Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision Hafan Lydstep 2013 a daw i rym ar 13 Rhagfyr 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “yr Ardal” (“the Area”) yw’r ardal o wely’r môr ger Hafan Lydstep, Sir Benfro, a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn;
ystyr “y bysgodfa” (“the fishery”) yw’r hawl i bysgodfa unigol a grëir gan erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn;
ystyr “cragen las” (“mussel”) yw unrhyw bysgodyn cragen o’r math Mytilus edulis;
ystyr “cyfesuryn” (“co-ordinate”) yw cyfesuryn lledred a hydred yn System Geodetig Fyd-eang 1984;
mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006();
ystyr “y Grantî” (“the Grantee”) yw Pembrokeshire Seafarms Ltd (Rhif y Cwmni: 07587777) sydd â’i swyddfa gofrestredig yn 91 New Road, Ynysmeudwy, Pontardawe, Abertawe, SA8 4PP neu pa bynnag berson arall sydd â hawl i’r bysgodfa am y tro; ac
ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw unrhyw berson sydd, neu yr ystyrir ei fod, yn ymgymerydd statudol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth o Ran 11 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990().
Yr hawl i bysgodfa
3. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, mae gan y Grantî yr hawl i bysgodfa unigol am gregyn gleision o fewn yr Ardal am gyfnod o 15 mlynedd sy’n dechrau ar 13 Rhagfyr 2013.
Marcio terfynau’r Ardal
4. Rhaid i’r Grantî farcio terfynau’r Ardal ym mha bynnag fodd a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd, a rhaid iddo gynnal y marcwyr hynny yn eu lleoedd ac mewn cyflwr da.
Manylion Daliadau
5.—(1) Rhaid i’r Grantî gyflwyno i Weinidogion Cymru fanylion y daliadau—
(a)am y cyfnod o 13 Rhagfyr 2013 i 31 Mawrth 2014 ar 31 Gorffennaf 2014 neu cyn hynny; ac wedi hynny
(b)ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill i 31 Mawrth ar 31 Gorffennaf neu cyn hynny yn y flwyddyn y mae’r cyfnod hwnnw’n dod i ben.
(2) Rhaid i fanylion daliadau at ddibenion paragraff (1) gofnodi—
(a)cyfanswm pwysau byw blynyddol y grawn cregyn gleision hynny a heuwyd yn y bysgodfa;
(b)lleoliad y ffynhonnell y daeth y grawn cregyn gleision hynny ohoni;
(c)cyfanswm pwysau byw blynyddol yr holl gregyn gleision hynny a gymerwyd o’r bysgodfa;
(d)lleoliad y man y cymerwyd y cregyn gleision hynny ohono; a
(e)pa bynnag wybodaeth bellach a fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd ac yr hysbysir y Grantî ohoni.
Cyfrifon o’r incwm a’r gwariant, gwybodaeth arall ac archwilio
6.—(1) Rhaid i’r Grantî roi i Weinidogion Cymru gyfrifon blynyddol o incwm a gwariant y Grantî o dan y Gorchymyn hwn.
(2) Heb leihau dim ar effaith paragraff (1), rhaid i’r Grantî gydymffurfio ag unrhyw gais a wneir gan Weinidogion Cymru am wybodaeth mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn.
(3) Rhaid i’r Grantî ganiatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru archwilio’r Ardal a phob cyfrif a phob dogfen arall ym meddiant y Grantî ac sy’n ymwneud â’r Gorchymyn hwn, a rhaid iddo roi i’r person hwnnw unrhyw wybodaeth ynglŷn â’r materion hyn, y gofynnir amdani gan y person hwnnw.
Hawliau’r Goron
7. Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy’n lleihau effaith unrhyw ystâd, hawl, pŵer, braint neu esemptiad y Goron, ac yn benodol, nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy’n awdurdodi’r Grantî i gymryd, i ddefnyddio neu i ymyrryd mewn unrhyw fodd ag unrhyw ran o lan neu wely’r môr neu lan neu wely unrhyw afon, sianel, cilfach, bae neu foryd neu unrhyw dir, hereditamentau, gwrthrychau neu hawliau o unrhyw ddisgrifiad sy’n eiddo i’w Mawrhydi drwy hawl ei Choron ac o dan reolaeth Comisiynwyr Ystad y Goron.
Hawliau ymgymerwyr statudol
8. Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy’n lleihau effaith unrhyw swyddogaethau statudol a arferir gan ymgymerydd statudol.
Aseinio
9. Ni chaiff y Grantî, heb ganiatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru ymlaen llaw, aseinio’r hawl hwn i bysgodfa, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ffordd arall, i unrhyw berson arall.
Alun Davies
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
18 Tachwedd 2013