Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio) 2014

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio) 2014.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Rhagfyr 2014, ond, yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5), mae’n cael effaith o 1 Gorffennaf 2013 ymlaen(1).

(3Mae paragraff 12(c) o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, a chymaint o erthygl 2 ag sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth honno, yn cael effaith o 25 Medi 2009 ymlaen.

(4Mae darpariaethau canlynol yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn, a chymaint o erthygl 2 ag sy’n ymwneud â’r darpariaethau hynny, yn cael effaith o 11 Ebrill 2011 ymlaen—

(a)paragraff 2(f)(ii),(iii) a (iv); a

(b)paragraff 2(g) (sy’n mewnosod rheol B5C (budd pensiwn ychwanegol)), i’r graddau y mae’n ymwneud â’r budd pensiwn ychwanegol o dan baragraff (3) o reol B5C, a’r diffiniadau o “beginning date” a “following relevant tax year” ym mharagraff (6) o reol B5C.

(5Mae darpariaethau canlynol yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn, a chymaint o erthygl 2 ag sy’n ymwneud â’r darpariaethau hynny, yn cael effaith o 1 Ebrill 2014—

(a)paragraff 15(f), (k) ac (l); a

(b)paragraff 20(b).

(6Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “awdurdod tân ac achub perthnasol” (“relevant fire and rescue authority”) mewn perthynas â pherson sydd â hawlogaeth i gael pensiwn neu berson y mae pensiwn yn daladwy iddo, yw—

(a)

yr awdurdod tân ac achub a fu’n cyflogi’r person hwnnw felly, ddiwethaf; neu

(b)

os peidiodd cyflogaeth y person hwnnw cyn 1 Hydref 2004, yr awdurdod tân ac achub a etifeddodd rwymedigaethau’r awdurdod tân a fu’n cyflogi’r person hwnnw ddiwethaf;

ystyr “y Cynllun” (“the Scheme”) yw Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) fel y’i pennir yn Atodlen 2 i Orchymyn 1992; ac

ystyr “Gorchymyn 1992” (“the 1992 Order”) yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992(2).

Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992

2.  Mae Atodlen 2 i Orchymyn 1992 (y pennir ynddi Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru)) wedi ei diwygio yn unol â’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

Darpariaethau trosiannol

3.—(1Nid yw’r diwygiadau a wneir gan baragraff 14(a)(iv) o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, i’r graddau y maent yn ymwneud â mewnosod paragraff (9) yn rheol LA2 (taliadau arbennig a throsglwyddiadau i Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân), yn cael effaith mewn perthynas â pherson sydd â hawl i gael taliadau pensiwn o dan y Cynllun ac a gyflogir gan unrhyw awdurdod tân ac achub, mewn cyflogaeth a ymgymerwyd gan y person hwnnw ar ddyddiad cynharach nag 1 Gorffennaf 2013.

(2Mewn achos y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, mae rheol LA2 o’r Cynllun, yn y ffurf yr oedd yn bodoli yn union cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym, yn parhau i gael effaith mewn perthynas â pherson o’r fath.

4.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i ddiwygiad a wneir gan erthygl 2 a’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn sy’n gymwys mewn perthynas â’r pensiynau a delir neu a ddaw’n daladwy o dan y Cynllun i bersonau neu mewn perthynas â phersonau sydd, ar ôl gwasanaethu mewn cyflogaeth y mae gwasanaeth ynddi’n cymhwyso personau i gyfranogi yn y buddion y mae’r Cynllun yn darparu ar eu cyfer, wedi peidio â gwasanaethu yn y gyflogaeth honno cyn 1 Gorffennaf 2013 (pa un a ydynt wedi ailddechrau gwasanaethu felly yn ddiweddarach ai peidio), neu a fu farw cyn y dyddiad hwnnw.

(2Caiff unrhyw berson, a osodir mewn gwaeth safle nag y byddai wedi bod ynddo pe na bai diwygiad y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo wedi ei wneud mewn perthynas ag unrhyw bensiwn a delir neu a allai ddod yn daladwy i’r person hwnnw, wneud dewisiad i’r perwyl na fydd diwygiad yn gymwys mewn perthynas â’r pensiwn hwnnw.

(3Rhaid i unrhyw ddewisiad o’r fath gael ei wneud drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod tân ac achub perthnasol o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n cychwyn gyda’r dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

8 Rhagfyr 2014

Yn ôl i’r brig

Options/Help