Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio) 2014

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 3242 (Cy. 329)

Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru

Pensiynau, Cymru

Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed

8 Rhagfyr 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Rhagfyr 2014

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 26(1) i (5) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947(1) ac adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972(2) fel y’i cymhwysir an adran 16(3)(3) o’r Ddeddf honno, ac a freinir bellach ynddynt hwy(4), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

(1)

1947 p. 41, a ddiddymwyd gan adran 52 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) ac Atodlen 2 i’r Ddeddf honno. Mae is-adrannau (1) i (5) o adran 26 yn parhau i gael effaith o ran Cymru at ddibenion y cynllun a sefydlwyd o dan yr adran honno, sef Cynllun Pensiwn y Dynion Tân, ac a bennir yng Ngorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (O.S. 1992/129), yn rhinwedd erthygl 3 o O.S. 2004/2918 (Cy. 257). Drwy erthygl 4 o’r offeryn hwnnw, newidiwyd enw’r Cynllun i Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru). Diwygiwyd adran 26 o Ddeddf 1947 gan nifer o wahanol Ddeddfau, ond nid yw’r diwygiadau hynny’n berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(2)

1972 p. 11; diwygiwyd adran 12 gan Ddeddf Pensiynau (Darpariaethau Amrywiol) 1990 (p. 7).

(3)

Diddymwyd adran 16 gan adran 52 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ac Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, ond mae’n parhau i gael effaith o ran Cymru yn rhinwedd erthygl 3(2) o Orchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004 O.S. 2004/2918 (Cy. 257).

(4)

Mae swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 26 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru. Yr oeddent wedi eu breinio’n flaenorol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler yr eitem ar gyfer Deddf y Gwasanaethau Tân 1947 yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), trosglwyddwyd y swyddogaethau i Weinidogion Cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Help