Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision Hafan Lydstep 2013

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Close

Print Options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif. 2946 (Cy. 290)

Pysgodfeydd Môr, Cymru

Pysgod Cregyn

Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision Hafan Lydstep 2013

Made

18 Tachwedd 2013

Laid before the National Assembly for Wales

21 Tachwedd 2013

Coming into force

13 Rhagfyr 2013

Gwnaed cais i Weinidogion Cymru gan Pembrokeshire Seafarms Ltd (Rhif y Cwmni: 07587777) (“y Grantî”) am orchymyn sy’n rhoi’r hawl i bysgodfa unigol o dan adran 1 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967(1)(“y Ddeddf”).

Paratowyd Gorchymyn drafft gan Weinidogion Cymru a chyflwynwyd copi ohono i’r Grantî yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

Parodd y Grantî fod copïau printiedig o’r Gorchymyn drafft yn cael eu cyhoeddi a’u cylchredeg, a rhoddodd hysbysiad o’r cais yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau i’r Gorchymyn gael ei wneud.

Mae Gweinidogion Cymru o’r farn y dylid gwneud y Gorchymyn canlynol yn awr.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 1 o’r Ddeddf ac sydd bellach wedi eu breinio(2)ynddynt hwy.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision Hafan Lydstep 2013 a daw i rym ar 13 Rhagfyr 2013.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “yr Ardal(“the Area”) yw’r ardal o wely’r môr ger Hafan Lydstep, Sir Benfro, a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn;

ystyr “y bysgodfa” (“the fishery”) yw’r hawl i bysgodfa unigol a grëir gan erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn;

ystyr “cragen las” (“mussel”) yw unrhyw bysgodyn cragen o’r math Mytilus edulis;

ystyr “cyfesuryn” (“co-ordinate”) yw cyfesuryn lledred a hydred yn System Geodetig Fyd-eang 1984;

mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(3);

ystyr “y Grantî” (“the Grantee”) yw Pembrokeshire Seafarms Ltd (Rhif y Cwmni: 07587777) sydd â’i swyddfa gofrestredig yn 91 New Road, Ynysmeudwy, Pontardawe, Abertawe, SA8 4PP neu pa bynnag berson arall sydd â hawl i’r bysgodfa am y tro; ac

ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw unrhyw berson sydd, neu yr ystyrir ei fod, yn ymgymerydd statudol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth o Ran 11 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(4).

Yr hawl i bysgodfa

3.  Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, mae gan y Grantî yr hawl i bysgodfa unigol am gregyn gleision o fewn yr Ardal am gyfnod o 15 mlynedd sy’n dechrau ar 13 Rhagfyr 2013.

Marcio terfynau’r Ardal

4.  Rhaid i’r Grantî farcio terfynau’r Ardal ym mha bynnag fodd a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd, a rhaid iddo gynnal y marcwyr hynny yn eu lleoedd ac mewn cyflwr da.

Manylion Daliadau

5.—(1Rhaid i’r Grantî gyflwyno i Weinidogion Cymru fanylion y daliadau—

(a)am y cyfnod o 13 Rhagfyr 2013 i 31 Mawrth 2014 ar 31 Gorffennaf 2014 neu cyn hynny; ac wedi hynny

(b)ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill i 31 Mawrth ar 31 Gorffennaf neu cyn hynny yn y flwyddyn y mae’r cyfnod hwnnw’n dod i ben.

(2Rhaid i fanylion daliadau at ddibenion paragraff (1) gofnodi—

(a)cyfanswm pwysau byw blynyddol y grawn cregyn gleision hynny a heuwyd yn y bysgodfa;

(b)lleoliad y ffynhonnell y daeth y grawn cregyn gleision hynny ohoni;

(c)cyfanswm pwysau byw blynyddol yr holl gregyn gleision hynny a gymerwyd o’r bysgodfa;

(d)lleoliad y man y cymerwyd y cregyn gleision hynny ohono; a

(e)pa bynnag wybodaeth bellach a fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd ac yr hysbysir y Grantî ohoni.

Cyfrifon o’r incwm a’r gwariant, gwybodaeth arall ac archwilio

6.—(1Rhaid i’r Grantî roi i Weinidogion Cymru gyfrifon blynyddol o incwm a gwariant y Grantî o dan y Gorchymyn hwn.

(2Heb leihau dim ar effaith paragraff (1), rhaid i’r Grantî gydymffurfio ag unrhyw gais a wneir gan Weinidogion Cymru am wybodaeth mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn.

(3Rhaid i’r Grantî ganiatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru archwilio’r Ardal a phob cyfrif a phob dogfen arall ym meddiant y Grantî ac sy’n ymwneud â’r Gorchymyn hwn, a rhaid iddo roi i’r person hwnnw unrhyw wybodaeth ynglŷn â’r materion hyn, y gofynnir amdani gan y person hwnnw.

Hawliau’r Goron

7.  Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy’n lleihau effaith unrhyw ystâd, hawl, pŵer, braint neu esemptiad y Goron, ac yn benodol, nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy’n awdurdodi’r Grantî i gymryd, i ddefnyddio neu i ymyrryd mewn unrhyw fodd ag unrhyw ran o lan neu wely’r môr neu lan neu wely unrhyw afon, sianel, cilfach, bae neu foryd neu unrhyw dir, hereditamentau, gwrthrychau neu hawliau o unrhyw ddisgrifiad sy’n eiddo i’w Mawrhydi drwy hawl ei Choron ac o dan reolaeth Comisiynwyr Ystad y Goron.

