xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gwnaed
30 Ebrill 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Mai 2010
Yn dod i rym
25 Mai 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 7(1), 8(1), 15(4), 25, 32(2), 34(7), 83(2) ac 88(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1).
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010; mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 25 Mai 2010.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “adweithydd” (“reactor”) yw anifail buchol sy'n adweithio i brawf perthnasol mewn modd sy'n gyson â bod twbercwlosis wedi effeithio arno;
ystyr “anifail a amheuir” (“suspected animal”) yw anifail buchol yr amheuir yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis, ac y mae'n cynnwys anifail a fu mewn cysylltiad agos ag anifail o'r fath;
ystyr “anifail buchol” (“bovine animal”) yw gwartheg domestig o'r genws Bos, byfflo neu fual;
ystyr “anifail yr effeithiwyd arno” (“affected animal”) yw anifail buchol yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis y pwrs neu sy'n rhoi llaeth twbercylaidd, neu yr effeithiwyd arno gan deneuo twbercylaidd, neu sy'n ysgarthu neu'n gollwng deunydd twbercylaidd, neu yr effeithiwyd arno gan beswch cronig, neu sy'n dangos unrhyw symptom clinigol arall o dwbercwlosis;
ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sy'n berchen neu sy'n gyfrifol am anifail buchol, pa un ai ar sail barhaol neu dros dro, ond nid yw'n cynnwys person sy'n gyfrifol am anifail buchol oherwydd, yn unig, bod y person hwnnw'n ei gludo;
ystyr “diheintydd cymeradwy” (“approved disinfectant”) yw diheintydd a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yn erbyn twbercwlosis buchol yn unol â Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007(2);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys—
tir neu adeiladau; a
ac unrhyw le arall gan gynnwys, yn benodol, cerbyd, llong, awyren, neu babell neu adeiledd symudol arall;
ystyr “prawf croen” (“skin test”) yw prawf twbercwlin serfigol cymharol intradermol sengl;
ystyr “prawf perthnasol” (“relevant test”) yw prawf croen neu brawf diagnostig arall ar gyfer twbercwlosis; ac
ystyr “twbercwlosis” (“tuberculosis”) yw heintiad â Mycobacterium bovis (M. bovis).
3. Dirymir Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006(3).
4.—(1) Diwygir Gorchymyn Iawndal Brwselosis a Thwbercwlosis (Cymru a Lloegr) 1978(4) fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2(1) (dehongli)—
(a)yn y diffiniad o “affected animal”—
(i)yn is-baragraff (a)—
(aa)hepgorer y geiriau “in relation to brucellosis,”; a
(bb)hepgorer “and”; a
(ii)hepgorer is-baragraff (b); ac
(b)yn y diffiniad o “reactor”, hepgorer “or tuberculosis”.
(3) Yn erthygl 3 (iawndal am, a phenderfynu gwerth, anifeiliaid buchol a gigyddir oherwydd brwselosis neu dwbercwlosis)—
(a)yn y pennawd, hepgorer “or tuberculosis”;
(b)ym mharagraff (1), hepgorer “or tuberculosis”; ac
(c)hepgorer paragraff (2A).
(4) Yn erthygl 4(1) (iawndal am “anifeiliaid rheolydd”) hepgorer “or tuberculosis”.
5.—(1) Bydd unrhyw hysbysiad neu drwydded a ddyroddwyd, neu gymeradwyaeth neu ganiatâd a roddwyd, o dan Orchymyn Twbercwlosis (Cymru a Lloegr) 1984(5) neu Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006 ac sy'n effeithiol pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, yn parhau mewn grym, fel pe bai'n hysbysiad neu drwydded a ddyroddwyd, neu'n gymeradwyaeth neu ganiatâd a roddwyd, o dan y Gorchymyn hwn.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynir o dan Orchymyn Twbercwlosis (Cymru a Lloegr) 1984 neu Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006 fel y mae'n gymwys i hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn.
(3) Nid ddiwygir Gorchymyn Iawndal Brwselosis a Thwbercwlosis (Cymru a Lloegr) o ran twbercwlosis gan erthygl 4, ac y mae'r Gorchymyn hwnnw'n parhau'n gymwys, yn achos unrhyw anifail buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis—
(a)yn dilyn hysbysiad a gyflwynwyd cyn 25 Mai 2010 o dan erthygl 8 o Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006;
(b)o ganlyniad i brawf croen positif neu amhendant a ddarllenwyd cyn 25 Mai 2010; neu
(c)o ganlyniad i unrhyw brawf perthnasol arall ar gyfer twbercwlosis, y cymerwyd y sampl clinigol ar ei gyfer cyn 25 Mai 2010.
