Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) 2006

YR ATODLEN

Categori o fwydGoleddfiad
LlaethLlaeth gwartheg hylif, gan gynnwys mathau hir-oes, pastiwreiddiedig, neu fathau a driniwyd ag uwch-wres, ond nid llaeth yr ychwanegwyd cemegion, fitaminau, cyflasau neu liwiau iddo neu laeth y'u tynnwyd oddi wrtho.
Fformiwla babanodBwyd ac iddo sylfaen o laeth gwartheg ac a fwriedir yn benodol i'w ddefnyddio'n faethol gan fabanod sydd mewn iechyd da ac sy'n diwallu ar ei ben ei hun anghenion maethol y babanod hynny.
Ffrwythau a llysiau ffresFfrwythau a llysiau ffres gan gynnwys ffrwythau a llysiau rhydd, wedi'u rhagbacio, cyfain, wedi'u tafellu, wedi'u torri, neu wedi'u cymysgu, ond nid ffrwythau na llysiau yr ychwanegwyd halen, siwgr, perlysiau neu unrhyw gyflasyn arall iddynt.