Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Nodiadau Esboniadol

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/01/2014.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006. Help about Changes to Legislation

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3292 (Cy.252)).LL+C

2.  Yr oedd Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005 yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi o ran Cymru offerynnau penodol y Gymuned, y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “Rheoliadau'r Gymuned”. Offerynnau'r Gymuned sydd o dan sylw yw'r rheini a bennir yn is-baragraffau (a) i (c) o baragraff 4 isod. Drwy estyn y diffiniad o'r ymadrodd “Rheoliadau'r Gymuned” yn y Rheoliadau hyn i gynnwys offerynnau'r Gymuned a bennir yn is-baragraffau (ch) a (d) o baragraff 4 isod, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi o ran Cymru holl offerynnau'r Gymuned a bennir yn y paragraff hwnnw.LL+C

3.  Diffinnir offerynnau'r Gymuned a bennir ym mharagraff 4 isod yn Atodlen 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diweddaru'r diffiniadau o offerynnau'r Gymuned a bennir yn is-baragraffau (a) i (c) o baragraff 4 isod er mwyn cymryd i ystyriaeth Reoliadau penodol y Comisiwn sydd yn dod i rym ac yn dod yn gymwys ar 11 Ionawr 2006. Mae Rheoliadau'r Comisiwn yn diwygio offerynnau hynny y Gymuned neu yn ôl y digwydd yn effeithio ar y dull y darllenir hwy.LL+C

4.  Dyma Offerynnau'r Gymuned—LL+C

(a)Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid bwydydd (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1); mae testun diwygiedig y Rheoliad hwn wedi'i osod bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3);

(b)Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55; mae testun diwygiedig y Rheoliad hwn wedi'i osod bellach mewn Corigendwm OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22);

(c)Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L155, 30.4.2004, t.206; mae testun diwygiedig y Rheoliad hwn wedi'i osod bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83);

(ch)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbioloegol ar gyfer bwydydd (OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.1); a

(d)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig (OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.60).

5.  Y prif newidiau eraill a wneir gan y Rheoliadau hyn yw—LL+C

(a)bod y trefniadau gorfodi blaenorol yn cael eu newid; a

(b)bod rychwant Atodlen 5 (y modd y mae'r cynhyrchydd yn cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bach o gig o ddofednod a lagomorffiaid a gigyddwyd ar y fferm) yn cael ei hymestyn yng ngoleuni Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 (OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.83).

6.  Mae'r Rheoliadau hyn—LL+C

(a)yn creu rhagdybiaethau penodol y bwriedir bwyd penodedig, at ddibenion y Rheoliadau hyn, ar gyfer ei fwyta gan bobl (rheoliad 3);

(b)yn darparu mai'r Asiantaeth Safonau Bwyd yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliadau'r Gymuned ac eithrio pan fo ganddi gymwyseddau dirprwyedig (rheoliad 4);

(c)yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn a Rheoliadau'r Gymuned (rheoliad 5);

(ch)yn darparu bod y mesurau gorfodi canlynol ar gael mewn perthynas â gweithredydd busnes bwyd —

(i)hysbysiadau gwella hylendid (rheoliad 6);

(ii)gorchmynion gwahardd at ddibenion hylendid (rheoliad 7);

(iii)hysbysiadau a gorchmynion gwahardd brys at ddibenion hylendid (rheoliad 8); a

(iv)hysbysiadau camau cywiro a hysbysiadau cadw (rheoliad 9);

(d)yn darparu, pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, fod y person arall hwnnw'n euog o'r tramgwydd (rheoliad 10);

(dd)yn darparu ei bod yn amddiffyniad mewn achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd (rheoliad 11);

(e)yn darparu ar gyfer caffael a dadansoddi samplau (rheoliadau 12 a 13 yn y drefn honno);

(f)yn darparu pwerau mynediad i swyddogion awdurdodedig awdurdod gorfodi; (rheoliad 14);

(ff)yn darparu ar gyfer tramgwydd o rwystro swyddog (rheoliad 15);