6.—(1) At ddibenion y Ddeddf, estynnir y diffiniad o “disease” yn adran 88(1) o'r Ddeddf (ystyr “disease”) i gynnwys twbercwlosis.
(2) Mae adran 32 o'r Ddeddf (cigydda oherwydd clefydau eraill) yn gymwys i dwbercwlosis.
7. At ddibenion adran 62E(4)(b) o'r Ddeddf (profion a samplau: gwarantau)—
(a)caiff yr arolygydd wneud cais am ganiatâd i fynd i mewn i'r fangre cyn y diwrnod y ceisir caniatâd ar ei gyfer; a
(b)mae'r amod a grybwyllir yn y ddarpariaeth honno wedi ei fodloni os nad yw'r meddiannydd yn dynodi, erbyn dyddiad a bennir yn y cais, bod y meddiannydd yn rhoi caniatâd mewn perthynas â'r cais hwnnw.
8.—(1) Rhaid i unrhyw berson—
(a)sydd ag unrhyw anifail buchol yn ei feddiant neu dan ei ofal, a'r person hwnnw'n amau bod yr anifail, neu y gallai fod, yn anifail yr effeithiwyd arno;
(b)sydd, yng nghwrs ymarfer y person hwnnw fel milfeddyg, yn archwilio anifail buchol y mae'r person hwnnw'n amau ei fod, neu y gallai fod, yn anifail yr effeithiwyd arno; neu
(c)sydd, yng nghwrs dyletswyddau'r person hwnnw, yn archwilio, at unrhyw ddiben, anifail buchol y mae'r person hwnnw'n amau ei fod, neu y gallai fod, yn anifail yr effeithiwyd arno,
hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith.
(2) Rhaid i unrhyw berson sydd ag unrhyw anifail buchol yn ei feddiant neu dan ei ofal, a'r person hwnnw'n amau bod, neu y gallai fod, yr anifail yn anifail yr effeithiwyd arno, tra'n aros am gasgliad yr ymchwiliad milfeddygol o dan erthygl 10 ac am gyflwyno unrhyw hysbysiad o dan yr erthygl honno, weithredu ar unwaith i—
(a)cadw'r anifail hwnnw yn y fangre lle y mae ar y pryd;
(b)ei ynysu oddi wrth anifeiliaid buchol eraill, i'r graddau y bo hynny'n ymarferol; a
(c)mabwysiadu rhagofalon mewn perthynas â llaeth a gynhyrchir gan yr anifail hwnnw, fel pe bai hysbysiad o dan erthygl 10 eisoes wedi ei gyflwyno.
9.—(1) Rhaid i unrhyw berson—
(a)sydd â charcas yn ei feddiant neu dan ei ofal, ac yr effeithiwyd, neu yr amheuir yr effeithiwyd, ar y carcas hwnnw gan dwbercwlosis;
(b)sydd, yng nghwrs ymarfer y person hwnnw fel milfeddyg, yn archwilio carcas yr effeithiwyd arno, neu yr amheuir yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis; neu
(c)sydd, yng nghwrs dyletswyddau'r person hwnnw, yn archwilio, at unrhyw ddiben, carcas yr effeithiwyd arno, neu yr amheuir yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis,
hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith.
(2) Rhaid berson sydd â charcas fel a grybwyllir ym mharagraff (1) yn ei feddiant neu dan ei ofal gadw'r carcas hwnnw yn y fangre lle y mae ar y pryd, hyd nes bydd wedi ei archwilio gan arolygydd milfeddygol.
10.—(1) Pan fo arolygydd milfeddygol o'r farn yn rhesymol bod anifail yr effeithiwyd arno neu anifail a amheuir (ac eithrio adweithydd), neu garcas anifail buchol yr effeithiwyd arno neu yr amheuir yr affeithiwyd arno, gan dwbercwlosis, yn bresennol mewn unrhyw fangre, rhaid i'r arolygydd milfeddygol, mor fuan ag y bo'n ymarferol, gymryd pa gamau bynnag sy'n angenrheidiol i ganfod a yw'r anifail neu'r carcas mewn gwirionedd yn un yr effeithiwyd arno neu a amheuir.
(2) Caiff arolygydd milfeddygol, at ddibenion yr erthygl hon, archwilio unrhyw anifail buchol neu garcas anifail buchol sydd yn y fangre a chymryd pa bynnag samplau o unrhyw anifail neu garcas o'r fath, neu gyflawni pa bynnag brofion sy'n ofynnol at y diben o wneud diagnosis.
