Print Options
PrintThe Whole
Instrument
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
2009 Rhif 1382 (Cy.138)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) (Diwygio) 2009
Yn dod i rym
9 Mehefin 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 21 a 203(10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 1 o Atodlen 4 2006 iddi() a chyda chydsyniad y Trysorlys yn unol â pharagraff 1(7) o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a Chychwyn
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) (Diwygio) 2009 a daw i rym ar 9 Mehefin 2009.
Diwygio Cyfalaf Cychwynnol Ymddiriedolaethau GIG
2.—(1) Mae Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2009() wedi ei diwygio fel a ganlyn;
(2) Yn lle'r Atodlen i Orchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2009, rhodder yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
8 Mehefin 2009
Erthygl 2
ATODLEN
Erthygl 2
“ATODLEN
Ymddiriedolaeth GIG | Cyfalaf Cychwynnol |
---|
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg() | £484,807,000 |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf() | £277,694,000 |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda() | £205,722,000 |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru() | £306,609,000 |
Nodyn Esboniadol
Mae'r Gorchymyn yn diwygio swm y cyfalaf cychwynnol a ddarparwyd ar gyfer Ymddiriedolaethau penodol o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Ngorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaethau Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2009.
Yn ôl i’r brig