xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliadau 16 a 17
RHAN 1 Cyflwyniad
1.Mathau o labeli
2.Amser labelu
3.Amrywogaethau a addaswyd yn enetig
4.Trin hadau â chemegion
RHAN 2 Labeli swyddogol
5.Labeli swyddogol: gofynion cyffredinol
6.Labeli swyddogol ar gyfer hadau cyn-sylfaenol
7.Labeli swyddogol ar gyfer hadau sylfaenol a hadau ardystiedig
8.Labeli swyddogol ar gyfer hadau masnachol sydd heb eu hardystio o ran amrywogaeth
9.Labelu cymysgeddau
RHAN 3 Gofynion ychwanegol ynghylch labeli swyddogol ar gyfer rhywogaethau penodol
10.Cyflwyniad
11.Gofynion ychwanegol ar gyfer hadau betys
12.Gofynion ychwanegol ar gyfer hadau ŷd
13.Gofynion ychwanegol ar gyfer hadau porthiant
14.Gofynion ychwanegol ar gyfer hadau olew a ffibr
RHAN 4 Labeli cyflenwr
15.Ystyr “label cyflenwr”
16.Labelu pecyn
17.Cyfeiriadau at bwysau yn y Rhan hon
18.Hadau bridiwr: labeli cyflenwr
19.Hadau betys: labeli cyflenwr
20.Hadau ŷd: labeli cyflenwr
21.Hadau porthiant (amaethyddol neu amwynderol): pecynnau y caniateir eu labelu gyda label cyflenwr
22.Hadau porthiant ac eithrio cymysgedd: gofynion labelu
23.Cymysgedd o hadau porthiant: gofynion labelu
24.Hadau olew a ffibr: labeli cyflenwr
25.Hadau llysiau: labeli cyflenwr
RHAN 5 Gwerthiannau o hadau rhydd
26.Gwerthiannau o hadau rhydd
1.—(1) Mae dau fath o label ar gyfer hadau, sef labeli swyddogol a labeli cyflenwr.
(2) Rhaid defnyddio label cyflenwr ar becyn o hadau bridiwr, a chaniateir ei ddefnyddio ar becyn bach o hadau fel a bennir yn Rhan 4 o'r Atodlen hon ac ar becyn o hadau llysiau safonol o unrhyw faint.
(3) Rhaid defnyddio label swyddogol ar unrhyw becyn arall o hadau.
2. Rhaid labelu pecyn ar yr adeg y caiff ei selio.
3. Os yw amrywogaeth wedi ei haddasu yn enetig, rhaid datgan hynny ar y label.
4. Os rhoddwyd unrhyw driniaeth gemegol i hadau, rhaid datgan y ffaith honno ar y label, a natur y driniaeth neu enw perchnogol y cemegyn a ddefnyddiwyd.
5.—(1) Label swyddogol yw label a gyflenwir gan Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid iddo fod ar y tu allan i'r pecyn.
(3) Rhaid iddo beidio â bod wedi ei ddefnyddio o'r blaen.
(4) Rhaid iddo fod naill ai'n adlynol neu wedi ei gysylltu gyda dyfais selio a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.
(5) Rhaid iddo fod mewn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.
(6) Rhaid iddo fod yn 110 mm x 67 mm o leiaf.
(7) Rhaid iddo ddwyn rhif unigryw.
(8) Rhaid iddo gael ei osod ynghlwm wrth y pecyn gan swyddog awdurdodedig Gweinidogion Cymru, samplwr hadau trwyddedig neu unrhyw berson sy'n cael ei oruchwylio gan berson o'r fath.
(9) Fel rhanddirymiad o'r uchod, yn achos hadau ŷd, hadau porthiant a hadau olew a ffibr a ddosbarthwyd, ym mhob achos, fel CS, C1, C2 neu C3, ceir defnyddio'r bag cyfan fel y label, ar yr amod y gwneir hynny gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru a bod y bag o'r un lliw â'r lliw sy'n ofynnol ar gyfer y label.