(3) Pan fo arolygydd milfeddygol wedi archwilio anifail buchol, ac o'r farn ei fod yn anifail yr effeithiwyd arno neu'n anifail a amheuir, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad i geidwad yr anifail buchol hwnnw, sy'n gwneud yn ofynnol bod y ceidwad—
(a)yn cadw'r anifail hwnnw yn unol â gofynion yr hysbysiad a'i gadw wedi'i ynysu oddi wrth anifeiliaid buchol eraill;
(b)pan fo'n briodol, yn cymryd camau i sicrhau na chymysgir y llaeth a gynhyrchir gan yr anifail â llaeth arall, bod llaeth yr anifail yn cael ei ferwi neu'i sterileiddio rywfodd arall, a bod unrhyw declyn y bu'r llaeth hwnnw mewn cysylltiad ag ef cyn ei drin felly yn cael ei lanhau'n drwyadl a'i sgaldio â stêm neu ddŵr berwedig cyn defnyddio'r teclyn hwnnw drachefn; ac
(c)yn sicrhau na symudir unrhyw anifail buchol i'r fangre neu ba bynnag ran o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad, nac oddi arni, ac eithrio dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd.
11.—(1) Caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad gwella milfeddygol”) (“veterinary improvement notice”) i geidwad anifail buchol, sy'n gwneud yn ofynnol bod y ceidwad, erbyn dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, yn gwneud pethau neu ymatal rhag gwneud pethau, at y diben o atal clefyd rhag lledaenu ac, yn benodol, caiff osod y gofynion a grybwyllir ym mharagraff (2).
(2) Mae'r gofynion y ceir eu gosod drwy gyfrwng hysbysiad gwella milfeddygol yn cynnwys—
(a)codi ffensys (gan gynnwys clwydi a chamfeydd);
(b)mabwysiadu dulliau effeithiol o allgáu grwpiau o anifeiliaid o rannau penodedig o'r fangre;
(c)diogelu silwair, storfeydd bwydydd anifeiliaid a mannau bwydo rhag bywyd gwyllt, gan gynnwys adar;
(ch)cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y bobl sy'n mynd ar dir y ceidwad yn gweithredu rhagofalon rhesymol rhag lledaenu clefyd.
12.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad prawf”) (“test notice”) i geidwad anifail buchol, sy'n gwneud yn ofynnol bod y ceidwad yn sicrhau y profir unrhyw anifail o'r fath ar gyfer twbercwlosis drwy gyfrwng prawf perthnasol erbyn dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Rhaid i geidwad anifail buchol gydymffurfio â holl ofynion rhesymol arolygydd er mwyn hwyluso–
(a)adnabod ac archwilio'r anifail hwnnw gan yr arolygydd;
(b)cyflawni, neu ddarllen, unrhyw rhyw brawf perthnasol ar yr anifail;
(c)prisio'r anifail mewn achos pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu peri ei gigydda o dan adran 32 o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir i dwbercwlosis; neu
(ch)symud yr anifail ar gyfer ei gigydda,
ac yn benodol, rhaid i'r ceidwad drefnu, ar gost y ceidwad ei hunan, i gasglu, corlannu a diogelu unrhyw anifail o'r fath os gofynnir iddo.
(3) Pan fo prawf perthnasol wedi'i wneud ar anifail buchol, ni chaiff unrhyw berson symud yr anifail hwnnw o'r fangre lle y'i cedwir, ac eithrio–
(a)pan symudir yr anifail dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol; neu
(b)pan fo canlyniadau'r prawf wedi eu darllen gan arolygydd a'r canlyniadau hynny'n negyddol.
(4) Heb leihau effaith erthygl 16, os yw'r ceidwad wedi methu â chael profi anifail yn unol â gofyniad hysbysiad prawf, caiff Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â'r fangre lle cedwir yr anifail, drwy gyflwyno hysbysiad i'r ceidwad, wahardd symud anifeiliaid buchol, neu'r cyfryw anifeiliaid buchol a bennir yn yr hysbysiad, i'r fangre honno neu oddi arni, neu unrhyw ran o'r fangre honno fel a bennir yn yr hysbysiad, yn ddarostyngedig i unrhyw symud a ganiateir o dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan arolygydd.
(5) Heb ragfarnu unrhyw achos ynglŷn â thramgwydd o dan adran 73 o'r Ddeddf yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, pan fo ceidwad wedi methu â chael profi anifail yn unol â gofyniad hysbysiad prawf, caiff Gweinidogion Cymru gymryd, neu beri cymryd, pob un o'r camau a fydd hwyrach yn angenrheidiol i hwyluso archwilio, profi, prisio a symud yr anifail hwnnw, a chaiff Gweinidogion Cymru adennill oddi wrth y ceidwad swm unrhyw dreuliau a achosir iddynt yn rhesymol.
