Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

Rheoliadau 5 a 15

ATODLEN 1Deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd

Deddfwriaeth yr UEPwnc
Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC ar broblemau iechyd anifeiliaid sy'n effeithio ar y fasnach mewn anifeiliaid buchol a moch o fewn y Gymuned(1)Anifeiliaid buchol a moch
Cyfarwyddeb y Cyngor 88/407/EEC sy'n gosod y gofynion o ran iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i fasnach mewn semen dwys-rewedig anifeiliaid domestig o rywogaeth y fuwch o fewn y Gymuned ac i fewnforio'r semen hwnnw(2)Semen buchol
Cyfarwyddeb y Cyngor 89/556/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu masnach mewn embryonau anifeiliaid domestig o rywogaeth y fuwch o fewn y Gymuned ac i fewnforio'r embryonau hynny o drydydd gwledydd(3)Embryonau buchol ffres
Cyfarwyddeb y Cyngor 90/429/EEC sy'n gosod y gofynion iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i fasnach mewn semen anifeiliaid domestig o rywogaeth y mochyn o fewn y Gymuned ac i fewnforio'r semen hwnnw(4)Semen moch
Cyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach mewn defaid a geifr o fewn y Gymuned (5)Defaid a geifr
Cyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC sy'n gosod gofynion o ran iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach mewn anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion iechyd anifeiliaid a osodir yn rheolau penodol y Gymuned y cyfeirir atynt yn Atodiad A(I) i Gyfarwyddeb 90/425/EEC ac yn llywodraethu eu mewnforio i'r Gymuned(6)Anifeiliaid a chynhyrchion eraill a bennir yn y Gyfarwyddeb
Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC sy'n gosod gofynion o ran iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd sy'n llywodraethu'r fasnach mewn cynhyrchion a mewnforion i'r Gymuned o gynhyrchion nad ydynt yn ddarostyngedig i'r gofynion hynny a osodir yn rheolau penodol y Gymuned y cyfeirir atynt yn Atodiad A(I) i Gyfarwyddeb 89/662/EEC ac, o ran pathogenau, i Gyfarwyddeb 90/425/EEC(7)Cynhyrchion amrywiol
Cyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC ar fesurau i fonitro sylweddau penodol a'u gweddillion mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau 85/358/EEC a 86/469/EEC a Phenderfyniadau 89/187/EEC a 91/664/EEC(8)Gweddillion
Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(9)Cynhyrchion anifeiliaid i'w bwyta gan bobl
Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC sy'n gosod y rheolau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu cynhyrchu, prosesu, dosbarthu a chyflwyno cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ar gyfer eu bwyta gan bobl(10)Cynhyrchion anifeiliaid i'w bwyta gan bobl
Cyfarwyddeb y Cyngor 2004/68/EC sy'n gosod y rheolau iechyd anifeiliaid ar gyfer mewnforio anifeiliaid byw penodol gyda charnau i'r Gymuned a chludo'r anifeiliaid hynny trwyddi(11)Anifeiliaid byw penodol gyda charnau sy'n cynnwys gwartheg, geifr, defaid, moch
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 136/2004 sy'n gosod gweithdrefnau ar gyfer gwiriadau milfeddygol mewn arolygfeydd ar ffin y Gymuned ar gynhyrchion a fewnforir o drydydd gwledydd(12)Gwair a gwellt
Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd(13)Cynhyrchion anifeiliaid i'w bwyta gan bobl
Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(14)Cynhyrchion anifeiliaid i'w bwyta gan bobl
Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(15)Cynhyrchion anifeiliaid i'w bwyta gan bobl
Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau gwirio cydymffurfedd â'r gyfraith ynglŷn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid(16)Rheolaethau swyddogol ar fwyd anifeiliaid, bwyd, iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 183/2005 sy'n gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid(17)Bwyd anifeiliaid
Penderfyniad y Comisiwn 2007/275 ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion fydd yn ddarostyngedig i reolaethau mewn arolygfeydd ffin o dan Gyfarwyddebau'r Cyngor 91/496/EEC a 97/78/EC(18)Cynhyrchion cyfansawdd
Cyfarwyddeb y Cyngor 2006/88/EC ar y gofynion o ran iechyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid a chynhyrchion dyframaethu, ac ar atal a rheoli clefydau penodol mewn anifeiliaid dyfrol(19)Anifeiliaid dyfrol
Cyfarwyddeb y Cyngor 2009/156/EC ar amodau iechyd anifeiliaid, sy'n llywodraethu symud a mewnforio equidae o drydydd gwledydd(20)Equidae
Cyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ar amodau iechyd anifeiliaid, sy'n llywodraethu'r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned, a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd(21)Dofednod ac wyau deor
Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 13 Gorffennaf 2009 ar osod bwyd anifeiliaid ar y farchnad a'i ddefnyddio(22)Bwyd anifeiliaid
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1069/2009 sy'n gosod rheolau iechyd mewn perthynas â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid nas bwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(23)Sgil-gynhyrchion anifeiliaid