6.—(1) Rhaid i'r canlynol ymddangos ar label swyddogol ar hadau cyn-sylfaenol—
(a)enw'r awdurdod ardystio;
(b)enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;
(c)rhif cyfeirnod y lot hadau;
(ch)y wlad y'u cynhyrchwyd ynddi;
(d)mis a blwyddyn y selio, a fynegir fel “sealed ...” (mis a blwyddyn);
(dd)y rhywogaeth (rhaid defnyddio'r enw botanegol, y ceir ei roi yn ei ffurf gryno a heb gynnwys enwau'r awdurdodau, ac eithrio yn achos hadau betys neu lysiau, pryd y caniateir defnyddio'r enw cyffredin);
(e)yr amrywogaeth;
(f)y disgrifiad “pre-basic” neu “PB”;
(ff)y pwysau net neu gros datganedig neu'r nifer datganedig o hadau (neu, yn achos betys, y nifer datganedig o glystyrau neu hadau pur);
(g)os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r hadau a chyfanswm y pwysau (neu, yn achos betys, y gymhareb rhwng pwysau'r hadau pur a chyfanswm y pwysau);
(ng)nifer y cenedlaethau a ragflaenodd y categori “hadau ardystiedig (CS)” neu “hadau ardystiedig cenhedlaeth gyntaf (C1)”.
(2) Rhaid i'r label fod yn wyn, gyda streipen groeslinol fioled ar ei draws.
7.—(1) Rhaid i'r canlynol ymddangos ar label swyddogol ar hadau ardystiedig—
(a)y geiriau “EU Rules and standards”;
(b)enw'r awdurdod ardystio;
(c)enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;
(ch)rhif cyfeirnod y lot hadau;
(d)naill ai—
(i)mis a blwyddyn y selio, a fynegir fel “sealed ...” (mis a blwyddyn); neu
(ii)mis a blwyddyn y samplu swyddogol diwethaf at ddibenion ardystio, a fynegir fel “sampled ...” (mis a blwyddyn);
(dd)y rhywogaeth (rhaid defnyddio'r enw botanegol, naill ai'n llawn neu yn ei ffurf gryno, ac eithrio yn achos hadau betys neu lysiau, pryd y caniateir defnyddio'r enw cyffredin);
(e)yr amrywogaeth;
(f)y categori;
(ff)y wlad y'u cynhyrchwyd ynddi;
(g)y pwysau net neu gros datganedig neu'r nifer datganedig o hadau neu, yn achos betys, y nifer datganedig o glystyrau o hadau pur;
(ng)os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r hadau a chyfanswm y pwysau (neu, yn achos betys, y gymhareb rhwng pwysau'r hadau pur a chyfanswm y pwysau);
(h)os yw'r egino wedi ei ailbrofi, y gair “retested” a ddilynir gan fis a blwyddyn yr ailbrofi.
(2) Rhaid i'r label fod o liw—
(a)gwyn ar gyfer hadau sylfaenol;
(b)glas ar gyfer hadau ardystiedig a hadau ardystiedig o'r genhedlaeth gyntaf;
(c)coch ar gyfer hadau ardystiedig o'r ail a'r drydedd genhedlaeth.
8.—(1) Rhaid i'r canlynol ymddangos ar label swyddogol ar hadau masnachol sydd heb eu hardystio o ran amrywogaeth—
(a)y geiriau “EU Rules and standards”;
(b)enw'r awdurdod ardystio;
(c)enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;
(ch)rhif cyfeirnod y lot hadau;
(d)naill ai—
(i)mis a blwyddyn y selio, a fynegir fel “sealed ...” (mis a blwyddyn); neu
(ii)mis a blwyddyn y samplu swyddogol diwethaf at ddibenion ardystio, a fynegir fel “sampled ...” (mis a blwyddyn);
(dd)y rhywogaeth (rhaid defnyddio'r enw botanegol, naill ai'n llawn neu yn ei ffurf gryno, ac eithrio, yn achos hadau betys neu lysiau, pan ganiateir defnyddio'r enw cyffredin);
(e)y geiriau “commercial seed not certified as to variety”;
(f)y wlad neu'r rhanbarth y'u cynhyrchwyd ynddi;
(ff)y pwysau net neu gros datganedig neu'r nifer datganedig o hadau;
(g)os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r hadau a chyfanswm y pwysau;
(ng)pan fo'r egino wedi ei ailbrofi, y gair “retested” a ddilynir gan fis a blwyddyn yr ailbrofi.