(6) Pan fo—
(a)y ceidwad wedi methu â chael profi anifail yn unol â gofyniad hysbysiad prawf; ac
(b)am y rhesymau a bennir ym mharagraff (7), yr anifail heb ei brofi yn unol â pharagraff (5),
rhaid trin yr anifail at ddibenion adran 32 o'r Ddeddf fel anifail yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis.
(7) Y rhesymau a grybwyllir ym mharagraff (6) yw rhesymau ymarferoldeb, gan gynnwys anawsterau o ran casglu'r anifail yn ddiogel, oherwydd ei wylltineb, neu oherwydd natur y dirwedd lle cedwir yr anifail.
13.—(1) Ni chaiff unrhyw berson symud anifail buchol o unrhyw fangre oni fydd—
(a)prawf croen wedi ei gyflawni arno, ddim mwy na 60 diwrnod cyn dyddiad y symud; a
(b)bod canlyniadau'r prawf wedi eu darllen gan arolygydd, a'r canlyniadau hynny'n negyddol.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i'r canlynol—
(a)anifeiliaid buchol sydd o dan 6 wythnos oed ar ddyddiad y symud;
(b)symud anifail buchol i le ar gyfer triniaeth filfeddygol, ar yr amod y'i dychwelir yn uniongyrchol i'w fangre wreiddiol ar ôl y driniaeth, neu y'i lleddir neu y'i hanfonir yn syth i'w gigydda;
(c)unrhyw symudiadau a bennir mewn cyfarwyddyd a ddyroddir gan Weinidogion Cymru; ac
(ch)unrhyw symudiad a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru.
(3) At ddibenion paragraff (1)(a), mae'r cyfnod o 60 diwrnod yn cychwyn gyda'r diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir pigiad gyda thwbercwlin i'r anifail
14.—(1) Pan fo prawf croen wedi ei gyflawni ar anifail buchol, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi i arolygydd ddarllen canlyniadau'r prawf, roi i geidwad yr anifail gofnod ysgrifenedig o'r canlyniadau.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i anifeiliaid y gwaherddir eu symud, neu y parheir i wahardd eu symud, o dan y Gorchymyn hwn yn dilyn y prawf.
(3) Rhaid i'r ceidwad—
(a)ddal gafael ar y cofnod o ganlyniadau'r prawf am gyfnod o 3 blynedd a 60 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir y pigiad gyda thwbercwlin; a
(b)dangos y cofnod hwnnw pan fo arolygydd yn gofyn am ei weld.
15.—(1) Ni chaiff unrhyw berson frechu anifail buchol yn erbyn twbercwlosis heb ganiatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru.
(2) Ni chaiff unrhyw berson roi triniaeth ar gyfer twbercwlosis i anifail buchol heb ganiatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru.
(3) Ni chaiff unrhyw berson brofi anifail buchol ar gyfer twbercwlosis ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru, a rhaid i berson y rhoddir caniatâd o'r fath iddo adrodd y canlyniadau ar unwaith wrth Weinidogion Cymru.
(4) Ni chaiff unrhyw berson ymyrryd â, neu rwystro, cyflawni neu ddarllen prawf perthnasol.
16. Caiff arolygydd, at y diben o reoli neu atal lledaeniad twbercwlosis, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad anifeiliaid buchol a gedwir yn y cyfryw fangreoedd a bennir yn yr hysbysiad—
(a)gwneud yn ofynnol bod y cyfryw anifeiliaid buchol a bennir yn yr hysbysiad yn cael eu hynysu oddi wrth anifeiliaid eraill i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad; a
(b)gwahardd symud anifeiliaid buchol, neu'r cyfryw anifeiliaid buchol a bennir yn yr hysbysiad, i'r mangreoedd hynny neu oddi arnynt, ac eithrio dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan arolygydd.
17.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu peri i anifail buchol gael ei gigydda o dan adran 32 o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir i dwbercwlosis, rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad i geidwad yr anifail, i roi gwybod iddo am y bwriad i gigydda, ac i wneud yn ofynnol bod y ceidwad yn cadw'r anifail, hyd nes y cigydda hwnnw, neu symudir ef i'w gigydda, ar y cyfryw ran o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad, ac i'w ynysu i'r graddau y bo'n ymarferol oddi wrth ba bynnag anifeiliaid eraill a bennir felly.
