Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Mehefin 2013.
Dehongli
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrwyd yn y gofrestr o filfeddygon a gedwir o dan adran 2 o Ddeddf Milfeddygon 1966(); ac
ystyr “swyddog milfeddygol” (“veterinary officer”) yw milfeddyg a gyflogir fel y cyfryw gan Weinidogion Cymru.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at—
(a) Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 17 Tachwedd 2003, ar reoli salmonela a chyfryngau milheintiol penodedig eraill sy’n ymledu drwy fwyd(),
(b) Cyfarwyddeb y Cyngor 90/429/EEC sy’n gosod y gofynion o ran iechyd anifeiliaid sy’n gymwys i fasnach o fewn y Gymuned mewn semen anifeiliaid domestig o’r rhywogaethau mochaidd, ac i fewnforion o’r semen hwnnw(), neu
(c) Cyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ar 30 Tachwedd 2009 ar amodau iechyd anifeiliaid, sy’n llywodraethu’r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned, a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd(),
i’w ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
Ad-dalu ffioedd
3. Os caiff unrhyw gais y mae ffi yn daladwy amdano o dan neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn ei dynnu’n ôl cyn penderfynu’r cais, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu i’r ceisydd pa bynnag gyfran o unrhyw ffi a dalwyd mewn perthynas â’r cais hwnnw sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, o ystyried unrhyw gostau rhesymol a dynnwyd gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais.
Y rhaglenni cenedlaethol rheoli salmonela (milheintiau): diwygio a ffioedd
4.—(1) Mae Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Dofednod (Cymru) 2008() wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2 (dehongli), yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau canlynol—
“ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010” (“Commission Regulation (EU) No 200/2010”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran targed yr Undeb ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau Salmonella mewn heidiau bridio llawn dwf o Gallusgallus();
ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011” (“Commission Regulation (EU) No 517/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran targed yr Undeb ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau Salmonella penodol mewn ieir dodwyGallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 a Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010();”.
(3) Yn erthygl 3 (yr awdurdod cymwys), yn lle paragraffau (a) a (b) (ond nid yr “ac” ar y diwedd) rhodder—
“(a)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010;
(b)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011;”.
(4) Yn yr Atodlen—
(a)ym mharagraff 8 (dull samplu yn ystod y cyfnod dodwy)—
(i)yn lle “Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010”, a
(ii)yn lle “Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011”; a
(b)ym mharagraff 12 (dyletswyddau’r person sydd â gofal labordy)—
(i)yn is-baragraff (3)(a), yn lle “3.1.2 o’r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005” rhodder “3.1.3 o’r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010”,
(ii)yn is-baragraff (3)(b), yn lle “3.1.3” rhodder “3.1.4”, a
(iii)yn is-baragraff (4)(a), yn lle “Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011”.
5.—(1) Mae Atodlen 1 yn pennu’r ffioedd sy’n daladwy am weithgareddau a gynhelir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â rheoli Salmonella yn unol â’r Rhaglen Reoli Genedlaethol() berthnasol, a sefydlwyd gan neu o dan Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor().
(2) Yn Atodlen 1—
(a)mae’r ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal o ddaliad dofednod, am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw;
(b)mae’r ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy, am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw; ac
(c)mae’r ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal o heidiau dofednod, am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 3, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
Y Cynllun Iechyd Dofednod: ffioedd
6. Mae ffioedd wedi eu pennu fel a ganlyn yn Atodlen 2, am weithgareddau a gynhelir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r cynllun iechyd dofednod() a sefydlwyd o dan Erthyglau 2 a 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ac Atodiad II i’r Gyfarwyddeb honno ac a weithredwyd gan baragraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011()—
(a)yn Nhabl 1, mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr, am y gweithgareddau cymeradwyo a chofrestru a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl hwnnw, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw; a
(b)yn Nhabl 2, mae’r ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy, am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl hwnnw, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
Semen buchol: ffioedd
7.—(1) Mae Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008() (“Rheoliadau 2008”) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn lle rheoliad 41 rhodder—
“41. Mae’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru fel y darperir gan reoliad 7(4) o Reoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013.”
(3) Hepgorer rheoliad 42.
(4) Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn yn daladwy am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno; ac y mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen honno ac a ddefnyddir hefyd yn Rheoliadau 2008 yr un ystyron ag yn Rheoliadau 2008.
