xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
14.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan fo—
(i)Gweinidogion Cymru wedi cael eu hysbysu o dan reoliad 5(1) fod amheuaeth fod ceffyl neu garcas mewn lladd-dy wedi ei heintio â feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau, a
(ii)arolygydd milfeddygol yn barnu bod angen ymchwilio rhagor i’r posibilrwydd fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol; neu
(b)pan fo arolygydd milfeddygol, am unrhyw reswm arall, yn barnu bod angen ymchwilio rhagor i’r posibilrwydd fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol mewn lladd-dy.
(2) Pan fo paragraff (1)(a) yn gymwys, rhaid i arolygydd milfeddygol roi gwybod (ar lafar neu fel arall) i’r person a roddodd yr hysbysiad fod angen ymchwilio rhagor, ac yna bydd y rheolaethau sydd ym mharagraff (5) yn gymwys.
(3) Rhaid i arolygydd milfeddygol fynd i’r lladd-dy ac archwilio’r ceffyl neu’r carcas hysbysedig, a chaiff archwilio unrhyw geffyl neu garcas arall yno y mae’r arolygydd milfeddygol yn barnu sy’n briodol.
(4) Pan fo paragraff (1)(b) yn gymwys, caiff arolygydd milfeddygol, drwy gyflwyno hysbysiad i’r person sy’n gyfrifol am y lladd-dy, osod y rheolaethau sydd ym mharagraff (5).
(5) Dyma’r rheolaethau, sef bod yn rhaid i’r person sy’n gyfrifol am y lladd-dy sicrhau—
(a)nad oes yr un ceffyl na charcas yn cael ei symud o’r lladd-dy,
(b)nad yw unrhyw geffyl hysbysedig ac unrhyw geffyl arall o’r un fangre â’r ceffyl hysbysedig yn cael ei gigydda, oni chaiff ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd milfeddygol, ac
(c)os yw unrhyw geffyl hysbysedig neu unrhyw geffyl o’r un fangre â cheffyl hysbysedig eisoes wedi cael ei gigydda, neu’n cael ei gigydda wedi hynny, neu wedi marw, fod ei garcas yn cael ei nodi’n benodol a’i gadw yn y lladd-dy hyd oni fydd arolygydd milfeddygol wedi ei archwilio ac wedi cymryd samplau os yw’n barnu bod angen hynny.