Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 20

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/01/2014.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, Adran 20. Help about Changes to Legislation

Yr hawl i apelioLL+C

20.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan—

(a)penderfyniad swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad gwella hylendid; neu

(b)penderfyniad awdurdod gorfodi i wrthod dyroddi tystysgrif o dan baragraff (6) o reoliad 7 neu baragraff (8) o Reoliad 8; neu

(c)penderfyniad swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad camau cywiro,

apelio i lys ynadon.

(2Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a Deddf Llysoedd Ynadon 1980(1) fydd yn gymwys i'r achos cyfreithiol.

(3Y cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) yw—

(a)un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad o'r penderfyniad i'r person a oedd yn dymuno apelio; neu

(b)yn achos apêl yn erbyn penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwella hylendid, y cyfnod a bennir yn is-baragraff (a) neu, os yw'n fyrrach, y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad yn unol ag is-baragraff (ch) o baragraff (1) o reoliad 6,

a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 20 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Yn ôl i’r brig

Options/Help