Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bro Morgannwg (Cymunedau) 2010.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) neu i unrhyw ddiben a osodir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn yn weithredol ar 1 Mehefin 2010.
(3) Daw erthygl 6 i rym—
(a)at ddibenion gweithrediadau rhagarweiniol i unrhyw etholiad sydd i'w gynnal neu sy'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2012, ar 15 Hydref 2011;
(b)at bob diben arall, ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2012.
(4) At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2010, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.
Yn ôl i’r brig