(g)yn darparu terfyn amser ar gyfer dwyn erlyniadau (rheoliad 16);

(ng)yn darparu y bydd person sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig Rheoliad 852/2004 neu Reoliad 853/2004 neu'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd (rheoliad 17(1));

(h)yn darparu cosbau am dramgwyddau (rheoliad 17(2) a (3));

(i)yn darparu na fernir bod person wedi mynd yn groes i ddarpariaeth benodedig yn Rheoliad (EC) 852/2004, neu wedi methu â chydymffurfio â hi, (gofyniad bod swmp-ddeunyddiau bwyd ar ffurf hylif, gronynnau neu bowdr i'w cludo mewn daliedyddion a/neu gynwysyddion/tanceri sydd wedi'u neilltuo ar gyfer cludo deunyddiau bwyd) ar yr amod bod gofynion Atodlen 3 yn cael eu bodloni (rheoliad 17 (4));

(j)yn darparu, os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i'r corff corfforaethol, neu berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog neu'r person hwnnw, y bydd y swyddog neu'r person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn cael ei gyfrif yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac y caniateir i achos cyfreithiol gael ei ddwyn yn ei erbyn ac iddo gael ei gosbi yn unol â hynny (rheoliad 18);

(l)os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran y partner hwnnw, y bydd y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn cael ei gyfrif yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac y caniateir i achos cyfreithiol gael ei ddwyn yn ei erbyn ac iddo gael ei gosbi yn unol â hynny (rheoliad 19);

(ll)yn darparu hawl i apelio ynglŷn â—

(i)cyflwyno hysbysiad gwella hylendid neu hysbysiad cymryd camau adfer,

(ii)gwrthodiad gan awdurdod gorfodi i ddyroddi tystysgrif o dan ddarpariaethau penodol i'r perwyl ei fod wedi'i fodloni bod gweithredydd busnes bwyd wedi cymryd camau i sicrhau nad yw'r amod o risg iechyd bellach wedi'i gyflawni o ran y busnes bwyd sydd o dan sylw, a

(iii)gwneud gorchymyn gwahardd hylendid neu orchymyn gwahardd hylendid brys (rheoliadau 20 i 22);

(m)yn darparu ar gyfer cymhwyso adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16) (rheoliad 23);

(n)yn darparu bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dyroddi i awdurdodau bwyd godau arferion a argymhellir (rheoliad 24);

(o)yn darparu ar gyfer diogelu swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll (rheoliad 25);

(p)yn darparu ar gyfer dirymu neu atal dros dro ddynodiad neu, yn ô l y digwydd, penodiad swyddogion penodedig (rheoliad 26);

(ph)yn darparu bod rhaid i unrhyw fwyd y mae swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi wedi ardystio nad yw'r bwyd hwnnw wedi'i gynhyrchu, wedi'i brosesu nac wedi'i ddosbarthu yn unol â'r Rheoliadau Hylendid, gael ei drin at ddibenion adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 fel bwyd sy'n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd (rheoliad 27);

(r)yn darparu ar gyfer cyflwyno dogfennau (rheoliad 28);

(rh)yn darparu bod y gofynion a nodir yn yr Atodlenni canlynol yn effeithiol—

(i)Atodlen 3 (swmpgludo olewau hylifol neu frasterau hylifol ar longau mordwyol a swmpgludo siwgr crai dros y môr) (rheoliad 29);

(ii)Atodlen 4 (gofynion rheoli tymheredd) (rheoliad 30);

(iii)Atodlen 5 (y modd y mae'r cynhyrchydd yn cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bach o gig o ddofednod a lagomorffiaid a gigyddwyd ar y fferm) (rheoliad 31); a

(iv)Atodlen 6 (cyfyngiadau ar werthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl (rheoliad 32);

(s)yn gwneud diwygiadau canlyniadol i offerynnau penodedig (rheoliad 33); a

(t)yn dirymu Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005 (rheoliad 34).

7.  Mae Arfarniad Rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.LL+C

Yn ôl i’r brig

Options/Help