RHAN 3Gorfodi Rheoliad 178/2002
Tramgwyddau, cosbau a gorfodi
15.—(1) Mae unrhyw berson sy'n torri darpariaethau penodedig Rheoliad 178/2002 a nodir ym mharagraff (2) neu sy'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn agored i
(a)yn achos paragraff (2)(a) a (b)
(i)ar gollfarn ddiannod i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu'r ddau; neu
(ii)ar gollfarn ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu'r ddau;
(b)yn achos is-baragraffau 2(c), (ch), a (d), ar gollfarn ddiannod i garchariad nad yw'n fwy na thri mis neu ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu'r ddau.
(2) Y darpariaethau penodedig y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a)Erthygl 12 i'r graddau y mae'n ymwneud â bwyd anifeiliaid (allforio neu ail-allforio i drydydd gwledydd);
(b)Erthygl 15, paragraff 1 (gwaharddiad ar osod bwyd anifeiliaid anniogel ar y farchnad neu ei fwydo i unrhyw anifail sy'n cynhyrchu bwyd);
(c)Erthygl 16 i'r graddau y mae'n ymwneud â bwyd anifeiliaid (gwaharddiad ar gamarwain drwy labelu, hysbysebu neu gyflwyno);
(ch)Erthygl 18, paragraffau 2 a 3 (gofynion olrhain) i'r graddau y mae'n ymwneud â gweithredwyr busnes bwyd anifeiliaid;
(d)Erthygl 20 (cyfrifoldebau gweithredwyr busnes bwyd anifeiliaid).
(3) Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthyglau 15 ac 18 yw'r awdurdod gorfodi ac at ddibenion Erthygl 20 yr awdurdod gorfodi neu'r Asiantaeth.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “bwyd anifeiliaid” yw bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd.