ei fewnforio i Gymru o Bortiwgal gynnwys y datganiad “Live cattle in accordance with Commission Decision 91/52/EEC on contagious bovine pleuro-pneumonia”.

(c)Rhaid i'r dystysgrif iechyd swyddogol sy'n mynd gyda phob mochyn sy'n cael ei fewnforio i Gymru o unrhyw Aelod-wladwriaeth arall ac eithrio Awstria, y Weriniaeth Tsiec, Denmarc, y Ffindir, yr Almaen, Lwcsembwrg, Sweden a'r rhanbarthau hynny o Ffrainc a bennir mewn Penderfyniadau'r Comisiwn sy'n diwygio Penderfyniad 2001/618/EC gynnwys y datganiad: “Pigs in accordance with Commission Decision 2001/618/EC concerning Aujeszky’s disease(1)”.

(ch)Os digwydd i'r gwaharddiad ar allforio gwartheg o Gymru a osodwyd drwy Benderfyniad y Comisiwn 98/256/EC ar fesurau brys i amddiffyn yn erbyn Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (OJ Rhif L113, 15.4.98, t. 32) (fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2002/670/EC (OJ Rhif L228, 24.8.2002, t. 22) gael ei ddirymu er mwyn caniatáu i wartheg o Brydain Fawr gael eu hanfon i Aelod-wladwriaeth arall neu i drydedd wlad, rhaid i'r allforion hynny i'r gwledydd a restrir yn Atodiadau I a II o Benderfyniad y Comisiwn 2004/215/EC (OJ L67, 5.3.2004, t. 24) fodloni'r amodau ychwanegol sydd wedi'u nodi yn y Penderfyniad hwnnw.

(d)Yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 2003/514/EC ynghylch mesurau diogelu iechyd yn erbyn Clwy Affricanaidd y Moch yn Sardinia, yr Eidal (OJ Rhif L178, 17.7.2003, t. 28), gwaherddir mewnforio i Gymru o ranbarth Eidalaidd Sardinia anifeiliaid o deulu'r suidae.

(1)

OJ Rhif L16, 25.1.93, t. 18).

Yn ôl i’r brig

Options/Help