Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 26

ATODLENCyfrifo gwerth anifail buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis

Cyfrifiad

1.  Rhaid cyfrifo gwerth anifail buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis gan ddefnyddio'r fformiwla ganlynol—

A × B = C

Yn y fformiwla hon—

  • A yw gwerth yr anifail ar y farchnad, sydd i'w benderfynu yn unol â pharagraff 2;

  • B yw'r ffigur a ddarperir gan baragraffau 3 i 6; ac

  • C yw gwerth yr anifail at ddibenion erthygl 26.

Gwerth ar y farchnad

2.—(1Er gwaethaf darpariaethau erthygl 3 o Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Penderfynu Iawndal) 1959(1), rhaid penderfynu gwerth ar y farchnad unrhyw anifail y perir ei gigydda gan Weinidogion Cymru—

(a)drwy gytundeb rhwng Gweinidogion Cymru a pherchennog yr anifail;

(b)gan un prisiwr a benodir ar y cyd gan Weinidogion Cymru a'r perchennog; neu

(c)os methir â chytuno felly, neu os methir â chytuno a phenodi felly, gan brisiwr sydd â'i enw ar restr a gynhelir gan Weinidogion Cymru ac a enwebir gan Lywydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, neu gan Lywydd Cymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol, yn ôl fel y penderfynir gan Weinidogion Cymru, mewn unrhyw achos penodol neu ddosbarth penodol o achosion.

(2Rhaid i brisiwr a benodir neu a enwebir o dan is-baragraff (1)(b) neu (c) gael ei dalu gan Weinidogion Cymru, a rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru o'r gwerth ar y farchnad mewn ysgrifen.

(3Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriad at brisiwr yn gyfeiriad at unigolyn, ac nid at gwmni neu ffyrm nac at ddau neu ragor o bersonau ar y cyd.

(4At ddibenion y paragraff hwn, gwerth anifail ar y farchnad yw'r pris y gellid yn rhesymol ddisgwyl bod wedi ei gael amdano gan brynwr yn y farchnad agored ar adeg y prisio, pe na bai'n anifail yr effeithiwyd arno neu'n anifail a amheuir.

Hysbysiad gwella milfeddygol

3.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo hysbysiad gwella milfeddygol o dan erthygl 11 (hysbysiad gwella milfeddygol) wedi ei gyflwyno i geidwad anifail buchol, a'r ceidwad hwnnw'n methu â chydymffurfio ag un neu ragor o ofynion yr hysbysiad.

(2Pan fo—

(a)y ceidwad wedi methu â chydymffurfio ag un gofyniad yn yr hysbysiad gwella milfeddygol;

(b)anifail wedi ei brofi o dan erthygl 12 (profi ar gyfer twbercwlosis);

(c)yr anifail hwnnw wedi ei gigydda, yn dilyn y prawf hwnnw; ac

(ch)y prawf wedi ei gyflawni ar y fuches sy'n cynnwys yr anifail hwnnw (ar ôl cyflwyno'r hysbysiad gwella milfeddygol i'r ceidwad)—

(i)am y tro cyntaf, bydd “B” yn 0.75;

(ii)am yr ail dro, bydd “B” yn 0.5; neu

(iii)ar ôl yr ail dro, bydd “B” yn 0.05.

(3Pan fo—

(a)y ceidwad wedi methu â chydymffurfio â mwy nag un gofyniad yn yr hysbysiad gwella milfeddygol;

(b)anifail wedi ei brofi o dan erthygl 12;

(c)yr anifail hwnnw wedi ei gigydda, yn dilyn y prawf hwnnw; ac

(ch)y prawf wedi ei gyflawni ar y fuches sy'n cynnwys yr anifail hwnnw (ar ôl cyflwyno'r hysbysiad gwella milfeddygol i'r ceidwad)—

(i)am y tro cyntaf, bydd “B” yn 0.5; neu

(ii)ar ôl y tro cyntaf, bydd “B” yn 0.05.

Methiant i brofi anifeiliaid yn unol ag erthygl 12(1)

4.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)hysbysiad dan erthygl 12(1) (profi ar gyfer twbercwlosis) wedi ei gyflwyno i geidwad anifail buchol;

(b)y ceidwad wedi methu a chyflawni'r prawf hwnnw erbyn y dyddiad a bennwyd yn yr hysbysiad (y “dyddiad penodedig”);

(c)y prawf wedi ei gyflawni ar ddyddiad diweddarach; ac

(ch)yr anifail wedi ei gigydda, yn dilyn y prawf.

(2Os cyflawnwyd y prawf yn unol â gofynion hysbysiad o dan erthygl 12(1) ar ddyddiad diweddarach na'r dyddiad penodedig, a'r cyfnod rhwng y dyddiad penodedig a'r prawf—

(a)yn fwy na 60 diwrnod ond nid yn fwy na 90 diwrnod, bydd “B” yn 0.75;

(b)yn fwy na 90 diwrnod ond nid yn fwy na 180 diwrnod, bydd “B” yn 0.5; ac

(c)yn fwy na 180 diwrnod, bydd “B” yn 0.05.

(3Os cyflawnwyd y prawf o dan erthygl 12(5), bydd “B” yn 0.05.

(4Os cigyddwyd yr anifail yn rhinwedd darpariaethau erthygl 12(6), bydd “B” yn 0.05.

Torri rhwymedigaethau

5.—(1Mae'r paragraff yn gymwys pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, y tu hwnt i amheuaeth resymol, bod ceidwad anifail buchol wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 73 (tramgwyddau cyffredinol) yn rhinwedd y Gorchymyn hwn;

(b)y prawf perthnasol wedi ei gyflawni ar anifail; ac

(c)yr anifail hwnnw wedi ei gigydda, yn dilyn prawf hwnnw.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â chigydda anifeiliaid ar ôl cyflawni'r prawf perthnasol—

(a)o fewn 6 mis ar ôl bodloni is-baragraff (1)(a); a

(b)o dan erthygl 12 am y tro cyntaf ar ôl bodloni is-baragraff (1)(a).

(3Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys a phan fo is-baragraff (1)(a) wedi ei fodloni—

(a)ar un achlysur, bydd “B” yn 0.5; a

(b)ar fwy nag un achlysur, bydd “B” yn 0.05.

(4Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys o ran methiant i gydymffurfio â hysbysiadau a gyflwynir o dan erthygl 11(1) neu 12(1).

Achosion eraill

6.  Pan nad yw paragraffau 3, 4 a 5 yn gymwys, bydd “B” yn 1.

Yn ôl i’r brig

Options/Help