Rheoliadau 8 a 25

ATODLEN 2Gofynion penodedig ar gyfer achosion unigol

RHAN 1Gofynion ychwanegol ar gyfer masnach rhwng Aelod-wladwriaethau

Masnachwyr gwartheg, defaid, moch neu eifr

1.—(1Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi mangre i weithredu fel canolfan grynhoi neu fangre masnachwr yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC (yn achos gwartheg a moch) neu Gyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC (yn achos defaid a geifr).

(2Rhaid i'r awdurdodiad bennu'r masnachwr neu'r gweithredwr sy'n cael ei awdurdodi i weithredu'r fangre.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru gael eu bodloni bod y masnachwr neu'r gweithredwr yn mynd i weithredu'r fangre yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC neu Gyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC.

Cludo gwartheg, moch, defaid neu eifr

2.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo gwartheg, moch, defaid neu eifr rhwng Aelod-wladwriaethau gydymffurfio â'r paragraff hwn.

(2Rhaid i'r cludwr gael ei gymeradwyo, gan Weinidogion Cymru, at y diben hwn.

(3Rhaid i'r cludwr gadw cofrestr, ar gyfer pob cerbyd a ddefnyddiwyd i gludo'r anifeiliaid hynny, sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol;

(a)mannau a dyddiadau codi'r anifeiliaid, ac enw neu enw busnes a chyfeiriad y daliad neu'r ganolfan grynhoi lle y mae'r anifeiliaid yn cael eu codi;

(b) y mannau y danfonwyd hwy iddynt a dyddiadau eu danfon, ac enw neu enw busnes a chyfeiriad y traddodai;

(c)rhywogaeth a nifer yr anifeiliaid a gludwyd;

(ch)dyddiad a man y diheintio; a

(d)rhifau adnabod unigryw y tystysgrifau iechyd sy'n mynd gyda'r anifeiliaid.

(4Rhaid cadw'r gofrestr am o leiaf dair blynedd.

(5Rhaid i'r cludwr sicrhau bod y cyfrwng cludo wedi ei adeiladu yn y fath fodd na fydd ysgarthion, sarn na bwyd anifeiliaid yn gallu gollwng na chwympo allan o'r cerbyd.

(6Rhaid i'r cludwr roi ymgymeriad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn nodi—

(a)yn achos gwartheg neu foch, y cydymffurfir â Chyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC, ac yn benodol, y darpariaethau a osodwyd yn Erthygl 12 o'r Gyfarwyddeb honno, a darpariaethau'r Gyfarwyddeb honno mewn perthynas â'r ddogfennaeth briodol y mae'n rhaid ei chael gyda'r anifeiliaid;

(b)yn achos defaid a geifr, y cydymffurfir â Chyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC, ac yn benodol, y darpariaethau a osodwyd yn Erthygl 8c o'r Gyfarwyddeb honno, a darpariaethau'r Gyfarwyddeb honno mewn perthynas â'r ddogfennaeth briodol y mae'n rhaid ei chael gyda'r anifeiliaid; ac

(c)y bydd gwaith cludo'r anifeiliaid yn cael ei roi yng ngofal staff sy'n meddu ar y gallu, y cymhwysedd proffesiynol a'r wybodaeth angenrheidiol.