(2) Pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan baragraff (1), ni chaiff unrhyw berson symud yr anifail ac eithrio i'w gigydda, ac eithrio dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan arolygydd.
18.—(1) Pan fo arolygydd milfeddygol wedi'i fodloni bod unrhyw anifail buchol a gedwir mewn unrhyw fangre'n anifail yr effeithiwyd arno neu'n anifail a amheuir, caiff yr arolygydd milfeddygol, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad unrhyw anifail o'r fath, wneud yn ofynnol bod y ceidwad —
(a)yn trin ac yn storio tail neu slyri o unrhyw le a ddefnyddiwyd gan unrhyw anifail o'r fath yn unol â gofynion yr hysbysiad;
(b)yn ymatal rhag gwasgaru unrhyw dail neu chwistrellu neu wasgaru unrhyw slyri o unrhyw le a ddefnyddiwyd gan unrhyw anifail o'r fath, ac eithrio yn unol â gofynion yr hysbysiad;
(c)yn ymatal rhag symud unrhyw dail, slyri neu unrhyw wastraff anifail arall o'r fangre, ac eithrio dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd;
(ch)yn cymryd pa bynnag gamau sy'n rhesymol ymarferol i rwystro unrhyw anifail buchol yn y fangre rhag heintio unrhyw anifail buchol a gedwir mewn unrhyw fangre gyffiniol;
(d)yn trefnu ar gyfer ynysu unrhyw anifeiliaid buchol a bennir yn yr hysbysiad, ym mha bynnag ran neu rannau o'r fangre a bennir;
(dd)yn sicrhau na chaiff unrhyw ran neu rannau o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad, eu defnyddio gan unrhyw anifail buchol sydd yn y fangre, neu gan ba bynnag anifail neu anifeiliaid a bennir yn yr hysbysiad;
(e)yn glanhau a diheintio, gyda diheintydd cymeradwy, y cyfryw ran neu rannau o'r fangre, o fewn y cyfryw amser ac yn y cyfryw fodd a bennir yn yr hysbysiad;
(f)yn glanhau a diheintio, gyda diheintydd cymeradwy, pob teclyn a phob eitem arall a ddefnyddiwyd ar gyfer ac o gwmpas anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, o fewn y cyfryw amser ac yn y cyfryw fodd a bennir yn yr hysbysiad; ac
(ff)cymryd pa bynnag gamau eraill a ystyrir yn briodol gan yr arolygydd milfeddygol.
(2) Os yw'r ceidwad yn methu â chydymffurfio â'r hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru, heb ragfarnu unrhyw achos a allai ddeillio o'r methiant hwnnw, gyflawni neu beri cyflawni gofynion yr hysbysiad, a chânt adennill, oddi wrth y ceidwad, swm unrhyw dreuliau a achosir iddynt yn rhesymol.
19.—(1) Pan fo arolygydd milfeddygol o'r farn yn rhesymol bod anifail buchol, mewn unrhyw fangre lle y cynhelir sioe, arddangosfa, marchnad, arwerthiant neu ffair, yn anifail yr effeithiwyd arno, yn anifail a amheuir, neu'n un a fu'n agored i'w heintio â thwbercwlosis, caiff yr arolygydd—
(a)drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad yr anifail, wneud yn ofynnol symud yr anifail hwnnw o'r fangre honno, a mynd ag ef—
(i)i ladd-dy i'w gigydda ar unwaith; neu
(ii)yn ôl i'r fangre yr aed â'r anifail ohoni i'r sioe, arddangosfa, marchnad, arwerthiant neu ffair; neu
(iii)i ba bynnag fangre arall a gymeradwyir gan yr arolygydd milfeddygol at y diben hwnnw; a
(b)drwy gyflwyno hysbysiad i'r person sy'n gyfrifol am y fangre—
(i)gwneud yn ofynnol bod y person hwnnw'n sicrhau na ddefnyddir unrhyw ran neu rannau o'r fangre, a bennir yn yr hysbysiad, gan unrhyw anifail buchol arall am ba bynnag gyfnod a bennir yn yr hysbysiad; a
(ii)gwneud yn ofynnol bod y person hwnnw, o fewn y cyfryw amser ac yn y cyfryw fodd a bennir yn yr hysbysiad—
(aa)yn glanhau a diheintio, gyda diheintydd cymeradwy, pa bynnag ran neu rannau o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad; a
(bb)yn cael gwared ag unrhyw dail, slyri neu wastraff anifeiliaid arall, gwellt, sarn neu ddeunydd arall a fu mewn cysylltiad, neu a allai fod wedi dod i gysylltiad ag anifail o'r fath.