(2) Rhaid i'r label fod o liw brown.
9.—(1) Rhaid i'r canlynol ymddangos ar label swyddogol ar gymysgedd o hadau—
(a)yr awdurdod sy'n gyfrifol am selio'r pecyn;
(b)enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;
(c)rhif cyfeirnod y lot hadau;
(ch)mis a blwyddyn y selio, a fynegir fel “sealed ...” (mis a blwyddyn);
(d)y rhywogaeth, y categori, yr amrywogaeth, y wlad y'i cynhyrchwyd ynddi a'r gyfran yn ôl pwysau ar gyfer pob un o'r cydrannau;
(dd)y pwysau net neu gros datganedig neu'r nifer datganedig o hadau;
(e)pan ddynodir y pwysau, ac os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r hadau pur a chyfanswm y pwysau;
(f)pan fo pob un o gydrannau'r cymysgedd wedi eu hailbrofi o ran egino, y gair “retested” a ddilynir gan fis a blwyddyn yr ailbrofi;
(ff)yn achos ydau, y geiriau “mixture of” a ddilynir gan y rhywogaethau a'r amrywogaethau a datganiad cymhwyso bod y cymysgedd yn effeithiol rhag lledaenu organeb niweidiol;
(g)yn achos planhigion porthiant, y geiriau “mixture of seeds for” a ddilynir gan ddisgrifiad o'r defnydd y bwriedir ar eu cyfer.
(2) Ond ar gyfer cymysgeddau porthiant a gofrestrwyd gyda Gweinidogion Cymru, os yw'r label yn dangos enw cofrestredig y cymysgedd, caniateir hepgor y canrannau yn ôl pwysau o bob un o'r cydrannau, ar yr amod—
(a)y cyflenwir yr wybodaeth honno i'r cwsmer os gofynnir amdani, a
(b)y rhoddir gwybod i gwsmeriaid y cânt ofyn am y manylion hyn.
(3) Rhaid i'r label fod o liw gwyrdd.
10. Mae'r gofynion canlynol, sydd ar gyfer rhywogaethau penodol, yn ychwanegol at y gofynion yn Rhan 2.
11. Rhaid i label swyddogol ar gyfer hadau betys bennu—
(a)“monogerm” neu “precision” fel y bo'n briodol;
(b)“fodder beet” neu “sugar beet” fel y bo'n briodol.
12.—(1) Rhaid i label swyddogol ar gyfer haidd noeth C1 ac C2 gynnwys y geiriau “minimum germination capacity 75%”.
(2) Rhaid i label swyddogol ar gyfer hadau ŷd sylfaenol o amrywogaethau sy'n hybridiau neu'n llinellau mewnfrid gynnwys—
(a)ar gyfer hadau sylfaenol pan fo'r hybrid neu'r llinell fewnfrid y mae'r hadau yn perthyn iddo neu iddi wedi ei dderbyn neu wedi ei derbyn ar Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu'r Catalog Cyffredin, yr enw y'i derbyniwyd yn swyddogol odano, gyda chyfeiriad at yr amrywogaeth derfynol neu hebddo, ac os bwriedir yr hadau yn unig fel cydran ar gyfer amrywogaethau terfynol, y gair “component”;
(b)ar gyfer hadau sylfaenol mewn achosion eraill, enw'r gydran y mae'r hadau sylfaenol yn perthyn iddi, y caniateir ei ddangos ar ffurf cod, ynghyd â chyfeiriad at yr amrywogaeth derfynol, gan gyfeirio neu beidio at ei swyddogaeth (gwryw neu fenyw) ynghyd â'r gair “component”.
