Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Olewau hylifol neu frasterau hylifol

2.—(1Caniateir i olewau hylifol neu frasterau hylifol sydd i'w prosesu, ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl neu sy'n debygol o gael eu defnyddio ar gyfer eu bwyta gan bobl, gael eu swmpgludo ar longau mordwyol mewn tanciau nas cedwir at gludo deunyddiau bwyd yn unig, a chaniateir hynny yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol—

(a)pan fo'r olew neu'r braster yn cael ei gludo mewn tanc dur gwrthstaen, neu danc sydd wedi'i leinio â resin epocsi neu ddeunydd sy'n dechnegol gyfatebol iddo, rhaid i'r cargo uniongyrchol flaenorol a gludwyd yn y tanc fod wedi bod yn ddeunydd bwyd neu'n gargo o'r rhestr o gargoau blaenorol derbyniol ar gyfer olewau hylifol neu frasterau hylifol; a

(b)pan fo'r olew neu'r braster yn cael ei gludo mewn tanc o ddeunyddiau heblaw'r rhai a bennir yn is-baragraff (a), rhaid i'r tri chargo blaenorol a gludwyd yn y tanciau fod wedi bod yn ddeunyddiau bwyd neu'n gargoau o'r rhestr o gargoau blaenorol derbyniol ar gyfer olewau hylifol neu frasterau hylifol.

(2At ddibenion y paragraff hwn, ystyr “rhestr o gargoau blaenorol derbyniol ar gyfer olewau hylifol neu frasterau hylifol” yw'r rhestr a nodir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC.

Yn ôl i’r brig

Options/Help