(2) Pan symudir anifail buchol yn unol â pharagraff (1)(a)(ii) neu (iii), rhaid i geidwad yr anifail ei ynysu ar unwaith, a pheidio â'i symud o'r fangre drachefn, ac eithrio dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd.
(3) Os yw person y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan baragraff (1)(b) y methu â chydymffurfio â'r hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru, heb ragfarnu unrhyw achos a allai ddeillio o'r methiant hwnnw, gyflawni neu beri cyflawni gofynion yr hysbysiad, a chânt adennill swm unrhyw dreuliau a achosir iddynt yn rhesymol, oddi wrth y person a fethodd â chydymffurfio.
20.—(1) Pan fo arolygydd milfeddygol o'r farn yn rhesymol bod, neu y gallai fod, anifail a gedwir mewn unrhyw fangre, yn un yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis, caiff yr arolygydd milfeddygol, drwy gyflwyno hysbysiad i feddiannydd mangre o'r fath—
(a)gwneud yn ofynnol bod y meddiannydd yn cadw'r anifail dan reolaeth ym mha bynnag fodd a bennir yn yr hysbysiad, neu'n ei gyfyngu i ba bynnag ran o'r fangre a bennir; a
(b)gwahardd symud anifeiliaid i'r fangre honno neu oddi arni, ac eithrio dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “anifail” (“animal”) yw unrhyw fath o famal ac eithrio anifail buchol neu ddyn.
21.—(1) Os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan arolygydd, rhaid i geidwad anifeiliaid buchol farcio anifeiliaid o'r fath yn y modd a fydd yn ofynnol gan yr arolygydd.
(2) Caiff yr arolygydd farcio anifeiliaid buchol.
(3) Ni chaiff neb newid neu ymyrryd ag unrhyw farc a roddir o dan yr erthygl hon.
22.—(1) Yn ystod archwiliad mewn labordy, pan ganfyddir bod yr organeb M. bovis yn bresennol mewn sampl a gymerwyd o unrhyw famal (heblaw dyn) neu o garcas, cynhyrchion neu amgylchoedd unrhyw famal o'r fath, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y labordy hwnnw hysbysu'r Asiantaeth Labordai Milfeddygol ar unwaith.
(2) Fodd bynnag, nid oes dyletswydd hysbysu o'r fath os yw'r M. bovis yn bresennol yn y sampl oherwydd ei osod yno'n fwriadol, yn rhan o waith ymchwil sy'n defnyddio'r organeb honno.
23.—(1) Rhaid i unrhyw hysbysiad, trwydded neu gymeradwyaeth a ddyroddir neu a ganiateir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig.
(2) Caiff unrhyw drwydded a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn fod yn gyffredinol neu'n benodol, a cheir ei gwneud yn ddarostyngedig i amodau.
(3) Ceir rhoi unrhyw gymeradwyaeth a ganiateir o dan y Gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i amodau.
(4) Ceir diwygio, atal dros dro neu ddirymu unrhyw hysbysiad, trwydded neu gymeradwyaeth a ddyroddir neu a ganiateir o dan y Gorchymyn hwn mewn ysgrifen ar unrhyw adeg.
(5) Rhaid i unrhyw berson, y mae unrhyw ofyniad neu amod mewn hysbysiad, trwydded neu gymeradwyaeth a ddyroddir neu a ganiateir o dan y Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, gydymffurfio â'r gofyniad neu'r amod hwnnw.
24. Pan symudir anifail buchol o dan awdurdod trwydded (ac eithrio trwydded gyffredinol) a roddwyd o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am yr anifail a symudir, pan ofynnir hynny gan arolygydd o dan y Gorchymyn hwn, roi ei enw a'i gyfeiriad, a rhaid iddo ddangos y drwydded a chaniatáu gwneud copi ohoni.
25.—(1) Rhaid gorfodi'r Gorchymyn hwn gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd, mewn perthynas ag achos penodol neu ddosbarth penodol o achosion, mai hwy fydd yn gorfodi'r Gorchymyn hwn yn hytrach na'r awdurdod lleol.
26.—(1) Pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru yn peri cigydda anifail buchol, o dan bwerau a roddir gan adran 32(1) o'r Ddeddf (cigydda oherwydd clefydau eraill) fel y'i cymhwysir i dwbercwlosis; a
(b)yr anifail hwnnw'n un a adwaenir drwy gyfrwng tagiau clust a phasbort gwartheg yn unol â gofynion Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007(6),
yr iawndal taladwy o dan adran 32(3) mewn perthynas â'r anifail hwnnw fydd ei werth fel y'i cyfrifir yn unol â'r Atodlen.