(3) Rhaid i label swyddogol ar gyfer hadau ŷd ardystiedig (CS, C1 neu C2) o amrywogaethau sy'n hybridiau neu'n llinellau mewnfrid gynnwys y gair “hybrid” ar ôl yr amrywogaeth.
(4) Pan fo hadau'n cael eu marchnata fel hadau o safon wirfoddol uwch rhaid i'r label gynnwys y llythrennau “HVS”.
13. Rhaid i label swyddogol ar gyfer hadau porthiant gynnwys—
(a)ar gyfer hadau ardystiedig o'r ail genhedlaeth a chenedlaethau dilynol, y nifer o genedlaethau ar ôl hadau sylfaenol;
(b)yn achos hadau o amrywogaethau glaswellt, na chynhaliwyd unrhyw archwiliad swyddogol o'u gwerth o ran eu tyfu a'u defnyddio, y geiriau “Not intended for fodder production”;
(c)os yw'r hadau'n cael eu marchnata ar y safon wirfoddol uwch, y llythrennau “HVS”.
14.—(1) Rhaid i label swyddogol ar gyfer hadau olew a ffibr sylfaenol o amrywogaethau sy'n hybridiau neu'n llinellau mewnfrid gynnwys—
(a)ar gyfer hadau sylfaenol pan fo'r hybrid neu'r llinell fewnfrid y mae'r hadau yn perthyn iddo neu iddi wedi ei dderbyn, neu wedi ei derbyn, ar Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu'r Catalog Cyffredin, yr enw y'i derbyniwyd yn swyddogol odano, gyda chyfeiriad at yr amrywogaeth derfynol neu hebddo, ac os bwriedir yr hadau i'w defnyddio yn unig fel cydran ar gyfer amrywogaethau terfynol, y gair “component”;
(b)ar gyfer hadau sylfaenol mewn achosion eraill, enw'r gydran y mae'r hadau sylfaenol yn perthyn iddi, y caniateir ei roi ar ffurf cod, ynghyd â chyfeiriad at yr amrywogaeth derfynol, gan gyfeirio neu beidio at ei swyddogaeth (gwryw neu fenyw) ynghyd â'r gair “component”.
(2) Rhaid i label swyddogol ar gyfer hadau olew a ffibr ardystiedig (CS, C1 neu C2) o amrywogaethau sy'n hybridiau neu'n llinellau mewnfrid gynnwys y gair “hybrid” ar ôl yr amrywogaeth.
(3) Rhaid i label swyddogol ar gyfer hadau ardystiedig uniad amrywogaethol fod o liw glas, gyda streipen werdd groeslinol ar ei draws.
15. Label cyflenwr yw label nas darparwyd gan Weinidogion Cymru.
16. Rhaid i label cyflenwr naill ai gael ei gysylltu â'r pecyn yn yr un modd â label swyddogol neu gael ei argraffu'n annileadwy ar y pecyn.
17. Yn y Rhan hon, nid yw'r cyfeiriadau at bwysau yn cynnwys unrhyw blaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill.
18.—(1) Rhaid i'r canlynol ymddangos ar label cyflenwr ar becyn o hadau bridiwr—
(a)enw, cyfeiriad a rhif cofrestru'r cyflenwr sy'n gyfrifol am osod y label;
(b)rhif cyfeirnod y lot hadau;
(c)y rhywogaeth;
(ch)yr amrywogaeth;
(d)y geiriau “breeder’s seed”;
(dd)y pwysau net neu gros datganedig neu'r nifer datganedig o hadau.
(2) Rhaid i'r label fod o liw llwydfelyn.
19.—(1) Ceir defnyddio label cyflenwr ar becyn bach o hadau betys.
(2) Pecyn bach o hadau betys (a adwaenir fel “pecyn UE bach” (“small EU package”)) yw pecyn sydd—
(a)yn achos hadau betys sylfaenol ac ardystiedig o amrywogaethau trachywir neu uneginol, naill ai'n pwyso dim mwy na 2.5 kg neu'n cynnwys dim mwy na 100,000 o glystyrau;
(b)ar gyfer yr holl hadau betys eraill, yn pwyso dim mwy na 10kg.