Ceffylau

3.  Caiff equidae sydd wedi eu cofrestru ac equidae ar gyfer bridio a chynhyrchu sydd o dan gytundeb dwyochrog a wnaed o dan Erthygl 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/156/EC, ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu symud equidae a'u mewnforio o drydydd gwledydd, symud rhwng Aelod-wladwriaethau heb ardystiad iechyd na thystysgrif iechyd.

Cynllun Iechyd Dofednod

4.  At ddibenion Erthyglau 2 a 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ac Atodiad II iddi (sy'n sefydlu cynllun iechyd dofednod sy'n ymwneud â masnach rhwng Aelod-wladwriaethau)—

(a)mae cymeradwyaeth ar gyfer sefydliadau a labordai yn cael ei rhoi gan Weinidogion Cymru;

(b)rhaid i arolwg blynyddol o sefydliad a gymeradwywyd gael ei wneud gan filfeddyg a benodwyd at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru, er mwyn i'r sefydliad aros ar y gofrestr.

Cymeradwyaethau ar gyfer Cyfarwyddeb Balai

5.—(1Ni chaiff neb fasnachu epaod, (simiae a prosimiae) ac eithrio rhwng canolfan a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru a chanolfan a gymeradwywyd gan yr awdurdod cymwys ar gyfer yr Aelod-wladwriaeth arall yn unol ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC (“Cyfarwyddeb Balai”).

(2Rhaid i gorff sy'n ceisio cymeradwyaeth i ddefnyddio'r darpariaethau iechyd gwahanol a nodir yn Erthygl 13 o Gyfarwyddeb Balai gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru atal, tynnu'n ôl neu adfer cymeradwyaethau yn is-baragraff (1) neu (2) yn yr amgylchiadau a nodir ym mhwynt 3 o Atodiad C i'r Gyfarwyddeb honno.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo corff a awdurdodwyd i ymgymryd â masnachu rhwng Aelod-wladwriaethau mewn semen, ofa ac embryonau yn unol ag Erthygl 11 o Gyfarwyddeb Balai os yw'r corff yn bodloni'r amodau sy'n gymwys iddo o ran cymeradwyaeth ac o ran cyflawni ei ddyletswyddau fel sy'n ofynnol gan Erthygl 11 o'r Gyfarwyddeb honno ac Atodiad D iddi.

(5Drwy randdirymiad o is-baragraff (1), caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi corff, a gymeradwywyd o dan y paragraff hwn, yn ysgrifenedig i gaffael epa (simiae a prosimiae) sy'n eiddo i unigolyn.

Syrcasau

6.—(1Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1739/2005 sy'n gosod gofynion iechyd anifeiliaid ar gyfer symud anifeiliaid syrcas rhwng Aelod-wladwriaethau(24).

(2Ni chaiff neb fynd yn groes i Erthygl 8 o'r Rheoliad Comisiwn hwnnw (cadw cofnodion).

(3Er gwaethaf rheoliad 5(1) o'r Rheoliadau hyn, ni chaiff neb fynd yn groes i Erthygl 10(1) o'r Rheoliad Comisiwn hwnnw (hysbysiad o symud).

Sgil-gynhyrchion anifeiliaid

7.  Dim ond yn unol ag Erthygl 48 y caiff sgil-gynhyrchion anifeiliaid y mae Erthygl 48 o Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 yn gymwys iddynt, eu traddodi i Aelod-wladwriaeth arall neu ddod â hwy i mewn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall.

RHAN 2Darpariaethau ychwanegol mewn perthynas â mewnforion o drydydd gwledydd

Cyrraedd mangre cyrchu

8.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i eliffantod ac i wartheg, moch, defaid, geifr ac i holl anifeiliaid eraill y taxa Artiodactyla, a'u croesfridiau.

(2Rhaid i anifeiliaid y bwriedir eu cigydda ar unwaith gael eu cludo heb oedi o'r arolygfa ffin i'r lladd-dy sydd ar ben y daith, a'u cigydda o fewn pum niwrnod gwaith.