(2) Mae rheoliad 3 o Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006(7) (darparu gweithdrefn apelio) yn gymwys ar gyfer penderfynu'r ffigur priodol, fel pe bai'r penderfyniad hwnnw'n benderfyniad perthnasol.
(3) Ym mharagraff (2) ystyr “ffigur priodol” (“appropriate figure”) yw'r ffigur a ddarperir ar gyfer “B” gan un o'r paragraffau 3 i 6 o'r Atodlen.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
30 Ebrill 2010
Erthygl 26
1. Rhaid cyfrifo gwerth anifail buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis gan ddefnyddio'r fformiwla ganlynol—
A × B = C
Yn y fformiwla hon—
A yw gwerth yr anifail ar y farchnad, sydd i'w benderfynu yn unol â pharagraff 2;
B yw'r ffigur a ddarperir gan baragraffau 3 i 6; ac
C yw gwerth yr anifail at ddibenion erthygl 26.
2.—(1) Er gwaethaf darpariaethau erthygl 3 o Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Penderfynu Iawndal) 1959(8), rhaid penderfynu gwerth ar y farchnad unrhyw anifail y perir ei gigydda gan Weinidogion Cymru—
(a)drwy gytundeb rhwng Gweinidogion Cymru a pherchennog yr anifail;
(b)gan un prisiwr a benodir ar y cyd gan Weinidogion Cymru a'r perchennog; neu
(c)os methir â chytuno felly, neu os methir â chytuno a phenodi felly, gan brisiwr sydd â'i enw ar restr a gynhelir gan Weinidogion Cymru ac a enwebir gan Lywydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, neu gan Lywydd Cymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol, yn ôl fel y penderfynir gan Weinidogion Cymru, mewn unrhyw achos penodol neu ddosbarth penodol o achosion.
(2) Rhaid i brisiwr a benodir neu a enwebir o dan is-baragraff (1)(b) neu (c) gael ei dalu gan Weinidogion Cymru, a rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru o'r gwerth ar y farchnad mewn ysgrifen.
(3) Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriad at brisiwr yn gyfeiriad at unigolyn, ac nid at gwmni neu ffyrm nac at ddau neu ragor o bersonau ar y cyd.
(4) At ddibenion y paragraff hwn, gwerth anifail ar y farchnad yw'r pris y gellid yn rhesymol ddisgwyl bod wedi ei gael amdano gan brynwr yn y farchnad agored ar adeg y prisio, pe na bai'n anifail yr effeithiwyd arno neu'n anifail a amheuir.
3.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo hysbysiad gwella milfeddygol o dan erthygl 11 (hysbysiad gwella milfeddygol) wedi ei gyflwyno i geidwad anifail buchol, a'r ceidwad hwnnw'n methu â chydymffurfio ag un neu ragor o ofynion yr hysbysiad.
(2) Pan fo—
(a)y ceidwad wedi methu â chydymffurfio ag un gofyniad yn yr hysbysiad gwella milfeddygol;
(b)anifail wedi ei brofi o dan erthygl 12 (profi ar gyfer twbercwlosis);
(c)yr anifail hwnnw wedi ei gigydda, yn dilyn y prawf hwnnw; ac
(ch)y prawf wedi ei gyflawni ar y fuches sy'n cynnwys yr anifail hwnnw (ar ôl cyflwyno'r hysbysiad gwella milfeddygol i'r ceidwad)—
(i)am y tro cyntaf, bydd “B” yn 0.75;
(ii)am yr ail dro, bydd “B” yn 0.5; neu
(iii)ar ôl yr ail dro, bydd “B” yn 0.05.
(3) Pan fo—
(a)y ceidwad wedi methu â chydymffurfio â mwy nag un gofyniad yn yr hysbysiad gwella milfeddygol;
(b)anifail wedi ei brofi o dan erthygl 12;
(c)yr anifail hwnnw wedi ei gigydda, yn dilyn y prawf hwnnw; ac
(ch)y prawf wedi ei gyflawni ar y fuches sy'n cynnwys yr anifail hwnnw (ar ôl cyflwyno'r hysbysiad gwella milfeddygol i'r ceidwad)—
(i)am y tro cyntaf, bydd “B” yn 0.5; neu
(ii)ar ôl y tro cyntaf, bydd “B” yn 0.05.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
(a)hysbysiad dan erthygl 12(1) (profi ar gyfer twbercwlosis) wedi ei gyflwyno i geidwad anifail buchol;
(b)y ceidwad wedi methu a chyflawni'r prawf hwnnw erbyn y dyddiad a bennwyd yn yr hysbysiad (y “dyddiad penodedig”);
(c)y prawf wedi ei gyflawni ar ddyddiad diweddarach; ac
(ch)yr anifail wedi ei gigydda, yn dilyn y prawf.