(3) Rhaid i'r label fod o'r un lliw â'r label swyddogol ar gyfer y categori hwnnw o hadau.
(4) Rhaid i'r canlynol ymddangos ar y label—
(a)y geiriau “Small EU package”;
(b)enw, cyfeiriad a rhif adnabod y person sy'n gosod y label;
(c)y rhif cyfresol;
(ch)y gwasanaeth a ddyrannodd y rhif cyfresol;
(d)enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;
(dd)y rhif cyfeirnod os nad yw'r rhif cyfresol swyddogol yn caniatáu adnabod y lot;
(e)y rhywogaeth;
(f)naill ai “sugar beet” neu “fodder beet” fel y bo'n briodol;
(ff)yr amrywogaeth;
(g)y categori;
(ng)y pwysau net neu gros neu'r nifer o glystyrau neu hadau pur;
(h)pan ddynodir y pwysau ac os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r clystyrau neu'r hadau pur a chyfanswm y pwysau;
(i)naill ai “monogerm” neu “precision” fel y bo'n briodol.
20.—(1) Ceir defnyddio label cyflenwr ar becyn bach o hadau ŷd.
(2) Pecyn bach o hadau ŷd yw pecyn o unrhyw hadau ardystiedig, neu unrhyw gymysgedd o hadau ardystiedig, nad yw'n fwy na 15kg.
(3) Rhaid i'r label fod o'r un lliw â'r label swyddogol ar gyfer y categori hwnnw o hadau.
(4) Rhaid i'r canlynol ymddangos ar y label—
(a)y geiriau “EU rules and standards”;
(b)enw, cyfeiriad a rhif cofrestru'r cyflenwr sy'n gyfrifol am osod y label;
(c)rhif cyfeirnod y lot hadau;
(ch)y rhywogaeth;
(d)yr amrywogaeth;
(dd)y categori;
(e)y pwysau datganedig net neu'r nifer datganedig o hadau;
(f)ar gyfer amrywogaethau hybrid o indrawn, y gair “hybrid”;
(ff)yn achos hadau C1 ac C2 o haidd noeth, y geiriau “minimum germination capacity 75%”.
21.—(1) Ceir defnyddio label cyflenwr ar becyn bach o hadau porthiant amaethyddol neu amwynderol (gan gynnwys cymysgedd o hadau porthiant).
(2) Mae pecyn bach o hadau porthiant naill ai'n becyn UE bach 'A' neu'n becyn UE bach 'B'.
(3) Pecyn UE bach 'A' yw pecyn sy'n cynnwys cymysgedd o hadau nas bwriedir ar gyfer cynhyrchu planhigion porthiant, ac sydd â'i bwysau net yn ddim mwy na 2kg.
(4) Pecyn UE bach 'B' yw pecyn sy'n cynnwys—
(a)hadau sylfaenol,
(b)hadau ardystiedig (CS, C1 neu C2),
(c)hadau masnachol, neu
(ch)(onid yw'r pecyn yn becyn UE bach 'A') cymysgedd o hadau,
ac sydd â'i bwysau net yn ddim mwy na 10 kg.
22.—(1) Rhaid i label cyflenwr ar becyn bach o hadau porthiant (ac eithrio cymysgedd cadwraeth, fel y gweler ym mharagraff 23) fod o'r un lliw â'r label swyddogol ar gyfer y categori hwnnw o hadau.
(2) Rhaid i'r canlynol ymddangos ar y label—
(a)y geiriau “small EU 'B' package”;
(b)enw, cyfeiriad a rhif adnabod y person sy'n gosod y label;
(c)y rhif cyfresol;
(ch)y rhif cyfeirnod os nad yw'r rhif cyfresol yn caniatáu adnabod y lot hadau;
(d)y rhywogaeth;
(dd)pwysau net neu gros yr hadau pur neu nifer yr hadau pur;
(e)os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r hadau a chyfanswm y pwysau;
(f)yn achos hadau ardystiedig—
(i)yr amrywogaeth;
(ii)y categori;
(iii)ar gyfer hadau glaswellt o amrywogaeth nad yw archwiliad o'i gwerth o ran ei thyfu a'i defnyddio yn ofynnol, y geiriau “not intended for the production of fodder plants”;
(ff)yn achos hadau masnachol, y geiriau “commercial seed”.