(3Mewn unrhyw achos arall rhaid i'r anifeiliaid gael eu cludo heb oedi o'r arolygfa ffin i'r daliad cyrchu, a'u cadw yno am o leiaf 30 o ddiwrnodau (oni bai eu bod wedi eu traddodi o ddaliad yn uniongyrchol i ladd-dy).

Adar a fewnforir

9.—(1Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys ar gyfer Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 318/2007 sy'n gosod amodau iechyd anifeiliaid a'r gofynion cwarantîn ar gyfer mewnforio adar penodol i mewn i'r Gymuned(25).

(2Rhaid i fewnforiwr gydymffurfio ag Erthygl 7 (cludo adar) o'r Rheoliad hwnnw.

(3Ni chaiff neb ryddhau aderyn o gwarantîn, ac eithrio yn unol ag Erthygl 16 (rhyddhau adar) o'r Rheoliad hwnnw.

Ceffylau

10.  Pan fo ceffyl yn cael ei fewnforio o drydedd wlad o dan Benderfyniad y Comisiwn 92/260/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid ac ardystiad milfeddyg ar gyfer derbyn ceffylau cofrestredig dros dro(26), rhaid i'r milfeddyg swyddogol ddychwelyd y dystysgrif iechyd i'r person sy'n dod gyda'r ceffyl, a gwneud cofnod o'r dystysgrif.

Storfeydd llongau

11.  Rhaid i'r dystysgrif y cyfeirir ati yn yr offeryn yn Atodlen 1 mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw fynd gyda chynnyrch nad yw'n cydymffurfio â'r gofynion mewnforio ac sy'n cael ei anfon o arolygfa ffin i long, a rhaid i feistr y llestr gadarnhau traddodi'r cynnyrch drwy lofnodi'r dystysgrif a bennir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2000/571/EC (sy'n gosod dulliau gwiriadau milfeddygol ar gyfer cynhyrchion o drydydd gwledydd sy'n mynd i gael eu cyflwyno i barthau rhydd, warysau rhydd, warysau'r gwasanaeth tollau neu weithredwyr sy'n cyflenwi cyfrwng cludo trawsffiniol ar fôr(27)) a'i dychwelyd i'r milfeddyg swyddogol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol i wneud hynny, yn yr arolygfa ffin.

Ffioedd am wiriadau milfeddygol o Seland Newydd

12.  1.5 ewro ar gyfer pob tunnell o'r llwyth yw'r ffi am y gwiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar lwyth o Seland Newydd, yn ddarostyngedig i isafswm o 30 ewro ac uchafswm o 350 ewro, ac eithrio pan fo costau gwirioneddol y gwiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth yn uwch na 350 ewro, swm y ffi a godir yw'r costau gwirioneddol.

Rheoliad 26

ATODLEN 3Achosion nad yw Rhan 3 yn gymwys iddynt

Datgymhwyso Rhan 3

1.  Nid yw Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys yn yr achosion a nodir yn yr Atodlen hon.

Achos 1: Mewnforion personol a llwythi bychain

2.  Y cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a bennir yn Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 206/2009 ar gyflwyno llwythi personol o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i mewn i'r Gymuned(28).

Achos 2: Cyfrwng cludo rhyngwladol

3.  Cynhyrchion ar gyfrwng cludo sy'n gweithredu'n rhyngwladol y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan y criw a'r teithwyr, ac sydd naill ai—

(a)ddim yn cael eu dadlwytho;

(b)yn cael eu trosglwyddo'n uniongyrchol o un cyfrwng cludo sy'n gweithredu'n rhyngwladol i un arall yn yr un porthladd ac o dan oruchwyliaeth gwasanaeth y tollau; neu

(c)yn cael eu dinistrio cyn gynted ag y'u dadlwythir.

Achos 3: Samplau masnach a samplau ar gyfer astudiaeth benodol neu ddadansoddiad

4.—(1Cynhyrchion a anfonir fel cynhyrchion masnach neu a fwriedir ar gyfer arddangosfeydd ar yr amod na fwriedir iddynt gael eu marchnata ac a awdurdodwyd ymlaen llaw ar gyfer y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.