(2) Os cyflawnwyd y prawf yn unol â gofynion hysbysiad o dan erthygl 12(1) ar ddyddiad diweddarach na'r dyddiad penodedig, a'r cyfnod rhwng y dyddiad penodedig a'r prawf—
(a)yn fwy na 60 diwrnod ond nid yn fwy na 90 diwrnod, bydd “B” yn 0.75;
(b)yn fwy na 90 diwrnod ond nid yn fwy na 180 diwrnod, bydd “B” yn 0.5; ac
(c)yn fwy na 180 diwrnod, bydd “B” yn 0.05.
(3) Os cyflawnwyd y prawf o dan erthygl 12(5), bydd “B” yn 0.05.
(4) Os cigyddwyd yr anifail yn rhinwedd darpariaethau erthygl 12(6), bydd “B” yn 0.05.
5.—(1) Mae'r paragraff yn gymwys pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, y tu hwnt i amheuaeth resymol, bod ceidwad anifail buchol wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 73 (tramgwyddau cyffredinol) yn rhinwedd y Gorchymyn hwn;
(b)y prawf perthnasol wedi ei gyflawni ar anifail; ac
(c)yr anifail hwnnw wedi ei gigydda, yn dilyn prawf hwnnw.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â chigydda anifeiliaid ar ôl cyflawni'r prawf perthnasol—
(a)o fewn 6 mis ar ôl bodloni is-baragraff (1)(a); a
(b)o dan erthygl 12 am y tro cyntaf ar ôl bodloni is-baragraff (1)(a).
(3) Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys a phan fo is-baragraff (1)(a) wedi ei fodloni—
(a)ar un achlysur, bydd “B” yn 0.5; a
(b)ar fwy nag un achlysur, bydd “B” yn 0.05.
(4) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys o ran methiant i gydymffurfio â hysbysiadau a gyflwynir o dan erthygl 11(1) neu 12(1).
6. Pan nad yw paragraffau 3, 4 a 5 yn gymwys, bydd “B” yn 1.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (“y Ddeddf”), yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â thwbercwlosis yng Nghymru.
Mae Rhan 1 yn gwneud darpariaethau cyffredinol, gan gynnwys enwi, cychwyn a dehongli. Mae erthygl 3 yn darparu ar gyfer dirymu Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006. Mae erthygl 4 yn diwygio Gorchymyn Iawndal Brwselosis a Thwbercwlosis (Cymru a Lloegr) 1978. Mae erthygl 5 yn darparu ar gyfer arbedion a phontio.
Yn Rhan 2 gwneir darpariaeth ar gyfer profi a symud anifeiliaid. Mae erthygl 6 yn darparu ar gyfer rhagnodi twbercwlosis yn glefyd at ddibenion adrannau 32 ac 88 o'r Ddeddf. Mae erthygl 7 yn gwneud darpariaeth at ddibenion adran 62E o'r Ddeddf. Mae erthyglau 8 a 9 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â hysbysu am glefydau. Mae erthyglau 10 ac 11 yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag arolygwyr milfeddygol. Mae erthyglau 12, 13 a 14 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â phrofi anifeiliaid. Mae erthyglau 15 i 25 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â rheolaethau at y diben o atal clefydau rhag lledaenu.
Yn Rhan 3 gwneir darpariaeth ynglŷn ag iawndal am anifeiliaid a gigyddir oherwydd twbercwlosis. Mae erthygl 26 yn darparu ar gyfer cyfrifo swm yr iawndal. Yn yr erthygl honno hefyd darperir ar gyfer panel i adolygu'r cyfrifiad o werth anifail.
Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn, a gellir cael copi ohono o Swyddfa Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Llywodraeth Cynullid Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
1981 p. 22. Rhoddir ystyr “the Minister” yn adran 86(1). Mae swyddogaethau o dan y Ddeddf yn arferadwy (o ran Cymru) gan Weinidogion Cymru, yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044) ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). a pharagraff 30 of Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.
O.S.1978/1483. Mewnosodwyd paragraff (2A) o erthygl 3 gan O.S. 1998/2073, erthygl 2. Dirymwyd y Gorchymyn o ran Lloegr gan O.S. 2006/168.