23.—(1) Rhaid i label cyflenwr ar becyn bach o gymysgedd o hadau porthiant fod o'r un lliw â'r label swyddogol ar gyfer y categori hwnnw o hadau.
(2) Rhaid i'r canlynol ymddangos ar y label—
(a)y geiriau “small EU 'A' package” neu “small EU 'B' package” fel y bo'n briodol;
(b)enw, cyfeiriad a rhif adnabod y person sy'n gosod y label;
(c) ar gyfer pecyn UE bach 'A'—
(i)y rhif cyfeirnod sy'n caniatáu adnabod y lotiau o hadau a ddefnyddiwyd yn y cymysgedd;
(ii)enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;
(ch)ar gyfer pecyn UE bach 'B'—
(i)y rhif cyfresol a ddyroddwyd yn swyddogol;
(ii)y person a ddyrannodd y rhif cyfresol;
(iii)enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;
(iv)y rhif cyfeirnod os nad yw'r rhif cyfresol swyddogol yn caniatáu adnabod y lotiau o hadau a ddefnyddiwyd;
(d)y geiriau “Seed-mixture for ... (y defnydd a fwriedir)”;
(dd)y pwysau net neu gros neu nifer yr hadau pur;
(e)os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r hadau a chyfanswm y pwysau;
(f)y canrannau, yn ôl pwysau, o'r gwahanol gydrannau, sydd i'w dangos fesul rhywogaeth, a phan fo'n briodol, fesul amrywogaeth.
(3) Ond ar gyfer cymysgeddau a gofrestrwyd gyda Gweinidogion Cymru, os yw'r label yn dangos enw cofrestredig y cymysgedd, caniateir hepgor y canrannau yn ôl pwysau o bob un o'r cydrannau, ar yr amod—
(a)y cyflenwir yr wybodaeth honno i'r cwsmer os gofynnir amdani, a
(b)y rhoddir gwybod i gwsmeriaid y cânt ofyn am y manylion hynny.
24.—(1) Ceir defnyddio label cyflenwr ar becyn bach o hadau olew a ffibr.
(2) Pecyn bach o hadau olew a ffibr yw pecyn o unrhyw hadau olew a ffibr ardystiedig neu fasnachol, nad yw ei bwysau'n fwy na 15 kg.
(3) Rhaid i'r label fod o'r un lliw â'r label swyddogol ar gyfer y categori hwnnw o hadau.
(4) Rhaid i'r canlynol ymddangos ar y label—
(a)y geiriau “EU Rules and standards”;
(b)enw, cyfeiriad a rhif cofrestru'r cyflenwr sy'n gyfrifol am osod y label;
(c)rhif cyfeirnod y lot hadau;
(ch)y rhywogaeth (rhaid defnyddio'r enw botanegol, naill ai'n llawn neu yn ei ffurf gryno);
(d)yr amrywogaeth;
(dd)ar gyfer hadau ardystiedig, y categori;
(e)ar gyfer hadau masnachol, y geiriau “commercial seed (not certified as to variety)”;
(f)pwysau datganedig net neu gros clystyrau o hadau pur (ac eithrio ar gyfer pecynnau nad ydynt yn fwy na 500 gram);
(ff)os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r hadau a chyfanswm y pwysau.
25.—(1) Ceir defnyddio label cyflenwr ar—
(a)pecyn o hadau llysiau safonol, beth bynnag fo'i bwysau;
(b)pecyn bach o hadau llysiau ardystiedig (CS); ac
(c)pecyn bach o gymysgeddau o hadau llysiau safonol o wahanol amrywogaethau o'r un rhywogaeth.