Hawliau ymgymerwyr statudol

8.  Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy’n lleihau effaith unrhyw swyddogaethau statudol a arferir gan ymgymerydd statudol.

Aseinio

9.  Ni chaiff y Grantî, heb ganiatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru ymlaen llaw, aseinio’r hawl hwn i bysgodfa, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ffordd arall, i unrhyw berson arall.

Alun Davies

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

18 Tachwedd 2013

Erthygl 2

YR ATODLENDISGRIFIAD O’R ARDAL

Yr ardal ger Hafan Lydstep, Sir Benfro, sy’n ymestyn i tua 168.4 hectar, ac sydd oddi mewn i linell sy’n cysylltu’r cyfesurynnau a rifwyd 1 i 15 yn y tabl isod.

Pwynt

Lledred

Hydred

151.65192433-4.75045881
251.65175551-4.74215006
351.65039301-4.72615546
451.64422322-4.72615158
551.64175708-4.72756911
651.63935718-4.72199540
751.63935719-4.74829837
851.64224522-4.74829832
951.64224521-4.73784891
1051.64460902-4.73272833
1151.64917244-4.73896288
1251.64839502-4.74477764
1351.64610147-4.74480989
1451.64611910-4.75363655
1551.64770128-4.75509229

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi i Pembrokeshire Seafarms Ltd (Rhif y Cwmni: 07587777) (“y Grantî”) yr hawl i bysgodfa unigol am gregyn gleision (Mytilus edulis) dros ardal o tua 168.4 hectar ger Hafan Lydstep, Sir Benfro, am gyfnod o 15 mlynedd yn dechrau ar 13 Rhagfyr 2013.

Diffinnir hyd a lled y bysgodfa drwy ddefnyddio’r cyfesurynnau a bennir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn ac a ddangosir, at ddibenion eglurhaol yn unig, ar fap sydd ar gael i’w archwilio (os gwneir apwyntiad o flaen llaw) yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Mae erthygl 3 yn rhoi’r hawl i bysgodfa unigol.

Mae erthygl 4 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Grantî yn marcio terfynau’r bysgodfa ym mha bynnag fodd y bydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo o bryd i’w gilydd, ac yn cynnal y marcwyr hynny yn eu lleoedd ac mewn cyflwr da.

Mae erthygl 5 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Grantî yn cyflwyno manylion y daliadau yn flynyddol i Weinidogion Cymru, gan gynnwys gwybodaeth benodedig.

Mae erthygl 6 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Grantî yn darparu cyfrifon blynyddol ac yn cydymffurfio â phob cais am wybodaeth a wneir gan Weinidogion Cymru. Mae’n ei gwneud yn ofynnol hefyd fod y Grantî yn caniatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru archwilio ardal y bysgodfa a’r holl gyfrifon a dogfennau eraill sydd ym meddiant y Grantî ac sy’n ymwneud â’r Gorchymyn hwn a’r ardal honno.

Mae erthygl 7 yn darparu na chaiff dim sydd yn y Gorchymyn hwn leihau effaith hawliau’r Goron ac mae erthygl 8 yn darparu na chaiff dim sydd yn y Gorchymyn hwn leihau effaith unrhyw swyddogaethau statudol a arferir gan ymgymerydd statudol.

Mae erthygl 9 yn gwahardd aseinio, neu drosglwyddo rywfodd arall, yr hawl i bysgodfa unigol a grëir gan y Gorchymyn hwn heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru.

Os na fodlonir Gweinidogion Cymru fod y Grantî yn ffermio’r bysgodfa neu’n gweithredu’r cyfyngiadau a’r rheoliadau a gynhwysir yn y Gorchymyn yn briodol, mae adran 5(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 yn darparu y caiff y Gweinidog wneud tystysgrif i’r perwyl hwnnw, a fydd yn terfynu’r bysgodfa yn llwyr, o ran yr ardal y gwneir y dystysgrif mewn perthynas â hi.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

1967 p. 83. Diwygiwyd adran 1 o’r Ddeddf gan adran 15(1) a (2) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p. 77); adran 1 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) (Diwygio) 1997 (p. 3); adran 9(1) o Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976, a pharagraff 15 o Atodlen 2 iddi (p. 86); adrannau 202(1) a (2), 203 a 321 o Deddf y Môr a Mynediad I’r Arfordir 2009 a Rhan 5(A) o Atodlen 22 iddi (p.23). Diwygiwyd Atodlen 1 i’r Ddeddf gan adran 15(1) a (7) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77); adran 31(6) o Ddeddf Cyfraith Trosedd 1977 (p.45), adrannau 37 a 46 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48) ac adran 202(4), 214(1) i (4) a 321 o Ddeddf y Môr a Mynediad I’r Arfordir 2009 a Rhan 5(A) o Atodlen 22 iddi (p.23).

(2)

Mae swyddogaethau’r Gweinidog priodol (fel y’i diffinnir yn adran 22(1) o’r Ddeddf) yn adran 1 o’r Ddeddf yn arferadwy o ran Cymru gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p.32).

(3)

2006 p.32. Mae diwygiadau i adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 nad ydynt yn berthnasol I’r Gorchymyn hwn.

(4)

1990 p.8 Disgrifir Rhan 11 yn y Ddeddf honno fel "Part XI".

Yn ôl i’r brig

Options/Help