Enwi, cychwyn a rhychwantLL+C
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2013.
(3) Mae i ddiwygiad, diddymiad neu ddirymiad a wneir gan y Gorchymyn hwn yr un rhychwant â'r ddarpariaeth y mae'n ymwneud â hi.
DehongliLL+C
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Corff” (“the Body”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990();
ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd 1995();
ystyr “deddfiad lleol” (“local enactment”) yw unrhyw Ddeddf leol neu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf leol neu yn rhinwedd Deddf leol;
ystyr “y Gorchymyn Sefydlu” (“the Establishment Order”) yw Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012().
Swyddogaethau cyffredinol Corff Adnoddau Naturiol CymruLL+C
3. Mae Atodlen 1 yn cynnwys diwygiadau i'r Gorchymyn Sefydlu.
Addasu a throsglwyddo swyddogaethau, darpariaethau canlyniadol a darpariaethau eraillLL+C
4.—(1) Mae Atodlenni 2 a 3 yn cynnwys diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol sydd—
(a)yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau datganoledig Cymreig Asiantaeth yr Amgylchedd;
(b)yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff ac i Weinidogion Cymru swyddogaethau datganoledig Cymreig y Comisiynwyr Coedwigaeth;
(c)yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau CCGC;
(d)yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran yr amgylchedd;
(e)yn gwneud darpariaeth ganlyniadol, atodol a chysylltiedig.
(2) Mae Atodlenni 4, 5 a 6 yn cynnwys diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sydd—
(a)yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau datganoledig Cymreig Asiantaeth yr Amgylchedd;
(b)yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff ac i Weinidogion Cymru swyddogaethau datganoledig Cymreig y Comisiynwyr Coedwigaeth;
(c)yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau CCGC;
(d)yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran yr amgylchedd;
(e)yn gwneud darpariaeth ganlyniadol, atodol a chysylltiedig.
Addasiadau eraill i ddeddfiadauLL+C
5. Mewn unrhyw ddeddfiad lleol sydd heb ei ddiwygio gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Gorchymyn hwn, mae unrhyw gyfeiriad at CCGC (sut bynnag y'i mynegir), ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at CCGC, i'w drin fel cyfeiriad at y Corff.
6. Mewn unrhyw ddeddfiad lleol sydd heb ei ddiwygio gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Gorchymyn hwn, mae unrhyw gyfeiriad at y Comisiynwyr Coedwigaeth (sut bynnag y'i mynegir) ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at y Comisiynwyr Coedwigaeth, i'w drin o ran Cymru fel cyfeiriad at y Corff.
7. Mewn unrhyw ddeddfiad lleol sydd heb ei ddiwygio gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Gorchymyn hwn, heblaw deddfiad sy'n ymwneud â mordwyo, mae unrhyw gyfeiriad at Asiantaeth yr Amgylchedd (sut bynnag y'i mynegir) ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at Asiantaeth yr Amgylchedd, i'w drin o ran Cymru fel cyfeiriad at y Corff.
Dileu Cyngor Cefn Gwlad CymruLL+C
8.—(1) Mae CCGC wedi ei ddileu.
(2) Gan hynny, mae'r canlynol wedi eu diddymu—
(a)adrannau 128 i 134 o Ddeddf 1990();
(b)Atodlenni 6, 8 a 9 i Ddeddf 1990();
(c)Rhan 1 o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949().
Dileu pwyllgorau ymgynghorolLL+C
9.—(1) Mae'r canlynol wedi eu dileu—
(a)Pwyllgor Ymgynghorol Gwarchod yr Amgylchedd a sefydlwyd yn unol ag adran 12(6) o Ddeddf 1995;
(b)y pwyllgor ymgynghorol pysgodfeydd rhanbarthol a lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 13(5) o Ddeddf 1995.
(2) Gan hynny, mae'r darpariaethau a ganlyn yn Neddf 1995 wedi eu diddymu—
(a)adran 12();
(b)adran 13();
(c)Atodlen 3;
(d)paragraff 3 o Atodlen 23.
Darpariaethau trosiannol ac arbedionLL+C
10. Mae Atodlen 7 yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbedion.
Alun Davies
Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
25 Mawrth 2013