(2) Pecyn bach yw pecyn o hadau sy'n pwyso dim mwy nag—
(a)ar gyfer codlysiau, 5 kg;
(b)ar gyfer merllys, betys coch, moron, dail betys neu fetys ysbigoglys, gowrdiau, maros, nionod, radis, ysbigoglys neu faip, 500 gram;
(c)ar gyfer unrhyw rywogaeth arall o lysiau, 100 gram.
(3) Rhaid i'r label fod o liw melyn tywyll ar gyfer hadau safonol neu las ar gyfer hadau ardystiedig.
(4) Rhaid i'r canlynol ymddangos ar label pecyn o hadau safonol (ac eithrio cymysgedd o wahanol amrywogaethau o hadau safonol o'r un rhywogaeth) a hadau ardystiedig—
(a)y geiriau “EU rules and standards”;
(b)enw, cyfeiriad a rhif adnabod y person sy'n gosod y label;
(c)y flwyddyn farchnata pan seliwyd y pecyn neu pan wnaed yr archwiliad egino diwethaf (ceir dynodi diwedd y flwyddyn farchnata);
(ch)y rhywogaeth;
(d)yr amrywogaeth;
(dd)y categori: yn achos pecynnau bach, ceir marcio hadau ardystiedig gyda'r llythyren 'C' neu 'Z' a hadau safonol gyda'r llythrennau 'ST';
(e)yn achos hadau safonol, y rhif cyfeirnod a roddwyd gan y person sy'n gyfrifol am osod y labeli;
(f)yn achos hadau ardystiedig y rhif cyfeirnod sy'n caniatáu adnabod y lot ardystiedig;
(ff)y pwysau net neu gros datganedig neu'r nifer datganedig o hadau, ac eithrio ar gyfer pecynnau bach o hyd at 500 gram;
(g)pan ddynodir y pwysau ac os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r clystyrau neu'r hadau pur a chyfanswm y pwysau.
(5) Rhaid i'r canlynol ymddangos ar y label ar becyn o gymysgedd o wahanol amrywogaethau o hadau safonol o'r un rhywogaeth—
(a)y geiriau “EU rules and standards”;
(b)enw, cyfeiriad a rhif adnabod y person sy'n gosod y label;
(c)y flwyddyn y seliwyd y pecyn, a fynegir fel “sealed...[blwyddyn]” neu flwyddyn y samplu diwethaf at ddibenion y prawf egino diwethaf a fynegir fel “sampled...[blwyddyn]” (ceir ychwanegu'r geiriau “use before...[dyddiad]”);
(ch)y geiriau “mixture of varieties of...[enw'r rhywogaeth]”;
(d)yr amrywogaethau;
(dd)y gyfran o'r amrywogaethau, a fynegir fel y pwysau net neu fel y nifer o hadau;
(e)y rhif cyfeirnod a roddwyd gan y person sy'n gyfrifol am osod y labeli;
(f)y pwysau net neu gros neu nifer yr hadau;
(ff)os nodir y pwysau ac os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r clystyrau neu'r hadau pur a chyfanswm y pwysau.
26.—(1) Ceir gwerthu hadau rhydd (heb eu pecynnu) yn unol â'r paragraff hwn.
(2) Y meintiau mwyaf y caniateir eu gwerthu yw—
(a)ar gyfer hadau porthiant—
(i)3 kg yn achos ffa'r maes a phys y maes;
(ii)2 kg yn achos yr holl hadau porthiant eraill;
(iii)7 kg yn achos cymysgedd o hadau;
(b)ar gyfer hadau ŷd, 5 kg;
(c)ar gyfer hadau betys, 2.5 kg;
(ch)ar gyfer hadau olew a ffibr, 5 kg;
(d)ar gyfer hadau llysiau—
(i)3 kg yn achos codlysiau;
(ii)1 kg yn achos yr holl hadau llysiau eraill.
(3) Rhaid i'r gwerthiant fod i'r defnyddiwr terfynol, a rhaid i'r wybodaeth a fyddai wedi bod yn ofynnol ar becyn o'r hadau hynny gael ei harddangos yn agos at y man gwerthu.