Rheoliadau Landlord a Thenant (Hysbysu o Rent) (Cymru) 2005

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1355 (Cy.103)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Rheoliadau Landlord a Thenant (Hysbysu o Rent) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

17 Mai 2005

Yn dod i rym

31 Mai 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 166 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Landlord a Thenant (Hysbysu o Rent) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran anheddau(2) yng Nghymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.

Cynnwys ychwanegol a ffurf hysbysiad o rent sy'n ddyledus

3.—(1Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1) o adran 166 o Ddeddf 2002 (Gofyniad i hysbysu deiliaid lesoedd hir bod rhent yn ddyledus) gynnwys (yn ychwanegol at yr wybodaeth a bennir yn unol â pharagraffau (a) a (b) o is-adran (2) o'r adran honno ac, os yw'n gymwys, paragraff (c) o'r is-adran honno) —

(a)enw'r lesddeiliad y mae'r hysbysiad yn cael ei roi iddo;

(b)y cyfnod y mae'r rhent sy'n cael ei hawlio i'w briodoli iddo;

(c)enw'r person y mae taliad i'w wneud iddo, a'r cyfeiriad ar gyfer talu;

(ch)enw'r landlord y mae'r hysbysiad yn cael ei roi ganddo ac, os nad yw wedi'i nodi yn unol ag is-baragraff (c) uchod, ei gyfeiriad; a

(d)yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1) o adran 166 o Ddeddf 2002 fod ar y ffurf a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Mai 2005

Rheoliad 3

YR ATODLENFFURF AR HYSBYSIAD SY'N GALW AM DALU RHENT

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002, ADRAN 166HYSBYSIAD I DDEILIAID LESOEDD HIR O RENT SY'N DDYLEDUS

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â ffurf a chynnwys hysbysiadau sy'n gofyn bod rhent tir yn cael ei dalu.

Mae Rheoliad 3 yn ychwanegu at adran 166(2) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, sy'n ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad o dan adran 166(1) o'r Ddeddf honno, ynglyn â thalu rhent tir, bennu'r swm sy'n ddyledus, y dyddiad y mae'r tenant yn atebol i'w dalu, ac, os yw'n wahanol, y dyddiad y byddai'r tenant wedi bod yn atebol i'w dalu yn unol â'r les. Mae'r gofynion ychwanegol a bennir yn rheoliad 3 yn cynnwys darparu nodiadau ar gyfer lesddeiliaid a landlordiaid. Mae cynnwys y nodiadau wedi'i nodi yn yr Atodlen i'r Rheoliadau, fel rhan o'r ffurf ragnodedig ar hysbysiad o dan adran 166(1).

(1)

2002 p.15. Gweler y diffiniad o “prescribed” yn adran 166(9) o Ddeddf 2002. Yn rhinwedd adran 179(1) o'r Ddeddf honno, Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r “appropriate national authority” o ran Cymru.

(2)

Gweler adran 166(9) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, y diffiniad o “the 1985 Act” yn adran 179(2) o'r Ddeddf honno, ac adran 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985.