Semen mochaidd: ffioedd
8.—(1) Mae Atodlen 4 yn pennu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â dyroddi trwyddedau neu gymeradwyaethau a chynnal profion ac archwiliadau o dan—
(a)Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (Cymru a Lloegr) 1964() (“Rheoliadau 1964”); neu
(b)Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (CEE) 1992() (“Rheoliadau 1992”).
(2) Mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geisydd am drwydded neu’r gymeradwyaeth ar gyfer gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl yn Atodlen 4, neu gan ddeiliad y cyfryw drwydded neu gymeradwyaeth, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
(3) Yn Atodlen 4 ystyr “canolfan ffrwythloni artiffisial” (“artificial insemination centre”) yw mangre—
(a)y mae trwydded mewn grym mewn perthynas â hi, o dan reoliad 4(1) o Reoliadau 1964, neu
(b)sydd wedi ei chymeradwyo o dan reoliad 2(2) neu (3) o Reoliadau 1992.
Embryonau buchol (casglu, cynhyrchu a throsglwyddo): ffioedd
9.—(1) Mae’r rheoliad hwn ac Atodlen 5 yn pennu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am weithgareddau mewn perthynas â chais am gymeradwyaeth neu ddeiliad cymeradwyaeth o dan Reoliadau Embryonau Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) 1995() (“Rheoliadau 1995”).
(2) Yn Atodlen 5, mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr am gymeradwyaeth, neu gan ddeiliaid cymeradwyaeth, o dan Reoliadau 1995 am weithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
Gwirio llwythi o anifeiliaid byw mewn arolygfeydd ffin: ffioedd
10.—(1) Mae’r ffioedd a bennir yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 6 yn daladwy pan gynhelir archwiliadau o lwythi o anifeiliaid byw o drydedd wlad mewn arolygfeydd ffin, yn unol â rheoliad 15 (gweithdrefn wrth fewnforio) o Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 ().
(2) Pennir y ffioedd sy’n daladwy am archwilio llwyth o anifeiliaid byw, a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl yn Atodlen 6, yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys os ymgymerir ag archwilio unrhyw anifail byw mewn arolygfa ffin (naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol)—
(a)yn ystod penwythnos;
(b)ar ôl 17:00 o’r gloch ond cyn 08:30 o’r gloch ar ddiwrnod gwaith; neu
(c)yn ystod gŵyl gyhoeddus.
(4) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae ffi o £80 yn daladwy am bob cyflenwad sy’n ddarostyngedig i’w archwilio (yn ychwanegol at unrhyw ffi sy’n daladwy o dan Atodlen 6).
(5) Yn y rheoliad hwn ac Atodlen 6—
(a)ystyr “arolygfa ffin” (“border inspection post”) yw porthladd neu faes awyr a gymeradwywyd fel y cyfryw gan y Comisiwn Ewropeaidd();
(b)ystyr “llwyth” (“consignment”) yw casgliad o anifeiliaid o’r un rhywogaeth, sydd wedi eu cynnwys o dan yr un dystysgrif neu ddogfen filfeddygol;
(c)ystyr “cyflenwad” (“load”) yw un neu ragor o lwythi o anifeiliaid sy’n tarddu o’r un wlad, sydd wedi cyrraedd ar yr un cyfleuster cludo, ac wedi eu cyflwyno ar gyfer eu gwirio yn yr arolygfa ffin ar yr un pryd, gan berson sy’n gyfrifol am eu mewnforio;
(d)ystyr “gŵyl gyhoeddus” (“public holiday”) yw Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(); ac
(e)ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad ac eithrio Aelod-wladwriaeth.
Dirymiadau
11. Mae’r canlynol wedi eu dirymu—
(a)Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial (Gwartheg a Moch) (Ffioedd) 1987();
(b)Rheoliadau Embryonau Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) (Ffioedd) 1995();
(c)Rheoliadau Anifeiliaid (Mewnforion o Drydydd Gwledydd) (Ffioedd) 1997();
(d)Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008(); ac
(e)Rheoliadau’r Cynllun Iechyd Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2011().
Alun Davies
Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
Rydym yn cydsynio
Mark Lancaster
Robert Goodwill
Dau oArglwyddi Gomisiynwyr Trysorlys EiMawrhydi