(2Cynhyrchion a fwriedir ar gyfer astudiaethau penodol neu ddadansoddiadau ar yr amod nad oes bwriad i'r cynhyrchion hynny gael eu bwyta gan bobl ac a awdurdodwyd ymlaen llaw ar gyfer y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.

(3Pan fo'r arddangosfa wedi gorffen neu pan fo'r astudiaethau penodol neu ddadansoddiadau wedi eu gwneud, rhaid dinistrio'r cynhyrchion hyn, ac eithrio'r sypiau a ddefnyddiwyd ar gyfer y dadansoddiadau, neu eu hailddosbarthu fel a bennir yn yr awdurdodiad mewnforio.

(4Nid yw'r achos hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gynnyrch a reolir o dan Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd mewn perthynas â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid nas bwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 (Rheoliad sgil-gynhyrchion Anifeiliaid) (nodir y rheolau ar gyfer y cynhyrchion hynny yn y Rheoliad hwnnw).

Achos 4: Llwythi a gliriwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall

5.  Llwythi o anifeiliaid a chynhyrchion sydd wedi eu cyflwyno i arolygfa ffin mewn Aelod-wladwriaeth arall neu ran arall o'r Deyrnas Unedig, ac a gliriwyd ar gyfer cylchrediad rhydd.

Achos 5: Cynhyrchion cyfansawdd

6.—(1Cynhyrchion cyfansawdd a deunyddiau bwyd a restrir yn Atodiad II i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC.

(2Cynhyrchion cyfansawdd nad ydynt yn cynnwys cig neu gynhyrchion cig, pan fo llai na hanner y cynnyrch yn gynnyrch wedi ei brosesu sy'n dod o anifeiliaid, ar yr amod bod cynhyrchion o'r fath—

(a)yn sefydlog ar gyfer y silff mewn tymheredd amgylchynol neu eu bod, wrth gael eu gweithgynhyrchu, yn amlwg wedi bod drwy broses gyflawn o goginio neu driniaeth â gwres drwy gyfanrwydd eu sylweddau, fel bod unrhyw gynnyrch amrwd wedi ei annatureiddio;

(b)wedi eu dynodi'n glir y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl;

(c)wedi eu pacio'n ddiogel neu wedi eu selio mewn cynwysyddion glân; ac

(ch)bod dogfen fasnachol yn mynd gyda hwynt a'u bod wedi eu labelu mewn iaith swyddogol Aelod-wladwriaeth, fel bod y ddogfen honno a'r labelu gyda'i gilydd yn rhoi gwybodaeth ar natur, ansawdd a nifer y pecynnau o'r cynhyrchion cyfansawdd, gwlad eu tarddiad, y gweithgynhyrchydd a'r cynhwysyn.

Achos 6: Anifeiliaid sy'n ddarostyngedig i reolaeth y gynddaredd

7.  Anifeiliaid a bennir yn Atodlen 1 i Orchymyn y Gynddaredd (Mewnforio Cŵn, Cathod a Mamaliaid Eraill) 1974(29) ac a fewnforir yn unol â thrwydded o dan y Gorchymyn hwnnw.

Rheoliad 43

ATODLEN 4Diwygiadau canlyniadol

Diwygio Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008

1.  Ar ôl rheoliad 19 o Reoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008(30) mewnosoder—

“RHAN 3AAllforion

19A.—(1Rhaid i berson beidio ag allforio unrhyw anifail, semen, ofwm neu embryo i drydedd wlad oni bai ei fod yn cydymffurfio â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1266/2007 ar weithredu'r rheolau ar gyfer Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/75/EC o ran rheoli, monitro, gwyliadwriaeth a chyfyngiadau ar symudiadau anifeiliaid penodol sydd o rywogaeth a allai ddal haint y tafod glas.

(2Caiff arolygydd, sydd ag achos rhesymol i amau bod person yn bwriadu allforio unrhyw anifail, semen, ofwm neu embryo yn groes i'r rheoliad hwn, wahardd yr allforio, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person hwnnw, cynrychiolydd y person hwnnw neu'r person yr ymddengys bod yr anifail, semen, ofwm neu embryo o dan ofal y person hwnnw, gan ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, fynd â'r anifail, semen, ofwm neu embryo i'r mannau hynny a gaiff eu pennu yn yr hysbysiad a chymryd camau pellach mewn perthynas ag ef fel a bennir yn yr hysbysiad.

(3Os na chydymffurfir â'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2), caiff arolygydd ymafael yn unrhyw anifail neu beth y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo.

Diwygio Gorchymyn Mewnforio Cynhyrchion Anifeiliaid a Chynhyrchion Dofednod 1980

2.  Mae Gorchymyn Mewnforio Cynhyrchion Anifeiliaid a Chynhyrchion Dofednod 1980(31) i'r graddau y mae'n ymwneud â Chymru, wedi ei ddiwygio drwy fewnosod, ar ôl erthygl 1—

Scope

1A.  This Order does not apply in relation to any importation in relation to which the Trade in Animals and Related Products (Wales) Regulations 2011 apply..

(1)

OJ Rhif L 121, 29.7.64, t. 1977 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2009/976/EU (OJ Rhif L 336, 18.12.2009, t. 36).

(2)

OJ Rhif L 194, 22.7.1988, t. 10 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/73/EC (OJ Rhif L 219, 14.8.2008, t. 40).

(3)

OJ Rhif L 302, 19.10.1989, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/73/EC (OJ Rhif L 219, 14.8.2008, t 40).

(4)

OJ Rhif L 224, 18.8.1990, t.62, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/73/EC (OJ Rhif L 219, 14.8.2008, t. 40).

(5)

OJ Rhif L 46, 19.2.1991, t.19, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/73/EC (OJ Rhif L 219, 14.8.2008, t. 40).

(6)

OJ Rhif L 268, 14.9.1992, t. 54 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 684/2010 (OJ Rhif L 293, 11.11.2010, t. 62).

(7)

OJ Rhif L 62, 15.3.1993, t. 49 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 195, 2.6.2004 t.12).

(8)

OJ Rhif L 125, 23.5.1996, t. 10 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif 188, 18.7.2009, t.14).

(9)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 188, 18.7.2009, t.14).

(10)

OJ Rhif L 18, 23.1.2003, t. 11.

(11)

OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 321.

(12)

OJ Rhif L 21, 28.1.2004, t. 11 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor.

(13)

OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 219/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 87, 31.3.2009, t. 109).

(14)

OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t.55 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 150/2011 (OJ Rhif L 46, 19.2.2011, t. 14).

(15)

OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 206 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 151/2011 (OJ Rhif L 46, 19.2.2011, t. 17).

(16)

OJ Rhif L 165, 30.4.2004, t. 1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 208/2011 (OJ Rhif L 583.3.2011 t. 29).

(17)

OJ Rhif L 35, 8.2.2005, t. 1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 219/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 87, 31.3.2009, t. 109).

(18)

OJ Rhif L 116, 4.5.2007, t. 9.

(19)

OJ Rhif L 328, 24.11.2006, t. 14 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/53/EC (OJ Rhif L 117, 1.5.2008, t. 27).

(20)

OJ Rhif L 192, 23.7.2010, t. 1.

(21)

OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t. 74 fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2011/214/EU (OJ Rhif L90, 6.4.2011, t. 27).

(22)

OJ Rhif L 229, 1.9.2009, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 939/2010 (OJ Rhif L 277, 21.10.2010, t. 4).

(23)

OJ Rhif L 300, 14.11.2009, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2010/63/EU Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 276, 20.10.2010, t. 33).

(24)

OJ Rhif L 279, 22.10.2005, t. 47.

(25)

OJ Rhif L 84, 24.3.2007, t. 7 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 239/2010 (OJ Rhif L 75, 23.3.2010, t. 18).

(26)

OJ Rhif L 130, 15.5.1992, t. 67 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2010/463/EU (OJ Rhif L 220, 21.8.2010, t. 74).

(27)

OJ Rhif L 240, 23.9.2000, t. 14.

(28)

OJ Rhif L 77, 24.3.2009, t. 1.

(29)

O.S. 1974/2211 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn.) ac a fewnforiwyd yn unol â thrwydded o dan y Gorchymyn hwnnw.

(31)

O.S. 1980/14 y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.